Yn ystod yr Oes Haearn (tua 750 CC i 50 OC) gwelwyd cynnydd yn nifer yr aneddiadau oedd wedi’u hamgáu a'u hamddiffyn yn gadarn. Yn ystod rhan olaf yr Oes Efydd (tua 900 CC) y dechreuwyd codi rhai ohonynt, fel Caer Breiddin ym Maldwyn ac eraill ar hyd y Gororau. Dirywiodd yr hinsawdd yn yr Oes Efydd Ddiweddar, yr oedd yn fwy glawog ac oer a gwnaeth hynny hi’n fwy anodd i’r boblogaeth gymharol fawr ei bwydo’i hun, gan arwain at y pryder a amlygid gan godi'r amddiffynfeydd. Beth bynnag, mae’n debyg i’r mwyafrif o’r bryngaerau gael eu codi yn ystod y tair canrif olaf CC wrth i’r cyfoeth a gafwyd o’r tir gynyddu eto ac i arweinwyr arbennig o rymus gyfnerthu eu tiriogaeth.
Adeiladawyd llawer o’r llociau amddiffynedig hyn ar ben bryniau. Ledled Cymru, mae modd gweld ac ymweld ag amryw o’r bryngaerau a chaerau pentir. Gwyddom am rhyw fil ohonynt. Y rhain yw’r ffurfiau mwyaf pendant a thrawiadol ar anheddu yn y cyfnod hwn. Fel rheol, caent eu codi ar safleoedd cryf lle’r oedd natur y tir yn helpu i’w hamddiffyn. Y duedd yn achos y ffurfiau cynharaf oedd eu codi ag un llinell amddiffynnol, sef palisâd neu ffens gadarn (lloc unglawdd). Mewn cyfnodau diweddarach ceid nifer o linellau o amddiffynfeydd ac allfuriau (lloc amlglawdd) a oedd yn cynnwys cloddiau a ffosydd, a’r rheiny’n aml wedi’u troi’n wrthgloddiau ac â waliau cerrig ar eu brig. Amddiffyniad ychwanegol y tu allan i’r rhagfuriau fyddai marchbigau, sef llen o gerrig unionsyth a gawsai ei chynllunio i rwystro ymosodiadau gan filwyr ar gefn ceffylau. Mae enghreifftiau gwych o’r amddiffynfeydd rhyfeddol hynny i’w gweld yng Ngharn Alw a Chastell Henllys yn Sir Benfro.
Yn ystod yr Oes Haearn roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai crwn wedi eu hadeiladu o gerrig neu bren, â lle tân canolog ac yn aml â chyntedd. Byddai’r tai crwn â tho gwellt hyn y tu mewn i’r bryngaerau. Yno hefyd byddai adeiladweithiau petryal a allai wedi’u codi ar byst uwchlaw’r ddaear i storio grawn a chynhyrchion amaethyddol eraill ynddynt. Mae hefyd yn debygol y byddai gefeiliau a mannau arbennig ar gyfer defod neu ?yl gymunedol. Mae awyrluniau ac arolygon maes a chloddio gan archaeolegwyr wedi amlygu cliwiau, fel tyllau polion, sy’n gymorth i ni allu ail-greu cynllun ac adluniadau o’r bryngaerau hyn. Maent yn ein galluogi i ddychmygu sut yr oeddynt yn edrych tua 2000 o flynyddoedd yn ôl.
Ailgodwyd tai crwn yng Nghastell Henllys yn Sir Benfro ar sylfeini gwreiddiol y tai yn y fryngaer o’r Oes Haearn ac maent yn rhoi syniad clir inni o'r olwg a fyddai wedi bod ar yr adeiladweithiau hynny.
Er bod bryngaerau mawr o’r fath yn eu cysgodi, trigai’r mwyafrif o’r bobl yn ystod y cyfnod hwn mewn ffermydd wedi eu hamgáu, ond heb eu hamddiffyn yn gryf, gyda llociau gwartheg, a systemau caeau a thracffyrdd yn eu cysylltu â’i gilydd. Gan mai ar y tiroedd isel yn bennaf oedd y rhain, cafodd y mwyafrif o’r aneddiadau hynny eu dinistrio gan weithgarwch diweddarach, megis troi’r tir, ond mae llawer ohonynt wedi dod i’r golwg ar ffurf olion cnwd neu olion pridd yn sgil rhaglen y Comisiwn Brenhinol o arolygu o’r awyr.
Mae’r Oes Haearn yn enwog am fod yn oes y ‘rhyfelwr Celtaidd’, cymeriad sydd bellach yn ffigwr clasurol yn hanes Prydain. Cofnododd y Rhufeiniaid lawer amdanynt a disgrifio trigolion Cymru fel rhai a oedd ‘wrth eu bodd yn rhyfela ac yn barod i ymladd’, ac fel rheol yn ymladd yn noeth ar ôl peintio’u cyrff â lliw glas o’r planhigyn glaslys. Ond gan fod y Rhufeinwyr yn bropagandwyr gwleidyddol medrus, efallai na fynnent roi disgrifiad ffafriol o’r brodorion. Er bod brwydro ac ymladd yn rhan o fywyd yn yr Oes Haearn, ddylem ni ddim dychmygu bod y bobl yn rhyfela byth a beunydd. Yr oedd yr ychwanegu at faint a chadernid y mynedfeydd a’r pyrth, hyd yn oed yn achos y bryngaerau llai eu maint, gan gynnwys codi tyrrau i’r porth a llwybrau mynediad, yn ddigon i ddychryn llawer o’r rhai a fwriadai ymosod arnynt. Yr oeddent hefyd yn fynegiant amlwg i bawb o rym a statws y penaethiaid.
Mae’r syniad yn dal bod y Rhufeiniaid wedi bod yn ‘ddylanwad gwareiddiol’ ar frodorion gwyllt Cymru’r Oes Haearn. Mewn gwirionedd, fe wyddom ei bod hi’n debyg iawn bod y dirwedd yn yr Oes Haearn, a hyd yn oed yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd a’i rhagflaenodd, wedi’i chlirio a’i ffermio’n dda a bod ffiniau pendant rhwng tiriogaethau’r gwahanol benaethiaid. Yr oedd y tai, hefyd, yn adeiladweithiau trawiadol, fel y gwelwch chi yn yr adluniadau dilys yng Nghastell Henllys. Yn hytrach na bod yn fregus a simsan, mae’r adeiladweithiau cryf a chymhleth hyn wedi goroesi corwyntoedd yn ddidrafferth, a hynny er i dai modern gael eu difrodi gan gorwyntoedd o’r fath.
Gellir defnyddio Coflein i chwilio am luniau a gwybodaeth am eich bryngaer leol, caer bentir neu olion cnwd. Mae awyrluniau yn gymorth i ni weld y safleoedd hyn, tra bo ymweliad ag olion bryngaer, yn aml yn ddim ond cloddiau a ffosydd, yn gyfle i chi werthfawrogi lleoliad ac amddiffynfa’r fryngaer.
Mae’r llyfr Bryngaer Pendinas Hillfort: A Prehistoric Fortress at Aberystwyth ar gael o’n siop lyfrau.
Ceir rhagor o wybodaeth a gweithgareddau gwersi am y Celtiaid ar y gwefannau isod.