Mae’n adran addysg yn darparu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein a chysylltau i ddetholiad o wefannau.
Yma ceir engreifftiau o’r deunydd sydd ar gael yn archif y Comisiwn – Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae y casgliad enfawr yn cynnwys ffotograffau, cynlluniau, mapiau, adroddiadau a lluniadau sy'n cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru.
Ceir yma hefyd syniadau ar sut y gellir eu defnyddio fel adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Adnoddau wedi eu hanelu at athrawon sydd yma ond gall rhai o’r nodiadau gael eu defnyddio gan blant. Yn sicr bydd y darluniau amrywiol o Gymru yn addas ac yn ddefnyddiol i blant ac athrawon. Gellir lawrlwytho’r deunydd am ddim ar gyfer defnydd addysgol.
Dewisiwch eich pwnc / oedran o’r ddewislen ar y chwith.
Mae’r Comisiwn yn croesawu ymweliadau gan ysgolion ac yn trefnu diwrnodau HMS ar gyfer athrawon. Am fwy o fanylion cysylltwch â’n Swyddog Addysg.