Treftadaeth Cymru

Eglwys Sant Mihangel, Talyllychau. 2004. (Image: DI2005_1139 / NPRN: 101870) Capel y Methodistiaid Wesleaidd, Llawr-y-glyn, ger Llanidloes. Adeiladwyd yn 1844. Diddyddiad. (Image: CD2005_601_014 / NPRN: 97049) Ffermdy T? Draw, Llanrhaeadr-ym-mochnant.  2003. (Image: DI2005_0771 / NPRN: 35439)

Pennod 1

Allteuryn a gorlif 1607

  • Golwg o’r awyr o’r gwaith cloddio yn Allteuryn. (Llun: DI2007_1576 / NPRN: )
  • Awyrlun o Drwyn Allteuryn. (Llun: DI2005_0903 / NPRN: )
  • Awyrlun o Eglwys Mair Magdalen, Allteuryn, o’r gogledd-ddwyrain. (Llun: AP_2005_1219 / NPRN: )

Eddie Butler a Richard Suggett sy’n ymchwilio i’r dystiolaeth ynghylch gorlif mawr 1607 ym Môr Hafren. Y man cychwyn yw arysgrif yn Eglwys Allteuryn, a daw’r daith i ben wrth fwthyn Little Porton ar wastadeddau Sir Fynwy.

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn casglu gwybodaeth am arysgrifau yng Nghymru ers tro byd. Negeseuon o’r gorffennol yw’r rheiny, ac fe’u codwyd yn fwriadol er mwyn i ni eu darllen yn y dyfodol. Fe’u gwelir yn gyffredin ar adeiladau ac mae modd eu defnyddio i lunio mapiau a graffiau o weithgarwch adeiladu. Mae arysgrifau’n ddiddorol oherwydd eu hiaith (Cymraeg, Saesneg neu Ladin) a’r digwyddiad a goffeir ganddynt. Weithiau, cafwyd digwyddiadau mor drychinebus nes mynnu codi cofeb iddynt – enghraifft o hynny yw cofeb Tân Llundain (1666). Mae’r arysgrif yn Allteuryn yn un o sawl cofeb i orlif mawr 20fed Ionawr 1607 a wnaeth gymaint o ddifrod i lawer o’r tir ar hyd glannau aber afon Hafren.

Mae’r arysgrif ar blât pres bach yn eglwys Allteuryn yn odli a hynny, mae’n debyg, i’w gwneud hi’n fwy cofiadwy:
“On the 20 day of January even as it came to pas/ It pleased God the flood did flow to the edge of this same brass/ and in this parish there was lost 5000 and od pound/ Besides xxii people was in this parish drowned.”
Pa mor uchel oedd y dŵr? Mewn sawl eglwys gyfagos (e.e. Llan-bedr Gwynllŵg) dangosir union lefel y gorlif â phlwg plwm (ac ynddo soced i ffon) a lefel. Mae’r uchderau wedi’u mesur yn fanwl-gywir ac yn dangos i’r gorlif gyrraedd uchder o 7.14 m (23.4 troedfedd) uwchlaw lefel y môr. Gan ddefnyddio’r uchderau hynny, gallwn ni fras-fodelu hyd a lled y gorlif ar wastadeddau Gwent hyd at lle mae’r M4 heddiw ar ymyl y gwastatir llifwaddod.
Yn ôl y ffynonellau dogfennol, achoswyd dinistr ar hyd arfordir Cymru cyn belled â Bae Caerfyrddin. Ond ceir gwahaniaeth barn ymysg haneswyr hinsawdd ynghylch ai dygyfor storm ai swnami – pwnc rhaglen wych Timewatch (BBC, 2005) – a achosodd y gorlif. Wnawn ni ddim poeni am hynny: y dirwedd hanesyddol sydd o ddiddordeb i ni.

