Amdanom Ni

Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn. 2004. (Image: DI2006_0802 / NPRN: 101882) Castell Treganllo, Merthyr Mawr. Diddyddiad. (Image: DI2006_1058 / NPRN: 93050) . (Image: DS2009_263_001 / NPRN: 405315 / Source: RCAHMW)

Yr Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru

Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyngor i’r Gweinidog dros Dreftadaeth gan ei Grwˆ p Amgylchedd Hanesyddol, fforwm cynghori yn cynnwys sefydliadau cenedlaethol a lleol a sefydlwyd ar gyfer y Gweinidog gan Cadw. Nod y ddogfen hon yw:

  • egluro’r problemau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru;
  • nodi’r blaenoriaethau o ran y camau posibl i’w cymryd gan sefydliadau neu bartneriaethau;
  • rhoi trosolwg strategol i Weinidogion, byrddau llywodraethwyr, awdurdodau lleol ac arweinwyr eraill.

Lluniwyd y ddogfen gan y Grwˆ p Amgylchedd Hanesyddol gyda chyngor gan ei aelod gyrff ac fe’i diwygiwyd yn dilyn ymgynghoriad gyda’r sector yn y gynhadledd i randdeiliaid amgylchedd hanesyddol ac yn dilyn y gynhadledd honno. Mae’r ddogfen yn rhoi trosolwg o amrywiaeth, ehangder a chyfoeth asedau amgylchedd hanesyddol Cymru a’r rhai sy’n
cyfrannu ato ac yn ei gefnogi. Mae hefyd yn ceisio dangos cyfraniad y sector i flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau o ran:

  • hunaniaeth gymunedol a lles;
  • dysgu gydol oes;
  • amgylchedd cynaliadwy;
  • bywiogrwydd economaidd;
  • iechyd a lles personol;
  • balchder cenedlaethol a natur unigryw leol.

I grynhoi, mae’r Grwˆ p Amgylchedd Hanesyddol yn dod i’r casgliad bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn amrywiol, yn nodedig ac o safon eithriadol. Gallwn ddangos sut mae’n cyfrannu at gyfoethogi bywydau pobl, hunaniaeth y genedl a’n llwyddiant economaidd mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, gallai gwybodaeth am lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwerthuso cynnydd ac effeithiau fod yn gryfach. Mae pob partner yn y sector yn rhannu’r weledigaeth o amgylchedd hanesyddol sy’n gyfoethog, yn amrywiol, y gofelir
amdani ac sy’n hygyrch i bawb ac sy’n cefnogi ein lles economaidd, cymdeithasol ac emosiynol. Cyflawnir hyn drwy weithgarwch ymchwilio, diogelu, rheoli, dehongli a hyrwyddo. Mae’r materion presennol sy’n effeithio ar gyflawni'r weledigaeth yn perthyn i gyfres o themâu, a fynegir yn y brif ddogfen ac a nodir yn fyr isod.
Ar gyfer pob un o’r themâu, dilynir trafodaeth ar gryfderau a phwysau ac awgrymir nifer o gamau gweithredu i’w hystyried gan bartneriaid yn y sector.

Dogfennau

Cysylltau allanol