Mae’r Comisiwn Brenhinol ac Adran Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu cyfleuster ar-lein newydd sy’n fodd i chwilio casgliadau’r Amgueddfa Genedlaethol o arteffactau ochr yn ochr â gwybodaeth am safleoedd archaeolegol ar Coflein. Am y tro cyntaf, mae modd chwilio’r ddau gasgliad cenedlaethol gyda’i gilydd.
Gwneir y chwilio drwy gyfleuster mapio Coflein, sy’n dangos lleoliad arteffactau archaeolegol (neu ‘ddarganfyddiadau’) ar ffurf dotiau lliw yn erbyn mapiau graddfa-fawr yr Arolwg Ordnans. Caiff y safleoedd sydd wedi’u rhestru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru eu dangos ar ffurf dotiau o liw gwahanol. Drwy glicio ar y dotiau fe gewch chi wybodaeth fanwl am y casgliadau.
Mae’r cyfleuster hwn yn rhan o’r datblygu parhaus ar y cronfeydd data cyhoeddus sy’n deillio o’r bartneriaeth SWISH arloesol rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban. Mae’n rhan o gam cyntaf sefydlu porth cenedlaethol i amgylchedd hanesyddol Cymru. Gan y bydd gwybodaeth o gronfeydd data Cadw hefyd ar gael yng nghyfnod cyntaf hwn o’r porth, bydd modd cymryd un cam i chwilio ar draws pob un o’r tri sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.