Amdanom Ni

Penrhyd, Tal-y-cafn. Lluniad mewn inc o cynllun y porthordy.  O gasgliadau'r CHCC: Hawlfraint H. L. North. Diddyddiad. (Image: CD2005_604_004 / NPRN: 96657) Castell Trefaldwyn. 1999. (Image: CD2003_602_034 / NPRN: 92482)

Y Timau

Rydym yn cyflawni ein cynnyrch a’n hallbynnau drwy chwe thîm gwasanaeth. Cewch hyd i holl fanylion cyswllt y staff yma.

Mae Tîm yr Archif a’r Llyfrgell yn darparu archif awdurdodol, barhaol o amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae’r Tîm Gwasanaethau Data yn darparu gwasanaethau data rhagorol sy’n sicrhau bod gwybodaeth effeithiol ar gael ar-lein am amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae’r Tîm Cofnodi ac Ymchwilio yn rhoi prosiectau ymchwil thematig ar waith sy’n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth, yn paratoi dogfennau o safon am asedau treftadaeth neilltuol ac asedau treftadaeth sydd mewn perygl, ac yn rhoi cyngor diduedd, arbenigol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’r Tîm Archwilio Strategol yn sicrhau bod asedau treftadaeth nad oeddem yn gwybod amdanynt o’r blaen yn cael eu nodi ac yn cael eu cynnig i Cadw fel asedau i’w diogelu’n statudol, lle bo’n briodol.

Mae’r Tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn paratoi cyhoeddiadau a dogfennau cyfathrebu hygyrch ac awdurdodol sy’n hybu dealltwriaeth o’n gwaith ac yn annog pobl i ymddiddori ynddo, yn sicrhau bod y cyhoedd, addysgwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn dod i wybod am yr adnoddau sydd ar gael, ac yn hyrwyddo arloesedd a rhagoriaeth.

Mae’r Tîm Strategaeth ac Adnoddau yn sicrhau bod y Comisiwn Brenhinol yn sefydliad darbodus ac effeithiol.

Caiff prosiectau’u cyflawni gan Dimau Prosiect tymor-benodol sy’n cydgysylltu cyfraniadau gan bob un o’r timau gwasanaeth. Mae gan rai ohonynt staff penodedig ychwanegol.