Ar ôl dwy gyfres hynod lwyddiannus sydd wedi dilyn gwaith ymchwil y Comisiwn Brenhinol ers 2008, man cychwyn y drydedd gyfres o Hidden Histories yw dirgelwch gorlif Gwent ym 1607. Bydd y rhaglenni eraill yn mentro i bob cwr o Gymru ac yn rhoi sylw i bopeth – o gelfyddyd gynhanesyddol ar greigiau ymlaen i atomfa.
Eddie Butler a Heledd Fychan sy’n cyflwyno’r gyfres. Fe ymchwilian nhw i dreftadaeth Cymru ochr yn ochr ag wynebau cyfarwydd o’r Comisiwn Brenhinol a’r archaeolegwyr, yr haneswyr a’r bobl leol sy’n gweithio gyda nhw ar hyd y daith.
Yn y Canllawiau i’r Penodau cewch chi lawer iawn o wybodaeth am y safleoedd sy’n cael sylw yn y gyfres. Cewch chi hefyd chwilio am bob math o drysorau cudd Cymru ar y gronfa ddata ar-lein Coflein.
Gallwch chi ddarllen am waith y Comisiwn Brenhinol yn y llyfr Trysorau Cudd.