Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg
Dyddiad Lawnsio: 2006-11-20
Datganiad i'r wasg:
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Cymru a Cadw ar fin lansio ‘Cymru Hanesyddol’ mewn partneriaeth â’i gilydd, sef porth ar y we a fydd yn darparu mynediad i holl gasgliadau’r tri sefydliad. Bydd y digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Mercher, 22 Tachwedd, pan fyddwn yn lansio’r cam cyntaf, sef cynnwys data o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a chasgliadau archaeoleg Amgueddfa Cymru.
Bydd y porth yn darparu manylion miloedd o safleoedd archeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd morol yng Nghymru o gronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol. Mae Amgueddfa Cymru wedi cyfrannu dros 140,000 o gofnodion sy’n ymwneud â’i chasgliadau archeolegol o Gymru, gan gynnwys deunydd a gedwir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, ac Amgueddfa Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon. Mae’r casgliadau hyn yn cyfeirio at y cyfnod rhwng dyfodiad y bobl gyntaf i Gymru 250,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at y cyfnod ar ôl y Canol Oesoedd.
Dechreuodd y gwaith ar gronfa ddata’r Amgueddfa ym 1990, ac er bod hyn yn dal i barhau, rydym bellach wedi cywain digon o ddata i roi adlewyrchiad bras o’r amrywiaeth ddaearyddol a chronolegol a geir yng nghasgliadau archeolegol yr Amgueddfa Genedlaethol.
"Mae’r fenter hon yn gam pwysig yn y broses o ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ynglŷn â thrysorau archeolegol y genedl. Drwy lwytho gwybodaeth ynglŷn â’r gwrthrychau sydd yng ngofal Amgueddfa Cymru i safle’r Comisiwn Brenhinol, byddwn yn darparu adnodd unigryw fydd yn galluogi rhai sydd â diddordeb yn hanes eu hardal i greu darlun o’u gorffennol", meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon,
“Mae gwefan “Cymru Hanesyddol” yn adnodd amhrisiadwy i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hanes cyfoethog ac amrywiol Cymru. Mae'r wefan yn llawn gwybodaeth i haneswyr amatur a phroffesiynol fel ei gilydd. Drwy glicio ar eich llygoden, gallwch ddatguddio hanes Cymru drwy edrych ar gofnodion a chasgliadau archaeoelgol cynhwysfawr.”
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.
Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.