LO

Castell Caerffili. Adeiladwyd yn y ganrif un deg tri. 26/3/1994. (Image: CD2005_605_015 / NPRN: 94497) Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd. Llun o Feddrod Syr Richard Trevor. Diddyddiad. (Image: CD2005_622_026 / NPRN: 165221)

Croeso i Adnoddau Dysgu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Mae’n adran addysg yn darparu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein a chysylltau i ddetholiad o wefannau.

Yma ceir engreifftiau o’r deunydd sydd ar gael yn archif y Comisiwn – Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae y casgliad enfawr yn cynnwys ffotograffau, cynlluniau, mapiau, adroddiadau a lluniadau sy'n cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru.

Ceir yma hefyd syniadau ar sut y gellir eu defnyddio fel adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Adnoddau wedi eu hanelu at athrawon sydd yma ond gall rhai o’r nodiadau gael eu defnyddio gan blant. Yn sicr bydd y darluniau amrywiol o Gymru yn addas ac yn ddefnyddiol i blant ac athrawon. Gellir lawrlwytho’r deunydd am ddim ar gyfer defnydd addysgol.

Dewisiwch eich pwnc / oedran o’r ddewislen ar y chwith.

Mae’r Comisiwn yn croesawu ymweliadau gan ysgolion ac yn trefnu diwrnodau HMS ar gyfer athrawon. Am fwy o fanylion cysylltwch â’n Swyddog Addysg.