Mae Pennod Un Hidden Histories yn astudio sut y cododd Thomas Telford a William Jessop un o gampweithiau peirianyddol mawr y Chwyldro Diwydiannol, sef Traphont Ddŵr Pontcysyllte, yn rhoi prawf ar ddyddiad hen, hen ddrws yng Nghastell y Gelli Gandryll ac yn ymchwilio i’r hyn a all fod yn eglwys goll y sylwyd arni o’r awyr yn Nyffryn Conwy.
Gallwch wylio'r bennod ar wefan y BBC
Mae ymchwilydd o’r Comisiwn Brenhinol, Louise Barker, wedi bod wrthi’n astudio Traphont Ddŵr Pontcysyllte gyda’i chydweithwyr i ategu’r cais am Statws Treftadaeth Byd. Bydd hi’n trafod yr adeiladwaith gyda Peter Wakelin ac yn dangos iddo’r dystiolaeth sy’n ei helpu hi i ddatblygu animeiddiad cyfrifiadurol i ddangos sut y codwyd y draphont.
Traphont Ddŵr Pontcysyllte yw un o gampweithiau peirianyddol mawr y byd. Fe’i codwyd rhwng 1795 a 1805 er mwyn i Gamlas Ellesmere gysylltu pyllau glo Sir Ddinbych â system gamlesi Prydain ac â phrif ardaloedd y Chwyldro Diwydiannol . Gan fod y tir yn fynyddig, wynebai’r peirianwyr, William Jessop a Thomas Telford, anawsterau lu, a’r mwyaf ohonynt oedd croesi dyffryn afon Dyfrdwy. A’i phedwar rhychwant ar bymtheg ar uchder o 38.4 metr, Traphont Ddŵr Pontcysyllte oedd y draphont ddŵr dalaf yn y byd am 200 mlynedd. Mentro defnyddio haearn bwrw oedd yr allwedd i gyflawni’r gamp ryfeddol hon, a daeth y draphont yn enwog fel un o symbolau’r oes ddiwydiannol newydd. Oherwydd yr uchder, bu’n rhaid dyfeisio ffyrdd o gwtogi ar bwysau’r meini, a’r ateb oedd codi colofnau a feinhâi po uchaf y codent, a chynnwys gofod gwag yn yr adrannau uchaf. Drwy astudio’r cliwiau sydd wedi goroesi yn yr adeiladwaith datgelwyd dulliau a ddefnyddiwyd i gyflawni prosiect adeiladu mor fawr. Codwyd y colofnau ryw chwech i wyth metr ar y tro, gan symud o’r de i’r gogledd ar draws y dyffryn. Cynhelid pob gangwe oddi ar waith maen y colofnau gan ddau drawst pren a gafaelfachau croeslin a ddelid yn eu lle gan wadnau o haearn bwrw. Codwyd pum lefel olynol o lwybrau cerdded i gludo defnyddiau o’r lan ogleddol ar hyd-ddynt a hynny, mae’n fwy na thebyg, ar reilffordd – fel y dangosir gan animeiddiad cyfrifiadurol y Comisiwn Brenhinol.
Gweler Pontcysyllte ar Coflein
Chwiliwch Coflein am yr holl nodweddion sy’n gysylltiedig â ‘Chamlas Llangollen’
Gwyliwch yr animeiddiad cyfrifiadurol "Constructing the Aqueduct"
Chwiliwch am ragor o wybodaeth am gludiant yng Nghymru.
Chwiliwch am wybodaeth am enwebu’r draphont ddŵr i gael Statws Treftadaeth Byd
Prynwch y Ddogfen Enwebu am Safle Treftadaeth Byd a phapurau’r gynhadledd gysylltiedig.
Ymwelwch â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a'r gamlas
Mae Richard Suggett, un o ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol, yn mynd i ymchwilio i’r drysau hynafol yng Nghastell y Gelli Gandryll gyda chydweithwyr o Labordy Dendrocronoleg Rhydychen i ddarganfod a allai un o’r drysau fod ymhlith yr hynaf sydd wedi goroesi yn Ewrop.