Er y gall rhai cymunedau fod wedi methu ag ymadfer ar ôl y gorlif, fe ymadferodd gwastadeddau Gwent i raddau helaeth am fod yno (o hyd) system o forgloddiau, ffosydd (reens) a llifddorau (gouts) i reoli’r dŵr. Nid dyna’r tro cyntaf, wrth gwrs, i’r tir gael ei orlifo. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio Priordy Allteuryn ganol y G15fed ar ôl gorlif, a dyna pryd y codwyd eglwys y plwyf. Mae’r morgloddiau y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio yn dangos bod proses barhaus o ennill a cholli tir wedi bod yn digwydd yno ers oes yr arth a’r blaidd. O safbwynt archaeolegol, mae’n fro gyfoethog iawn.
Er i’r eglwysi a godwyd o gerrig wrthsefyll y gorlif, mae llenyddiaeth y pamffledi’n awgrymu nad dyna hanes llawer o’r tai. Yn sicr, mae’n anodd iawn dod o hyd i dai cynnar ar wastadeddau Gwent, ond fe godwyd Little Porton, ger eglwys Whitson, yn y traddodiad brodorol lleol. Fe ddysgwn ni gryn dipyn o’i astudio. Yma, yr ydym ar wastatir llifwaddod heb fawr o goed na cherrig adeiladu. Rhaid dod â defnyddiau adeiladu sylfaenol, fel coed, cerrig ac, yn ddiweddarach, frics yma. Yn Little Porton fe welwn ni ddefnydd adeiladu arall, sef clai. O dan y llifwaddodion ceir gre, clai morol gludiog y gellid ei ddefnyddio i godi adeiladau. Er i Little Porton gael ei godi ar ôl y gorlif, mae’n rhoi syniad da o bryd a gwedd adeilad a godwyd yn yr G17eg - adeilad hir ac isel â tho gwellt. Mae’n fwy na thebyg i’r waliau blaen ac ochr gael eu hailgodi, ond wal o glai yw’r un gefn o hyd. Mae hynny’n dangos mai defnydd adeiladu brodorol a lleol oedd y clai morol lleol. Cwympo wnaiff waliau clai, wrth gwrs, pan gânt eu gwlychu, a dyna a ddigwyddodd, mae’n debyg, adeg gorlif 1606/7.

Wrth ochr y bwthyn mae adeilad difyr arall, sef beudy a godwyd o blanciau. Mae i hwnnw, hefyd, do gwellt. Mae’n gwbl annhebyg i’r adeiladau fferm eraill sydd wedi goroesi yn y fro. Er bod coed yn brin, defnyddiwyd planciau’n helaeth wrth ei godi. Codwyd y waliau o blanciau gan eu gosod ochr wrth ochr â’i gilydd a’u cysylltu â sbigynnau. Lwc dda’r adeiladydd oedd iddo gael gafael ar lwyth o blanciau. Hoffwn gredu mai rhan o gynhaeaf y môr oedd hwnnw.

Cysylltau:

Wig-wen-fach, Llanerchaeron, Ceredigion NPRN 35396

  • Wig-wen-fach: golwg o’r tu allan. (Llun: DS2010_116_002 / NPRN: )
  • Wig-wen-fach: golwg o’r tu mewn a’r nenfforch sgarff. (Llun: DS2010_116_003 / NPRN: )
  • Wig-wen-fach: golwg o’r tu mewn gan ddangos mantell y lle tân. (Llun: DS2010_116_005 / NPRN: )

Eddie Butler ac Eurwyn Wiliam sy’n ymchwilio i un o’r bythynnod olaf sydd wedi goroesi yng Ngheredigion ac un sydd wedi cadw’r mwyafrif o’i nodweddion traddodiadol.

Cyfeiriai teithwyr yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ddilynol yn aml at gyflwr ffiaidd bythynnod a ffermdai bach Cymru, adeiladau a fyddai, yn fynych, â muriau o fwd, toeon gwellt, simneiau go fregus a thu mewn tywyll a brwnt. Ond mae modd gorliwio’r darlun hwnnw: yn aml, mae’r bythynnod sydd wedi goroesi (a detholiad ohonynt yn unig sydd wedi gwneud hynny, wrth gwrs) yn adeiladau cadarn a’u nodweddion wedi’u saernïo’n gelfydd.

Enghraifft brin o’r traddodiad adeiladu brodorol hwnnw yw bwthyn Wig-wen-fach ar ystâd Llanerchaeron, Sir Aberteifi. Tan yn ddiweddar, bu’n llety i weithwyr fferm yr ystâd ond yr oedd yn wag pan waddolwyd ef i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1989. Penderfyniad goleuedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd cadw’r bwthyn fel y mae yn hytrach na’i foderneiddio a’i ddatblygu. Cyferbyniad difyr i ymwelwyr â’r ystâd yw’r un rhwng y plasty gwych a godwyd gan John Nash yn y G18fed ganrif a’r bwthyn ystâd unllawr o’r un cyfnod.
Yn Wig-wen-fach cadwyd nodweddion crefft sydd wedi diflannu i raddau helaeth mewn mannau eraill. Mae cryn dipyn o glai yn y waliau. Ar y tu mewn, cadwyd y plastr gwreiddiol, fflagiau’r llawr, y paredau o fasgedwaith, mantell y lle tân, y nenffyrch sgarff a’r defnydd o dan y to. Tu mewn o ran gynnar y G19eg sydd i Wig-wen-fach. Yng ngeiriau craff Eurwyn Wiliam, ‘cartrefi o waith cartref’ oedd y bythynnod: yn aml, y bobl a’u codai a fyddai’n byw ynddynt, a defnyddient sgiliau’r crefftau traddodiadol at y gwaith. Fel y cyfryw, maent yn enghreifftiau cynnar o adeiladu cynaladwy sy’n cynnig gwersi i ni yn y G21ain. Drwy’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn unig y ceir gwneud apwyntiad i ymweld â Wig-wen-fach.

