Yn unol â’i bolisi casglu mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn croesawu cael cofnodion yn rhodd. Cawn gofnodion o lawer ffynhonnell, gan gynnwys archaeolegwyr a haneswyr pensaernïol proffesiynol ac amatur, ymchwilwyr a sefydliadau academaidd, cwmnïau masnachol, ac unigolion sy’n ymddiddori yn y maes.
Fe drefnir i bob rhodd a gawn ni fod ar gael i’r cyhoedd at ddibenion ymchwil, ond drwy gytundeb ymlaen llaw â’r Archifydd gellir gosod telerau cyfyngedig ynghylch hynny. Os y rhoddwyr yw deiliaid hawlfraint y cofnodion a gynigir, cânt gadw’r hawlfraint honno os dymunant, ond bydd CHCC hefyd yn croesawu cael yr hawlfraint fel rhan o’r rhodd. Os bydd y rhoddwr yn cadw’r hawlfraint, bydd CHCC yn gofyn am ganiatâd i ddigido’r cofnodion sydd wedi’u rhoi a threfnu iddynt fod ar gael ar ei wefan ei hun. Rhaid cael cytundeb yr Archifydd ymlaen llaw os bwriedir gofyn am eithriadau i’r caniatâd hwnnw. Yna, os daw cais i gyhoeddi cofnod sy’n destun rhodd ac os yw’r rhoddwr wedi cadw’r hawlfraint, fe gysylltwn ag ef/hi i ofyn am ganiatâd.
Os yw deiliad cofnodion yn dymuno cadw’r cofnodion gwreiddiol ond o’r farn y gallant fod o ddiddordeb i CHCC, byddwn ni’n falch o dderbyn eitemau ar fenthyg i’w copïo. Yma eto, gofynnwn am ganiatâd i drefnu i unrhyw gopïau ohonynt fod ar gael i’r cyhoedd drwy’n gwefan.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno rhoi cofnodion i CHCC gysylltu ag Archifydd CHCC, Gareth Edwards, drwy’r tudalen Cysylltwch â Ni. Dylai ddisgrifio cwmpas, cynnwys a maint y cofnodion sy’n cael eu cynnig, eu statws o ran hawlfraint, ac unrhyw gais i bennu amodau ynghylch eu rhoi ar adnau.