Prosiect a ariannir ag arian o Ewrop yw Cysylltiadau Metel, a daw â phedair hen gymuned fwyngloddio yng Nghymru ac Iwerddon at ei gilydd. Menter ar y cyd yw’r prosiect a’i nod yw datblygu cynaladwyedd amgylcheddol ac economaidd, cynyddu lles a balchder bro’r gymuned a chynnig cyfleoedd heddiw ac yfory. Bydd modd i gymunedau gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau, ac fe elwan nhw o gael arweiniad a hyfforddiant i ddefnyddio’r technegau diweddaraf mewn ymchwil maes archaeolegol, palaeobotanegol a daearegol.
Dyma amcanion creiddiol y prosiect:
• Hyfforddi grwpiau cymunedol i ddefnyddio’r technegau arolygu perthnasol;
• Gwneud gwaith maes mewn hen safleoedd mwyngloddio;
• Gwneud ymchwil achyddol i fywydau’r mwynwyr metel ac ymchwil hanesyddol i’r mwyngloddiau y buon nhw’n gweithio ynddynt a’r cymunedau yr oedden nhw’n rhan ohonynt;
• Gwneud gwaith samplu palaeoamgylcheddol yn yr Uwchdiroedd i helpu i ddeall y gweithgareddau mwyngloddio hanesyddol yn eu cyd-destun ehangach;
• Datblygu ffyrdd newydd o amlygu treftadaeth yr ardaloedd hynny drwy ddefnyddio animeiddiadau, apps a thechnolegau blaenllaw eraill.
Yn ystod y prosiect fe gynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn i’r cyhoedd allu ychwanegu eu cyfraniad nhw at hanes eu treftadaeth mwyngloddio. I ddilyn hynt y prosiect a chael gwybod am y digwyddiadau a ffyrdd eraill o ymwneud â’r gwaith, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.