Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg
Dyddiad Lawnsio: 2009-01-20
Datganiad i'r wasg:
Ddydd Sadwrn 9 Mai 2009 bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal Diwrnod Agored ac yn gwahodd y cyhoedd i ddod i’w swyddfeydd yn Aberystwyth fel rhan o’r dathliadau ar gyfer canmlwyddiant y sefydliad. Bydd hwn yn gyfle i bobl gael gwybod rhagor am yr hyn sydd y tu ôl i waith y Comisiwn Brenhinol fel y’i dangoswyd yn ddiweddar ar gyfres deledu’r BBC Hidden Histories.
Caiff ymwelwyr glywed sgyrsiau a darlithiau gan arbenigwyr ar archaeoleg a hanes pensaernïaeth, gweld deunydd archifol unigryw yn yr ystafelloedd darllen, mynd ar daith o amgylch y storfeydd archifol, gweld arddangosiadau a chyfarfod â’r staff. Yn ystod blwyddyn ei ganmlwyddiant, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cynnal gweithdai, cynadleddau a digwyddiadau sy’n arddangos ei waith fel y corff cenedlaethol o ymchwil a chofnodion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.
Mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a gedwir yn swyddfeydd y Comisiwn, dros filiwn a chwarter o ffotograffau a miloedd ar filoedd o luniadau, arolygon, adroddiadau a mapiau o filoedd o safleoedd archaeolegol ac adeiladau o bwys pensaernïol ym mhob cwr o Gymru. Bydd yr archif yn tyfu o ddydd i ddydd wrth i wybodaeth gael ei chasglu’n uniongyrchol drwy raglenni ymchwil ac arolygu’r Comisiwn Brenhinol ac wrth i ddeunydd gael ei roi iddo gan sefydliadau eraill ac unigolion.
Drwy Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn, mae modd cyrchu manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru, ynghyd â chatalog i’r lluniadau, llawysgrifau a ffotograffau a gedwir yng nghasgliadau’r archif.
10:45 Sue Fielding:
Gorffennol Digidol - delweddu treftadaeth Cymru / Digital Past – visualising the heritage of Wales
12:15 Toby Driver:
Darganfod archaeoleg o’r awyr / Discovering archaeology from the air
13:45 Richard Suggett:
Darganfod tai hynaf Cymru / Discovering the oldest houses in Wales
14:45 Deanna Groom:
Treftadaeth llongddrylliadau Cymru / Shipwreck heritage of Wales
Cynhelir teithiau o amgylch storfeydd yr archif ac ymweliadau ag is-adrannau’r Comisiwn ar arolygu o’r awyr, ffotograffiaeth ymchwilio, modelu tirweddau mewn 3D digidol ac ymchwilio archaeolegol am 10:30; 12:00; 13:30; 15:00
Gan mai cyfyngedig yw’r lleoedd ar y teithiau a’r sgyrsiau, archebwch le’n gynnar i osgoi cael eich siomi:
01970 621200 / chc.cymru@cbhc.gov.uk
Y Comisiwn Brenhinol, Adeiladau’r Goron, Plas Crug, Aberystwyth, SY23 1NJ
www.cbhc.gov.uk
http://www.coflein.gov.uk/
Diwedd
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â Patricia Moore, Pennaeth y Llyfrgell a’r Gwasanaeth Ymholiadau, 01970 621200
Cyswllt yn CBHC: Patricia Moore