Adnoddau Dysgu

Gweithfeydd yr Hen Gastell (Haearn a Thunplat), Llanelli. Braslun lliw gan Dylan Roberts sy’n dangos dynion wrthi’n gweithio yng Ngweithfeydd yr Hen Gastell. 1957. (Image: DI2005_1153 / NPRN: 40509) Llanfair, Llanfair-green. Brasluniau o Gapel Llanfair Kilgoed a gweddillion hen Gapel y Faenor o lyfrau nodiadau R.E.Kay, Cyfrol III Cyfres 1, Tudalen 437. Dyddiad y nodiadau yw 1947. (Image: CD2005_606_014 / NPRN: 12989 / Source: R.E. Kay)

Archaeoleg

Gan mai hanfod archaeoleg yw astudio olion materol bodau dynol o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw, bydd archaeolegwyr yn chwilio am bob math o gliwiau i’w helpu i ddeall sut roedd pobl yn arfer byw.

 Drwy wneud gwaith maes, bydd archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol yn helpu i gynnig gorolwg o archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol Cymru. Fe wnân nhw hynny drwy ymchwilio i wahanol gyfnodau neu agweddau ar y gorffennol drwy gyfrwng rhaglen o brosiectau . Mae ei archaeolegwyr diwydiannol wrthi, er enghraifft, yn astudio safleoedd yng Nghymru fel camlas Llangollen. Cewch wybod rhagor am hanes Cymru yn yr adran ar Dreftadaeth Cymru yn y wefan hon. Cewch ddarllen hefyd am archaeoleg yr Uwchdiroedd neu Arfordir Cymru. Neu, os byddai’n well gennych, cewch ddarllen am y gwahanol gyfnodau yn hanes Cymru yn yr adran Ar Draws Amser neu gael gwybod rhagor am themâu penodol.

Mae datblygiadau technolegol yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi helpu archaeolegwyr i ddysgu llawer mwy am y gorffennol a sut mae bodau dynol wedi gadael eu hôl ar yr amgylchedd. Dull grymus o helpu archaeolegwyr i ddarganfod rhagor am ein hanes a dod o hyd i safleoedd archaeolegol newydd yw Arolygu o’r Awyr. A chewch wybod sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg fodern i’w helpu gyda’u gwaith arolygu a chofnodi digidol .

Os ydych chi’n dilyn cwrs archaeoleg ac yn awyddus i wybod rhagor am safleoedd archaeolegol penodol yng Nghymru, chwiliwch Coflein neu cysylltwch â gwasanaeth ymholiadau Henebion Cenedlaethol Cymru.

Hoffech chi fod yn archaeolegydd? Cewch wybod rhagor am Yrfaoedd ym myd archaeoleg ac am Weithio yn y Comisiwn Brenhinol.

Os ydych chi’n gwneud prosiect yn yr ysgol a hwnnw’n cynnwys treftadaeth Cymru, beth am gystadlu yng nghystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig? Cewch ragor o fanylion am y fenter honno ar ei gwefan, sef www.whsi.org.uk/cy.

Cysylltau allanol