Gall y Comisiwn Brenhinol ddarparu:
Lluniau o’n llyfrgell o fwy na 1.25 miliwn o luniau, gan gynnwys awyrluniau, golygon hanesyddol, adluniadau, ffotograffau cofnodi a chynlluniau.
Gwybodaeth am safleoedd a lleoliadau penodol neu bynciau hanesyddol a phensaernïol.
Sylwebaeth arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd sy’n ymwneud ag archaeoleg, pensaernïaeth a’r dreftadaeth adeiledig.
I gael gwybodaeth am leoedd neu safleoedd penodol, chwiliwch ein cronfa ddata ar-lein Coflein. Neu mae modd cysylltu â’n gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus
Mae’r holl ddeunydd a gynhwysir yn natganiadau’r Comisiwn Brenhinol i’r wasg ar gael i’w ddefnyddio’n syth yng nghyd-destun storïau newyddion perthnasol. Gan amlaf, bydd lluniau ychwanegol ar gael. Dylid rhoi ‘Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’ wrth bob llun.