Amdanom Ni

Llangollen Canal (Image: DS2007_063_001 / NPRN: 405725 / Source: RCAHMW) Traphont Pontcysyllte, Camlas Llangollen, Froncysyllte. 2005. (Image: DI2005_0878 / NPRN: 34410)

Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg

Neges gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan

Dyddiad Lawnsio: 2008-01-11

Datganiad i'r wasg:
Neges gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan

Dwi’n falch iawn o gael cynnig y neges hon i’r Comisiwn Brenhinol ar Ben-blwydd arbennig iawn. Bydd y Comisiwn eleni’n ymuno â’r sefydliadau cyhoeddus nodedig eraill yng Nghymru sydd wedi cyrraedd eu canmlwyddiant. Yn sicr, mae’n gamp iddo fod wedi darparu gwasanaeth arbenigol o fri i bobl Cymru gyhyd, a hynny mewn maes sydd mor agos at galonnau pobl, sef treftadaeth ein cenedl – treftadaeth sy’n rhoi cymaint o falchder ac ymwybyddiaeth o le i ni.


Rôl draddodiadol y Comisiwn oedd arolygu a dehongli am mai ef oedd gwarcheidwad y cofnod cenedlaethol o’n hamgylchedd hanesyddol. Mae hynny wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf i faes datblygu arferion archaeolegol modern sy’n gysylltiedig â thechnoleg gwybodaeth, gan gynnwys adlunio digidol a chreu ‘e-lwybrau’ arloesol. Dyna i chi hefyd y meithrin parhaus ar bartneriaethau â grwpiau a sefydliadau eraill sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a chofnodi’n treftadaeth, gan gynnwys y cyswllt â Chomisiwn yr Alban i ddatblygu gwasanaethau ar-lein Coflein a Phorth Cymru Hanesyddol, porth sydd hefyd yn cynnwys Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cadw ac Amgueddfa Cymru.


Ar wahân i’r mentrau arloesol hynny, sy’n helpu i ddod â’n treftadaeth yn nes at bobl Cymru, mae swyddogaethau creiddiol y Comisiwn Brenhinol yn dal i fod mor bwysig ag erioed. Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth pellach ei brosiectau nodedig ar bensaernïaeth capeli, y dreftadaeth arforol a thirweddau’r uwchdiroedd, prosiectau sydd, ymhlith eraill, yn trawsffurfio’n gwybodaeth a’n cofnod o’n gwlad.


Mae dyfodiad canmlwyddiant yn foment bwysig i edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd ac i ymfalchïo ynddo. Yr un pryd, mae llawer i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd nesaf. Dwi’n siwr y bydd y Comisiwn yn wynebu sialensiau ei ail ganrif â’r un agwedd benderfynol ac â’r un parodrwydd i arloesi â chynt.