Mae Pennod Pump yn edrych ar blasty o’r ail ganrif ar bymtheg sydd wedi diflannu yn Llandeilo, yn ymchwilio i’r ffordd y cafodd Cymru ei hamddiffyn yn erbyn goresgyniad posibl gan y Natsïaid, ac yn chwilio am un o gestyll coll y tywysogion Cymreig.
Gallwch chi weld y bennod ar wefan y BBC
Mae ymchwilydd o’r Comisiwn Brenhinol, Richard Suggett, yn cyfarfod â Stephanie Evans o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael gwybod rhagor am yr hen blasty a gynhwyswyd yn Nhŷ Newton yn ystod Oes Fictoria, ac yn rhoi prawf ar ddilysrwydd rhai peintiadau hanesyddol.
Er i Dŷ Newton gael ei ailgodi’n drwyadl yn yr arddull farwnol Fictoraidd ym 1856, mae’n dal i gynnwys nodweddion o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae’r cynllun dwy-haen ynghyd â mur – sy’n asgwrn cefn i’r tŷ – rhwng y cyntedd a’r grisiau mawr yn nodwedd o gyfnod yr Adferiad ac mae rhai nenfydau plastr trawiadol wedi goroesi. Prif nodwedd bensaernïol y tŷ yw’r grisiau mawr sy’n codi drwy dri llawr, ac mae iddynt falwstrau oddfog, canllaw lydan a di-dor, pyst trwchus, a chrogaddurnau a blaenau cerfiedig. Mae pedwar peintiad o’r tŷ, yr adeilad allanol a’r parc wedi goroesi o’r ail ganrif ar bymtheg ac mae’r dadansoddi a fu arnynt yn dangos eu bod yn ddarluniau eithaf cywir. Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol mai’r unig ffordd sicr o sefydlu dyddiad y plasty oedd dyddio blwyddgylchau’r pren ynddo. Ar sail sampl dda ac ynddi wynnin cyflawn o’r nenffyrch derw gwreiddiol, cafwyd mai yn ystod haf 1664 y cwympwyd y coed derw hynny. Dangosodd hynny na allai Tŷ Newton, hyd yn oed petai Edward Rice wedi dechrau ei godi, fel y tybiwyd yn draddodiadol, fod wedi’i gwblhau gan neb ond ei frawd, Walter, y gŵr a etifeddodd y stad ym 1664 ac a fu byw am ddeg mlynedd ar ôl hynny. Mae dogfennau y cafwyd hyd iddynt yn ddiweddar yn dangos i Walter Rice farw o leiaf £3,500 mewn dyled; mae’n debyg iddo afradu ei ffortiwn ar godi Tŷ Newton.
Chwiliwch am Dŷ Newton o dan ‘Newton House’ ar Coflein .
Darllenwch ragor am y cyfnod modern cynnar .
Ymwelwch â Phlas Dinefwr/Tŷ Newton a Pharc Dinefwr .
Mae Deanna Groom a Medwyn Parry o’r Comisiwn Brenhinol yn chwilio am dystiolaeth i weld sut y byddai Cymru wedi ymladd yn ôl yn erbyn goresgyniad gan y Natsïaid o’r môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wrth i’r Ail Ryfel Byd ddechrau, canolbwyntiodd y llywodraeth i gryn raddau ar amddiffyn arfordir de-ddwyrain Lloegr. Ond yr oedd perygl hefyd y ceid goresgyniad o Weriniaeth Iwerddon. Petai’r Natsïaid yn defnyddio Iwerddon yn fan cychwyn, byddai angen iddynt allu defnyddio’r porthladdoedd i ddadlwytho’u milwyr a’u cyflenwadau. Eu prif dargedau fyddai porthladdoedd dwfn Caergybi ac Aberdaugleddau. Câi cyffiniau’r harbwr yng Nghaergybi eu hamddiffyn gan grwpiau o ynnau, gynnau gwrth-awyrennau a meysydd ffrwydro. Cyn pen dim, datblygwyd system gymhleth o dri chylch consentrig o ynnau peiriant a chaerau tanddaearol o amgylch yr harbwr. Yr oedd y cylch mewnol yn canolbwyntio ar yr harbwr a’r traethau gerllaw, a’r llinell allanol yn gwarchod pwyntiau penodol ar hyd cyrion y dref. Diben gosod amddiffynfeydd y cylch allanol i wynebu allan oddi wrth yr harbwr oedd gwrthsefyll unrhyw ymgais dactegol i ymosod o gyfeiriad arall. Cynllun sylfaenol silindrog oedd i’r mwyafrif o gaerau tanddaearol Caergybi. O goncrid cyfnerthedig y codwyd eu craidd, ond oherwydd prinder cyflenwadau adeiladu, rhoddwyd rwbel lleol ar eu hwynebau allanol. Petai’r Natsïaid wedi croesi’r Fenai, byddent wedi wynebu tir mynyddig y gogledd, ac yn y bylchau rhwng y mynyddoedd yr oedd caerau tanddaearol, trapiau tanciau, morterau sbigot, safleoedd tanio fflamau petrol, a rhwystrau ffyrdd. Mae llawer ohonynt wedi goroesi hyd heddiw ac mae rhyw ddau gant o gaerau tanddaearol wedi’u rhestru yng nghronfa ddata ar-lein y Comisiwn, Coflein.
Chwiliwch am gaerau tanddaearol ar Coflein .
Mae ymchwilydd o’r Comisiwn Brenhinol, Louise Barker, yn derbyn sialens gan yr Athro Beverley Smith i geisio dod o hyd i gastell canoloesol coll yng ngerddi Portmeirion.
Er bod Cymru’n enwog am ei chestyll, codwyd llawer o’r rhai amlycaf heddiw gan y goresgynwyr Eingl-Normanaidd yn hytrach na’r tywysogion Cymreig. Ni chafwyd hyd eto i rai o’r cestyll Cymreig cynnar ac nid ymchwiliwyd iddynt. Disgrifiodd Gerallt Gymro gastell Deudraeth, a safai ar aber, tua 1188. Yr oedd y castell hwnnw’n un o nifer fach a godwyd o gerrig yng Ngwynedd tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Mae’n debyg iddo gael ei godi yn Aber Iâ ym Meirionnydd, man sydd bellach yn fwy hysbys wrth yr enw a roddwyd iddo gan Clough Williams-Ellis - Portmeirion. Cododd Clough y pentref glan-môr hwn rhwng 1925 a’r 1970au fel ymarfer pensaernïol personol. Yr oedd yno fersiynau bach o blastai clasurol, eitemau pensaernïol a gawsai eu hachub - fel y logia o flynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif - a nodweddion trawiadol fel y cerflun efydd o Atlas. Er i feini gael eu tynnu o adfeilion y castell yn y gorffennol, mae rhannau o’r muriau a’r ffos a dorrwyd i’r graig fel petaent wedi goroesi mewn safle amddiffynnol cryf ar ben clogwyn uchel. Creodd Clough barapet yma ym 1963 er mwyn gallu mwynhau’r olygfa.
Chwiliwch am Gastell Aber Iâ ar Coflein.
Chwiliwch am gestyll eraill ar Coflein .
Ymwelwch â Phortmeirion .
Ymwelwch â’r cestyll sydd yng ngofal Cadw