Mae’r tudalennau hanes cynradd yn cynnwys enghreifftiau o’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi hanes yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Ceir yma wybodaeth am safleoedd ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru.
Cyfnod Allweddol 2:Celtiaid Oes Haearn
I ddod o hyd i ddelweddau, gan gynnwys awyrluniau diweddar, neu
wybodaeth am safleoedd hanesyddol neu adeiladau yn eich ardal leol,
gall Coflein fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth.
I gael gwybodaeth am ragor o ddeunyddiau neu enghreifftiau lleol
cysylltwch â Gwasanaethau Ymholiadau Cofnod Henebion
Cenedlaethol Cymru neu ein Swyddog Addysg.
Ydych chi wrthi’n ymgymryd â phrosiect sy’n ymwneud â threftadaeth Cymru? Beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig? Am fanylion pellach edrychwch ar ei gwefan drwy ddefnyddio'r cyswllt isod.