Mae dwy ffordd o chwilio am wybodaeth drwy Coflein: defnyddio’r cyfleuster mapio neu chwilio am destun. Bydd y naill ddull a’r llall yn mynd â chi i gronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Bydd y cyfleuster mapio’n fwy defnyddiol os gwyddoch chi leoliad safle penodol neu os hoffech chi weld beth arall sydd yn yr ardal, a hynny am ei fod yn gadael i chi symud o gwmpas map o Gymru a mynd i mewn ac allan o fapiau ar amrywiol raddfeydd tan i chi ddod o hyd i'r safle neu'r ardal sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch glicio ar safleoedd unigol i gael gwybodaeth, neu fe allwch ddewis sawl un ohonynt gyda’i gilydd.
Mae chwiliad y testun yn well os ydych chi’n chwilio am fathau penodol o heneb neu am safleoedd ar sail rhyw ddosbarthiad arall, megis enw, dosbarth bras neu gyfnod. Ond gall hefyd gael ei ddefnyddio i ddod o hyd i safleoedd mewn tiriogaeth ragbenodedig fel cymuned neu sir, neu hyd yn oed sgwâr grid pum-cilometr yr Arolwg Ordnans. Dyma’r dull cyflymaf os ydych chi’n chwilio am safleoedd a henebion archaeolegol neu bensaernïol ynghyd â lluniau ohonynt, ond cewch hefyd gyfleuster allweddeiriau sy’n chwilio am bob achos o’r geiriau penodedig yn y gronfa ddata.
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r safle yr ydych chi’n chwilio amdano, caiff detholiad o wybodaeth o gronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ei harddangos, gan gynnwys yr enw a’r lleoliad a’r math o safle, heneb neu adeilad. Os oes testun disgrifiadol ar gael, cewch hwnnw hefyd, ynghyd â gwybodaeth o gatalog archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru am y safle, a mynediad i unrhyw luniau ar-lein.