Cyhoeddiadau

Cerig, Rhoscolyn. Bwthyn wedi mynd â’i ben iddo gyda pheth o’i do gwellt ar ôl. 1930. (Image: CD2003_619_023 / NPRN: 15641) Castell Penfro. 1990. (Image: DI2005_0919 / NPRN: 94945)

Llyfryddiaeth

Ers ei sefydlu, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi credu mai cyhoeddi ffrwyth ei ymchwiliadau yw un o’r prif dasgau sydd ganddo. Tan ganol y 1970au, Inventories y siroedd oedd y prif gynnyrch, ond ers cyhoeddi’r argraffiad cyntaf o Houses of the Welsh Countryside rhoddwyd mwy o bwys ar gyhoeddi thematig. Yr Inventory sirol diwethaf oedd Glamorgan: Later Castles. Mae’r Comisiwn yn dal i gyhoeddi gweithiau ysgolheigaidd sylweddol ac yn cyfuno hynny ag astudiaethau thematig neu astudiaethau ardal byrrach a phamffledi technegol a gyhoeddir rhwng cloriau caled ac ar ffurf electronig.

Mae staff y Comisiwn Brenhinol yn cyfrannu astudiaethau o bwys i lenyddiaeth archaeolegol, bensaernïol a hanesyddol Cymru ers diwedd y 1920au, a hynny’n aml fel cangen o’u prif waith ar yr Inventories ond hefyd ar eu liwt eu hunain.

Bydd y llyfryddiaeth yn rhoi i chi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau swyddogol y Comisiwn a gwaith ymchwil cyhoeddedig y staff ym maes astudiaethau treftadaeth Cymru.