Cysylltau:

Pont Gadwyni Llandysilio

  • Lluniadau mesuredig manwl o’r Bont Gadwyni gan Dutens, Mémoires sur les Travaux Publics de l’Angleterre (Ffynhonnell: Y Llyfrgell Brydeinig, cedwir yr Hawlfraint).
  • Yr Ail Bont Gadwyni tua 1900 (Ffynhonnell: Archifau Amgueddfa Llangollen, cedwir yr Hawlfraint)
  • Y Drydedd Bont Gadwyni (O ddechrau’r G20fed)(Ffynhonnell: Archifau Amgueddfa Llangollen, cedwir yr Hawlfraint).

Mae’r Bont Gadwyni wedi rhychwantu Afon Dyfrdwy am bron i 200 mlynedd. Ymchwilydd CBHC, Stephen Hughes, a’r ymchwilydd sydd wedi cael bwrsariaeth gan UNESCO, Rachael Leung, sy’n ymchwilio i weld a allai cadwyni’r bont bresennol fod yr un â’r rhai y gwnaed llun ohonynt gan sbïwr diwydiannol o Ffrainc ym 1819. Fe’i collwyd yn ddiweddarach i lifddyfroedd afon Dyfrdwy.

Codwyd y Bont Gadwyni gyntaf ym 1817 i gysylltu dau lwybr mawr trafnidiaeth yn y Gogledd, sef camlas Llangollen a’r ffordd o Lundain i Gaergybi. Yr oedd y mentrwr lleol, Exuperius Pickering, yn awyddus i fanteisio ar Gamlas Llangollen i gludo’i nwyddau – glo, calch a barrau haearn – draw i briffordd Telford a sicrhau mynediad cyflym a rhad i farchnadoedd y gogledd. I sicrhau hynny, treuliodd gryn amser o 1814 ymlaen yn pwyso ar Gwmni Camlas Llangollen i wella darn bwydo’r gamlas a rhoi iddo ef, a neb arall, fynediad i’r ceiau a’r pontydd. Yn y pen draw, bu codi’r bont yn fodd iddo fonopoleiddio’r fasnach lo yn yr ardal honno.

Codwyd pont Pickering o ddec pren a gâi ei gynnal gan gadwyni haearn gyr oddi isod. Rhoddwyd haen o bridd a cherrig dros y dec. O wely’r afon cynhelid y bont gan chwe cholofn dderw digon o faint i wrthsefyll llifddyfroedd mawr. Gwnaed lluniadau arolygu manwl o’r bont honno gan y sbïwr diwydiannol o Ffrainc, J. Dutens, ym 1819, ac yn ei adroddiad cafwyd y sylw ‘nid oes modd rhoi terfyn ar yr athrylith... fe geir yn Llundain enghreifftiau o bontydd cadwyni, ond ôl meddwl rhagorach sydd i gynllun y bont dros Afon Dyfrdwy’. Erbyn 1870, y farn oedd bod cyflwr y bont yn rhy wael iddi gael ei hadfer ac fe’i tynnwyd oddi yno. Yn ei lle, codwyd pont ym 1876 gan Henry Robertson, peiriannydd enwog pontydd a rheilffyrdd a pherchennog gwaith haearn Brymbo. Mae’n hysbys i’w gynllun ddilyn un y bont gyntaf ond bod y colofnau a gynhaliai’r bont yn rhai o haearn yn hytrach nag o dderw.

Er i’r rhan fwyaf o’r bont gael ei golchi ymaith gan lifogydd difrifol ar 16eg Chwefror 1928, dal eu tir wnaeth ei chadwyni cynhaliol. Penderfynodd Syr Henry Robertson, mab yr Henry blaenorol, ailgodi’r bont ar batrwm Pont Menai, a dywedir iddo ailddefnyddio cadwyni’r bont wreiddiol. Crogwyd chwech o’r cadwyni hynny i gynnal y dec oddi uchod, a gosodwyd dwy arall unwaith eto o dan y dec. Gwelliant mawr oedd y cynllun hwnnw am ei fod yn gryfach ac yn gallu gwrthsefyll llifogydd. Costiodd gyfanswm o £303.11.00. Adeg agor y bont cynhaliwyd diwrnod o ddathlu a rhoddwyd 45 o’r gweithwyr i sefyll ar y bont i ddangos pa mor gryf oedd hi.

Caewyd y bont yn derfynol ganol y 1980au. Gan ei bod hi mewn cyflwr peryglus, does dim modd mynd ati ond mae ymchwil y Comisiwn wedi gallu dangos bod cynllun a graddfa’r cadwyni a ddefnyddiwyd yn y drydedd bont mor debyg nes ychwanegu cryn bwysau at y ddamcaniaeth i gadwyni’r bont wreiddiol gael eu storio a’u hailddefnyddio 111 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Cysylltau: