Amdanom Ni

Castell Caerffili. Lluniad pen ac inc o ben cerfiedig yng Nghastell Caerffili. 1990. (Image: DI2005_0010 / NPRN: 94497) Castell Cas-gwent. Clwyd bren ganoloesol wreiddiol prif borthdy’r dref. 23/9/2001. (Image: DS2005_006_004 / NPRN: 95237)

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored yn ei fusnes ac mae’n addo cydymffurfio â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Chod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth.

Mae gan y Comisiwn Brenhinol Bolisi ar Ryddid Gwybodaeth, a gallwch ei lwytho i lawr ar ffurf dogfen PDF o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohono, bydd croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gopi.

Y Cynllun Cyhoeddi

Mae Cynllun Cyhoeddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol) wedi’i lunio o dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Diben y Cynllun Cyhoeddi yw nodi:

Pa wybodaeth yr ydym yn addo’i chyhoeddi fel rhan o’r drefn.

Sut y caiff y wybodaeth honno’i chyhoeddi.

A yw’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim neu am dâl.

Mae gan y Comisiwn Brenhinol Gynllun Cyhoeddi, a gallwch ei lwytho i lawr ar ffurf dogfen PDF o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohono, bydd croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gopi.

Dogfennau