Amdanom Ni

Llangollen Canal (Image: DS2007_063_001 / NPRN: 405725 / Source: RCAHMW) Traphont Pontcysyllte, Camlas Llangollen, Froncysyllte. 2005. (Image: DI2005_0878 / NPRN: 34410)

Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg

Dyfarniadau am ymchwil ar y cyd ar hanes Cymru

Dyddiad Lawnsio: 2011-01-25

Datganiad i'r wasg:

DATGANIAD I'R WASG


18 Ebrill 2008


Dyfarniadau am ymchwil ar y cyd ar hanes Cymru


Mae academyddion o Adran Hanes Prifysgol Abertawe wedi derbyn dau ddyfarniad am ymchwil ar y cyd gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Rhoddwyd y dyfarniadau, sy'n werth bron i £48,000 yr un, gan Gynllun Dyfarniadau Doethuriaethau Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Byddant yn cyllido dwy ysgoloriaeth ymchwil ôl-radd o bwys am brosiectau ar

‘Perchenogion llongau, hanes morwrol a threfol’ ac 'Amgylchedd hanesyddol chwaraeon Cymru’.


Bwriad y gwobrau yw annog a datblygu cydweithrediad rhwng prifysgolion a sefydliadau anacademaidd. Maent hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD ennill profiad ymarferol o waith y tu allan i amgylchedd academaidd.


Bydd y prosiect cyntaf, sy'n gydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Dr Louise Miskell, uwch-ddarlithydd mewn Hanes yn y Brifysgol, yn ymchwilio i rôl y perchenogion llongau mewn hanes trefol.


Mae cofnodion perchenogaeth llongau ym mhorthladd Abertawe, a gedwir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Gwasanaethau Archifau Gorllewin Morgannwg, yn cynnig cyfle i adnabod y prif gyllidwyr a oedd ar waith yng nghymuned forwrol Abertawe yn ystod y 19eg ganrif ac i asesu i ba raddau roedden nhw'n ffurfio grŵp â hunaniaeth gydlynus gyda llais penodol mewn llywodraeth drefol.


Bydd yr ail brosiect, sy'n gydweithrediad rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Dr Martin Johnes, darlithydd mewn Hanes yn y Brifysgol, yn archwilio amgylchedd hanesyddol chwaraeon Cymru.


Gan ddefnyddio hen fapiau, casgliadau ffotograffaidd hanesyddol, a chofnodion sefydliadau chwaraeon fel Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chynghreiriau lleol, bydd ymchwilwyr y prosiect yn catalogio prif leoliadau chwaraeon Cymru ac yn nodi pwysigrwydd pensaernïol a hanesyddol mannau llai hysbys a rhai angof.


Meddai Dr David Jenkins Uwch-Guradur Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru: “Tra bo llawer o ramant yn gysylltiedig â hanes 'Morwyr yr Horn' o Abertawe, cymharol ychydig o ymchwil o ddifrif a wnaed ar griwiau'r llongau mwyn copr, strwythur ariannol perchenogi llongau yn y 19eg ganrif a statws perchenogion llongau yng nghymuned y dref ar y pryd.


“Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn ychwanegu'n sylweddol at ein gwybodaeth o weithgaredd morwrol Cymru yn y 19eg ganrif, gyda phwyslais arbennig ar rôl Abertawe yn y stori honno.”


Dywedodd Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Er mai ni yw sefydliad cenedlaethol cofnodi etifeddiaeth adeiledig Cymru, dydyn ni ond wedi llwyddo i wneud ychydig o waith arolwg ar etifeddiaeth chwaraeon Cymru hyd yn hyn, er enghraifft cofnodi chwalu'r Stadiwm Genedlaethol yng Nghymru ac adeiladu Stadiwm y Mileniwm trwy ffotograffiaeth o'r awyr.


“Mae hyn yn gyfle gwych i roi mannau chwaraeon Cymru, yn rhai mawr a bach, ar y map treftadaeth, gyda manylion ar gael i bawb trwy ein harchif cyhoeddus a gwasanaethau gwybodaeth ar-lein.”


Dywedodd Dr Martin Jones o Brifysgol Abertawe: "Bydd y ddau brosiect yn help i ddatblygu gwybodaeth academaidd, a hefyd yn creu adnoddau a gaiff eu defnyddio gan y cyhoedd ehangach. Mae'r dyfarniadau’n dangos ymrwymiad yr Adran hanes i weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ac i'w rôl yn y gymuned hanesyddol ehangach.


“Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil hefyd yn rhoi cyfle ardderchog sy'n mynd y tu hwnt i ddoethuriaethau arferol i'r rhai llwyddiannus i adeiladu gyrfaoedd mewn Hanes.”


DIWEDD


Nodiadau i olygyddion:


  • Dyma bedwaredd rownd cynllun dyfarniadau doethuriaethau ar y cyd AHRC. Ers i'r cynllun gael ei weithredu'r tro cyntaf, rhoddwyd tua 60 o ddyfarniadau bob blwyddyn. Yn y tair rownd flaenorol (2005, 2006, 2007) dim ond pedwar dyfarniad a wnaed i sefydliadau yng Nghymru.

  • Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol o safon fyd-eang, sy’n cael ei harwain gan ymchwil. Saif mewn tir parc ysblennydd yn edrych dros Fae Abertawe ar ymyl penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU. Cafodd y Brifysgol ei sefydlu ym 1920, ac erbyn hyn mae’n cynnig 500 o gyrsiau i fyfyrwyr israddedig a 100 o gyrsiau ôl-radd i fwy na 12,000 o fyfyrwyr. Ewch i www.abertawe.ac.uk.

  • Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe. Mae'n adrodd hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru yn ystod y 300 mlynedd diwethaf. Mae'n un o saith amgueddfa ym mhob rhan o Gymru sy'n ffurfio rhan o Amgueddfa Cymru. Mae mynediad i bob amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ewch i: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/

  • Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dathlu ei Ganmlwyddiant. Wedi ei sefydlu yn 1908, mae'n awr yn Sefydliad wedi ei Noddi gan Lywodraeth y Cynulliad, a'i ganolfan yn Aberystwyth. Hwn yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer arolygon a chofnodion safleoedd archeolegol, adeiladau, tirweddau a gweddillion morwrol Cymru ac mae'n cynnal y Cofnod Henebion Cenedlaethol fel archif awdurdodol amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae ei chronfa ddata we ar-lein yn cynnig gwybodaeth am tua 80,000 o safleoedd yng Nghymru, www.coflein.gov.uk. Ewch i www.cbhc.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Evans, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050 neu e-bostiwch wasg@abertawe.ac.uk.