Treftadaeth Cymru

Pennod Un

Mae pennod un yn holi ai ym meini glas gorllewin Cymru y mae’r ateb i ddirgelwch Côr y Cewri? Mae’r rhaglen hefyd yn edrych ar gasgliad Aerofilms y Comisiwn o awyrluniau hanesyddol i weld sut y newidiodd Abertawe o fod yn dref ganoloesol i fod yn dref fodern ar ôl cyrchoedd bomio’r Ail Ryfel Byd, ac yn astudio sut mae natur wedi ailfeddiannu’r tŷ uchaf yng Nghymru.

Sut mae’r allwedd i Gôr y Cewri i’w chael ym Mynyddoedd y Preseli

  • Brigiadau dolerit ‘meini glas’ Carn Meini (DS2006_070_001 / NPRN: 401098)
  • Orthostat toredig o faen glas o Garn Meini (DS2006_1299 / NPRN: 401098)
  • Clostir Sarnau Banc Du (DI2006_1299 / NPRN: 308024)

Mae Toby Driver, ymchwilydd-o’r-awyr y Comisiwn Brenhinol, yn cyfarfod â’r Athro Geoffrey Wainwright i astudio’r cysylltiad rhwng meini glas Côr y Cewri a Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro. Mae darganfyddiad-o’r-awyr Toby o loc Banc Du gerllaw yn dangos lle y gallai pobl fod wedi bod yn byw yn y bryniau hynny yn ystod Oes Newydd y Cerrig.

Credir mai o ben dwyreiniol Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro y daeth yr 80 o gerrig, neu oddeutu hynny, a gludwyd 250 km i Gôr y Cewri yn Wiltshire yn fuan wedi 2600 CC. Yn y llenyddiaeth archaeolegol mae brigiadau Carn Meini ar Fynyddoedd y Preseli yn enwog bellach fel ffynhonnell ddaearegol ‘meini glas’ Côr y Cewri. Ym 1923, cadarnhaodd archwiliad petrolegol mai brigiadau gwasgaredig Carn Meini ar lethrau de-orllewinol Mynyddoedd y Preseli yw ffynhonnell y meini dolerit llwydlas sydd â smotiau gwyn mawr arnynt ac a ddefnyddiwyd yn rhai o gamau cynharaf codi Côr y Cewri. Mae amryw o henebion cynhanesyddol Sir Benfro, gan gynnwys carnedd adfeiliedig yng Ngharn Menyn a chylch meini’r Gors Fawr i’r de ohono, hefyd wedi’u gwneud o’r graig anarferol hon.

Clostir sarnau Neolithig Banc Du ym mhen gorllewinol Mynyddoedd y Preseli yw’r lloc Neolithig cyntaf i gael ei gadarnhau yng Nghymru a chanol gorllewin Prydain – mae’n sicr bod eraill na chafwyd hyd iddynt eto. Mae Banc Du’n cyfoesi â beddrodau megalithig mawr y rhanbarth, fel Pentre Ifan sydd bron 8 km i’r gogledd ohono a bedd cyntedd Bedd-yr-Afanc sydd 6 km i’r gogledd-ddwyrain. Dyma hefyd gyfnod ecsbloetio creigiau metamorffig graenus yr ardal i gynhyrchu bwyeill llathredig. Gan mai Banc Du yw’r anheddiad agosaf sy’n hysbys, mae iddo oblygiadau enfawr i’n dealltwriaeth o’r ardal yn y pedwerydd a’r trydydd mileniwm CC ac i gyd-destun cymdeithasol y megalithau.

Mae Banc Du ar gopa bryn isel sy’n edrych dros groesffordd New Inn ym mhen gorllewinol Mynyddoedd y Preseli. Cafwyd hyd iddo gyntaf o’r awyr gan y Comisiwn Brenhinol ym 1990. Cododd awyrluniau newydd gan Toby Driver yn 2002 y posibilrwydd bod Banc Du yn lloc Neolithig hynod brin a bod iddo ragfuriau isel y codwyd darnau byr ohonynt gan adael bylchau rhyngddynt. Awgrymodd arolwg a wnaed o’r tir gan y Comisiwn Brenhinol i’r lloc gwreiddiol gael ei ehangu’n ddiweddarach drwy godi clawdd allanol iddo. Bu ymchwil ar y safle’n rhan o brosiect gan SPACES (Astudiaeth o Gymunedau ac Amgylchedd Hynafol Strwmbwl-Preseli), mewn partneriaeth â’r Comisiwn Brenhinol, i astudio’r dirwedd. Bu i waith newydd gan yr Athro Geoffrey Wainwright a’r Athro Tim Darvill gynnwys gwneud arolygon geoffisegol i fapio’r gwrthgloddiau a’r nodweddion archaeolegol eraill, a chloddio ffos ar draws y gwrthglawdd mewnol. Datgelodd y cloddio fod yno ragfur a gawsai ei godi’n gadarn yn wreiddiol, sef wyneb allanol o gerrig a phlethwaith o bren y tu blaen a’r tu cefn iddo. Yr oedd y ffos a dorrwyd i’r graig o flaen y rhagfur yn 2.8m o led ac yn fetr o ddyfnder. Dros ddygwympiad cynnar cerrig y rhagfur cafwyd hyd i ddwy haen dywyll o ludw a gynhwysai siarcol o grug, cyll, gwern a derw. Cafwyd chwe dyddiad radiocarbon i’r dyddodion hynny a dangosent fod y silt cychwynnol yn y ffos wedi cronni yno tua 3650 CC a bod llenwadau canol y ffos dros y meini a syrthiodd yn cynnwys defnydd o’r cyfnod 3000 – 2600 CC.

