Ein Gwasanaethau

Caer amddiffyn Ynys Draen, Angle. 2002 (Image: DI2006_1244 / NPRN: 402789) Goleudy Whitford Point. 1991. (Image: DI2005_0674 / NPRN: 34289)

Cofnodi Arforol

“…. gan gynnwys yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely môr, arno neu oddi tano …”

I lawer, deifio i’r môr i ymchwilio i longddrylliadau yw hanfod archaeoleg y môr am fod y gwrthrychau y ceir hyd iddynt yn aml yn datgelu cyfoeth o wybodaeth am fywyd ar fwrdd llong, am fasnachu neu am ryfela.

Ond nid deall hanes mordwyo yw unig faes archaeoleg y môr. Mae’n cynnwys astudio datblygiad porthladdoedd a’r ecsbloetio ar yr adnoddau a gludid mewn llongau. Porthladdoedd, harbwrs a mannau glanio yw’r mannau lle byddai anturiaethau morwrol yn cychwyn, a’r rheiny’n ffrwyth cynlluniau masnachwyr y bydd eu tai a’u warysau yn aml yn cynnwys cliwiau i’r cysylltiadau masnachu â gwledydd eraill. Am filoedd o flynyddoedd, bu’r morlwybrau prysur ar hyd glannau Cymru yn gyfrwng i bobl deithio, i nwyddau gael eu cyfnewid ac i ddiwylliannau ddylanwadu ar ei gilydd. Weithiau, gall dod o hyd i eitemau sydd wedi’u taflu dros y bwrdd neu wedi’u colli’n ddamweiniol ar hyd y morlwybrau fod lawn mor bwysig â dod o hyd i longddrylliad.

Yn ystod y cyfnodau mwy diweddar, mae’r awyrennau a gollwyd dros y môr wedi ychwanegu at nifer y drylliadau ar wely’r môr. Ymhlith y colledion mae un o’r awyrennau cyntaf i geisio hedfan dros Fôr Iwerydd a llu mawr o awyrennau a arferai hedfan yn ôl ac ymlaen o feysydd awyr milwrol ar hyd arfordir Cymru yn ystod y ddau ryfel byd. Er i lawer o’r gorsafoedd hynny ddarparu hyfforddiant i beilotiaid, gwasanaethau paratoi awyrennau a chyfleusterau storio, byddai criwiau’r awyrennau hefyd yn cyflawni rolau hanfodol yn y rheng flaen, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyrchoedd bomio ar Ffrainc, diogelu confois o longau ar draws Môr Iwerydd, a cheisio rhwystro cyrchoedd bomio ar Lerpwl a Manceinion.

Mae archaeoleg y môr hefyd yn cynnwys cynyddu’n dealltwriaeth o’r ffordd y mae tystiolaeth wedi goroesi o dirweddau sydd bellach o dan y don am fod lefelau’r môr wedi codi, yn enwedig ers yr oes iâ ddiwethaf, a sut y bu i’n hynafiaid, a drigai ar y tirweddau hynny, ymateb i’r newidiadau yn yr hinsawdd.

Mae Bae Ceredigion yn ganolbwynt i ddwy chwedl sy’n ymwneud â thiroedd sydd bellach o dan y dŵr. Y gynharaf yw’r un am foddi tir Maes Gwyddno pan adawodd offeiriades ffynnon y tylwyth teg i’r dŵr orlifo. Efallai i’r chwedl honno darddu o gyfnod pryd y sylwyd bod lefel y môr yn codi’n gymharol gyflym (rhyw 14m) o’r Oes Balaeolithig Uchaf ddiweddar i’r cyfnodau Mesolithig diweddar (10,500 - 6,500CC).

Fel y gwelir, mae’r amrywiol asedau treftadaeth sydd o ddiddordeb arbennig i raglen cofnodi arforol CBHC yn archif enfawr o wybodaeth a allai helpu i ail-greu hanes bywydau bodau dynol ar hyd arfordir Cymru wrth i’r arfordir hwnnw esblygu’n gyson. Ymhlith y prif asedau mae:

  • Tirweddau cynhanesyddol tanddwr, safleoedd cysylltiedig a dyddodion palaeoamgylcheddol
  • Safleoedd ar dir a gollwyd i’r môr oherwydd newidiadau ar hyd y glannau mewn oesoedd mwy diweddar
  • Llongddrylliadau (y rhai y cafwyd hyd iddynt ar wely’r môr a’r rhai y mae’n hysbys iddynt gael eu colli) a llongau a chychod a adawyd ar fannau rhynglanwol am nad oedd modd eu hachub
  • Awyrennau a gollwyd (y rhai y cafwyd hyd iddynt a’r rhai y mae’n hysbys iddynt gael eu colli)
  • Darganfyddiadau unigol o’r mannau rhynglanwol ac alltraeth a all awgrymu presenoldeb safle helaethach neu ddyddodion ac iddynt botensial archaeolegol
  • Nodweddion morweddol sydd wedi achosi perygl mawr i longau. Gall y rhain, ynghyd â’r cofnodion cysylltiedig ynghylch colli llongau neu awyrennau, fod yn fannau sydd â photensial archaeolegol mawr
  • Nodweddion morweddol neu dopograffig sy’n berthnasol i ffyrdd penodol pobl o ddefnyddio’r môr – er enghraifft, angorfeydd traddodiadol a meysydd pysgota hanesyddol.

Mae’r cylch gwaith i estyn cwmpas gofodol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn y maes alltraeth wedi’i bennu yn y Warant Frenhinol a roddwyd i’r Comisiwn ym mis Gorffennaf 2000.

Un o’r camau cyntaf a gymerwyd oedd caffael cronfa ddata ymchwil ac ynddi ryw 4,000 o gyfeiriadau dogfennol at longau a gollwyd. Mae penodi Swyddog Arforol amser-llawn ym mis Ebrill 2007 yn fodd i ddwyn rhaglen ddwys o waith yn ei blaen.

Dros y pum mlynedd nesaf (2008-2012) bydd staff yn CBHC yn ceisio gwneud hyn:

  • Darparu set helaethach o ddata a fydd wedi’i golygu i safon gofnodi arforol newydd CBHC (amcangyfrifir y bydd ynddi gofnodion o 5,000 o longau ac awyrennau a gollwyd, a 300 o nodweddion morweddol)
  • Datblygu haen GIS a fydd yn cynrychioli dadansoddiad o ddwysedd y llongau a’r awyrennau a gollwyd mewn mannau alltraeth (amcangyfrifir y bydd 4,000 o gofnodion) i ganfod mannau ac iddynt botensial archaeolegol mawr
  • Darparu cofnod helaethach o’r arfordir, gan gynnwys gwneud gwaith arolygu ar flaendraethau gan weithio gyda’r Gymdeithas Archaeolegol Forol (yr NAS) ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru
  • Darparu ychwanegiadau manylach at y cofnodion o longau ac awyrennau a gollwyd, a hynny i helpu i asesu pwysigrwydd y llongau a’r awyrennau unigol
  • Rhoi cyngor i Cadw ynghylch safleoedd y gall fod gofyn eu rheoli’n rhagweithiol a/neu roi amddiffyniad statudol iddynt i dynnu sylw at eu pwysigrwydd cenedlaethol.