Ar 3 Mai 2012, cyflwynodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn Llywodraeth Cymru, Ddatganiad Ysgrifenedig i Aelodau Cynulliad Cymru yn cyhoeddi sefydlu ‘gweithgor i greu proses y gellid ei defnyddio i uno swyddogaethau craidd y Comisiwn Brenhinol â sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw’.
Ar 17 Ionawr 2013, gorchmynnodd y Gweinidog baratoi achos busnes ar gyfer uno gwasanaethau’r Comisiwn Brenhinol â rhai Cadw, y tu mewn i Lywodraeth Cymru. Y cymharydd fyddai Comisiwn wedi’i adnewyddu fel elusen gofrestredig.
Mae’r Comisiynwyr yn llwyr gefnogi penderfyniad y Gweinidog i wyntyllu dewisiadau, gyda’r nod o sicrhau gwydnwch cyrff yr amgylchedd hanesyddol yn y dyfodol wrth i arian y llywodraeth leihau. Maent hwy’n falch o gyfraniad y Comisiwn Brenhinol i fywyd Cymru yn ystod y 105 o flynyddoedd diwethaf a gobeithiant y bydd archwiliad cadarn a thryloyw yn esgor ar y model gorau ar gyfer ei wasanaethau yn y dyfodol. Cafodd eu barn hwy ar y posibiliadau ar gyfer uno eu cyflwyno cyn cyhoeddiad cyntaf y Gweinidog yn eu Dadansoddiad o Fodelau Gweithredu.
Mae defnyddwyr y gwasanaeth, Cyfeillion, staff, cyrff allanol ac unigolion wedi mynegi pryderon mawr ynghylch dyfodol gwasanaethau’r Comisiwn. Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i ymchwilio i’r polisi ar yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys y cynnig i uno.
Eurwyn Wiliam, Cadeirydd