Dyddiad: 30 Mawrth 2011
Manylion:
Dyddiad y Digwyddiad: Dydd Sadwrn, 14 Mai 2011
Lleoliad: Dyffryn Brenig
Math o Ddigwyddiad: Taith dywys o amgylch safleoedd a henebion y dyffryn.
Mae’r broses o ymchwilio i archaeoleg uwchdiroedd Cymru yn mynd rhagddi ers ugain mlynedd fel rhan o fenter y Comisiwn Brenhinol, Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd. Adnodd archaeolegol pwysig yw’r uwchdiroedd ac mae yno gyfoeth o olion o bob cyfnod. Am fod eu poblogaeth yn fach ac am na ddefnyddiwyd mwy a mwy ar y tir dros y canrifoedd diwethaf, mae nifer dda o’r safleoedd wedi goroesi. Mae lle mawr wedi bod i uwchdiroedd y gogledd, a Sir Ddinbych yn arbennig, yn y prosiect. Wrth i’r gwaith maes fynd rhagddo ac i’r arolygu ar flociau eithaf pendant o uwchdir ddod i ben, mae rhaglen gyhoeddi wedi cychwyn a’r cyntaf mewn cyfres o lyfrau ar dreftadaeth uwchdiroedd Cymru yw Mynydd Hiraethog/The Denbigh Moors. Rhan bwysig o’r fro yw dyffryn Brenig, dyffryn a fu’n ganolbwynt i weithgarwch pobl am filoedd ar filoedd o flynyddoedd. Mae’n ddigon adnabyddus oherwydd yr henebion claddu a’r henebion crefyddol o’r Oes Efydd a gloddiwyd yno yn y 1970au, ac ers hynny mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u hadfer i fod yn rhan o lwybr archaeolegol a ddynodir gan arwyddion. Yn ddiweddar, mae’r dyffryn wedi bod yn destun gwaith arolygu manwl gan y Comisiwn i gydategu’r cyhoeddiad.
Fe aiff y daith gerdded o amgylch y fynwent gan roi sylw i safleoedd o gyfnodau diweddarach a chyflwyno ffrwyth gwaith maes diweddar. Bydd yn apelio at bawb sy’n mwynhau golygfeydd yr uwchdiroedd, yn ymddiddori mewn astudio safleoedd hynafol ac yn awyddus i wybod rhagor amdanynt.
Bydd y daith yn rhyw 4 milltir o hyd ac yn weddol ddwys. Gradd ‘C’ a roir iddi gan Gymdeithas y Cerddwyr. Arweinir y daith gan archaeolegwyr proffesiynol sydd wedi bod yn astudio’r fro. Os hoffech chi ddod ar y daith, rhowch wybod am eich diddordeb ynddi drwy gysylltu â Jane Durbin ar 01970-621234 neu anfon e-bost i jane.durbin@cbhc.gov.uk