Pethau eithriadol o brin yw drysau sydd wedi goroesi ers yr Oesoedd Canol.. Mae’n hawdd diystyru’r drysau yng Nghastell y Gelli Gandryll am eu bod mewn porth yn y cefn sydd wedi’i hen gau. Ail-godwyd y castell yn dŷ yn yr ail ganrif ar bymtheg ac erbyn hyn mae’n rhan o’r siop lyfrau sydd wedi’i sefydlu hwyaf yn nhref y llyfrau. Mae’r drws ar y dde yn debyg i ddrysau Castell Cas-gwent, a phan ddyddiwyd blwyddgylchau’r pren yn y rheiny yn ddiweddar cafwyd eu bod yn dyddio o ran olaf y ddeuddegfed ganrif. Mae dyddio blwyddgylchau yn golygu drilio mân greiddiau ar draws graen y pren a chymharu patrwm y cylchoedd twf â dilyniannau hanesyddol o flynyddoedd da a blynyddoedd gwael. Driliwyd drysau’r Gelli Gandryll a llwyddwyd i ddyddio’r drws ar y chwith i’r cyfnod rhwng 1610 a 1640. Yn anffodus, nid oedd modd cael dyddiad manwl-gywir i’r drws ar y dde, drws sydd bron yn sicr o fod lawer yn hŷn. Gall yn hawdd fod yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar ddeg neu gyfnod cynharach. Efallai, wrth i dechnegau ddatblygu ymhellach yn y dyfodol, y bydd modd ei ddyddio.
Ewch i Gastell y Gelli Gandryll ar Coflein
Chwiliwch Coflein am wybodaeth am gestyll eraill neu am nodweddion eraill yn y Gelli Gandryll.
Ymwelwch â’r drysau yng Nghastell Cas-gwent
Ymwelwch â siop lyfrau Castell y Gelli Gandryll
Bydd Toby Driver, archaeolegydd-o’r-awyr y Comisiwn Brenhinol, yn ymweld â safle ôl crasu y sylwodd ef arno yn ystod sychder 2006 mewn cae yn nyffryn Conwy. Mae’n ymchwilio i’r safle gyda David Longley a David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd i ddarganfod a oes yno olion eglwys ganoloesol sydd wedi hen ddiflannu.
Cafwyd tipyn o syndod yn ystod haf sych 2006 pan sylwyd ar yr hyn a edrychai fel amlinelliad nodweddiadol o eglwys ganoloesol fach ger Llwydfaen yn nyffryn Conwy, a hynny mewn man nad oedd hi’n hysbys i eglwys fod erioed. Sylwodd Toby Driver ar yr amlinelliad yn ystod un o’i deithiau hedfan rheolaidd i fonitro safleoedd archaeolegol newydd a dod o hyd i rai newydd. Cyfarfu David Longley a David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ag ef ar y safle a defnyddio’u pecyn geoffisegol i weld a wnâi arolwg magnetometregol gadarnhau bod olion o dan y tir, a hynny er bod yr ôl crasu wedi diflannu’n gyfan gwbl. Bydd magnetometreg yn defnyddio amrywiadau mân iawn iawn ym maes magnetig y ddaear i ganfod lle y bu aflonyddu ar y tir neu lle y cafodd y tir ei losgi. Yn y siart cyfrifiadurol a gafwyd o ganlyniad, mae siâp yr adeilad i’w weld yn glir. Yr hyn sy’n anarferol yw nad yw adeilad yr eglwys yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain ac na chafwyd hyd i unrhyw olion cysylltiedig, ond mae siâp yr olion – a gadarnhawyd gan y geoffiseg – yn cyd-fynd yn sicr ddigon â phatrwm eglwysi Normanaidd cynnar.
Cheiliwch am y safle ar Coflein