Capeli Cymru
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi dod o hyd i 6,200 o gapeli yng Nghymru - mwy nag yr oedd neb wedi'i amcangyfrif. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd capel i bob 400 o bobl. Erbyn hyn, mae manylion pob un o'r 6,200 ar gael ar-lein. Gallwch weld disgrifiadau o gapeli ym mhob rhan o Gymru ar Coflein. Mewn llawer achos hefyd, mae ffotograffau, cynlluniau neu ddeunyddiau archifol ar gael.
Cychwynnodd y Comisiwn Brenhinol ar y prosiect cofnodi mawr hwn ddeg mlynedd yn ôl gyda Capel: y Gymdeithas Treftadaeth Capeli, i gofnodi a thynnu ffotograffau o bob capel anghydffurfiol yng Nghymru. Yr oedd angen astudio'r capeli ar frys am fod cynulleidfaoedd cynifer ohonynt yn prinhau a'r adeiladau'n cael eu dymchwel neu'n cael eu gadael mewn adfeilion bob blwyddyn.
Eglwysi
I ddod o hyd i wybodaeth, gan gynnwys lluniau, o ddetholiad o eglwysi yng Nghymru gallwch chwilio Coflein.
Mynachlogydd
I ddod o hyd i ddelweddau, gan gynnwys awyrluniau diweddar, neu wybodaeth am fynachlogydd Cymru, gall Coflein fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth.
I gael gwybodaeth am ragor o ddeunyddiau neu enghreifftiau lleol cysylltwch â Gwasanaethau Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu ein Swyddog Addysg.
Datblygir adnoddau addysgol ar gyfer yr adran hon cyn bo hir.
Ydych chi wrthi’n ymgymryd â phrosiect sy’n ymwneud â threftadaeth Cymru? Beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig? Am fanylion pellach edrychwch ar ei gwefan drwy ddefnyddio'r cyswllt isod.