Ein Gwasanaethau

Odynau Calch Cilyrychen; Lime Firms Cyf. Llandybïe. 2004. (Image: DI2006_0850 / NPRN: 40661) Eglwys Sant Gwenog, Llanwenog. Llun o’r bedyddfaen. 2005. (Image: DI2006_0213 / NPRN: 220) Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Abercywyn; Eglwys y Pererinion. Beddau’r pererinion yn Eglwys Abercywyn. 2004. (Image: DI2006_0821 / NPRN: 102138)

Ein Gwasanaethau

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n ymddiddori yn hanes a threftadaeth adeiledig Cymru. Mae Coflein yn gronfa ddata ar-lein am ddim o’r safleoedd archaeolegol ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru. Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cadw ac yn caffael amrywiaeth mawr o ddeunydd drwy ymchwil, adneuon swyddogol a rhoddion preifat, gan gynnwys mapiau hanesyddol, cardiau post, ffotograffau a lluniadau pensaernïol. Caiff ymholiadau ynghylch archaeoleg y dirwedd ac archaeoleg arforol, adeiladau hanesyddol a nodau tir eu hateb gan dîm pwrpasol sy’n darparu gwasanaethau i ddarllenwyr. Y Gangen Arolygu sy’n gyfrifol am ymchwilio i safleoedd, adeiladau a thirweddau archaeolegol a hanesyddol a’u cofnodi, ac mae’n darparu gwasanaeth ymgynghori proffesiynol i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ym maes treftadaeth. Byddwn ni’n cyflenwi deunydd ar gyfer pob cyfnod addysg, o’r ysgol gynradd hyd at addysg gydol oes. Rhoddwn gyngor ynghylch defnyddio ein deunydd archifol ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol ac fe drefnwn sesiynau hyfforddi mewn-swydd. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn falch o gefnogi mentrau treftadaeth gymunedol ac yn cynnig cymorth, cyngor, arddangosfeydd a darlithiau i gymdeithasau a grwpiau cymunedol.

Ydych chi'n credu y gallwn ni wella ein gwasanaethau ar y we? Rhowch wybod inni drwy nodi eich sylwadau ar flog Newyddion Treftadaeth Cymru.