Cyswllt i’r cofnod am Garn Meini yn Coflein:

Cyswllt i’r cofnod am Fanc Du yn Coflein:

Cyswllt i’r cofnod am Bentre Ifan yn Coflein:

Cyswllt i Gymru Gynhanesyddol ar wefan y Comisiwn

Abertawe – Y Cyrchoedd Bomio ac Aerofilms

  • Morgannwg, 33145, Awyrlun o Abertawe ym 1923 (afl03_aeofilms_8836 / NPRN: 33145)
  • Morgannwg, 33145, Awyrlun o Abertawe ym 1950 (AFR13494 / NPRN: 33145)
  • Eglwys y Santes Fair yn Abertawe (DI2009_0905 / NPRN: 400057)

Gan fod mwy o weddnewid wedi bod ar Abertawe nag ar yr un ddinas arall yng Nghymru dros y trigain mlynedd diwethaf, mae David Thomas a Peter Wakelin yn astudio sut mae casgliad mawr o ffotograffau a brynwyd gan y Comisiwn yn ddiweddar ar gyfer y cyhoedd yn dangos sut y cafodd y dref ei hailadeiladu ar ôl dinistr bomiau’r Luftwaffe.

Ar un adeg, safai castell Abertawe uwchlaw porthladd llewyrchus ac wrth galon arglwyddiaeth ganoloesol bwerus. Tan 1941, patrwm y dref ganoloesol oedd sylfaen y ganolfan fasnachol fwyfwy llewyrchus a oedd ymgyfoethogi ar elw datblygiadau diwydiannol Cwm Tawe yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ddilynol. Safai adeiladau mawr o Oes Victoria ochr yn ochr â slymiau gorlawn a oedd wedi’u gwasgu i blotiau adeiladu cul bob ochr i’r strydoedd a’r tramwyfeydd hynafol sydd oll i’w gweld yn glir ar lun a dynnwyd gan Aerofilms ym 1923.

Chwalwyd y dref dros benwythnos ym 1941. Rhwng 19 a 21 Chwefror, gollyngodd y Nazis 1,275 o fomiau ffrwydrol a 56,100 o fomiau tân arni. Difrodwyd 11,084 o adeiladau a lladdwyd 227 o bobl. Mae atgofion Sid Kidwell, y gŵr sy’n disgrifio’r bomio wrth y Comisiwn, yn rhoi darlun byw o’r tair noson a newidiodd Abertawe am byth.

Ar ôl y rhyfel, manteisiodd cynllunwyr ar y cyfle i roi gwedd fodern i’r dref wrth ei hailadeiladu. Mae llun a dynnwyd gan Aerofilms ym 1950 yn dangos ffyrdd llydan ac adeiladau modern canol newydd y dref. Soniodd pensaer sydd wedi ymddeol, Peter Ridgewell, wrth y Comisiwn am anhawster cael gafael ar ddefnyddiau ar y pryd, a hefyd am ofynion y cynllunwyr. Un ohonynt oedd gwaharddiad penodol ar ddarparu lle i fyw yng nghanol y dref – trefn wahanol iawn i’r strydoedd poblog a’r slymiau a fu yno gynt.

Y tŷ uchaf yng Nghymru

  • Adfeilion Plasty Saethu Gwylfa Hiraethog o’r awyr (AP_2007_2113 / NPRN: 23045)
  • Olion saethfan fach gron nad oes ond prin modd ei gweld (DI2009_0891 / NPRN: 23045)
  • Llun di-ddyddiad o Blasty Saethu Gwylfa Hiraethog (DS2009_175_001 / NPRN: 280080)

Mae Louise Barker, Ymchwilydd y Comisiwn Brenhinol, a Bob Silvester o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, wrthi’n ymchwilio i olion ystâd saethu grugieir ar ucheldir Mynydd Hiraethog. Ymchwiliwyd i’r olion fel rhan o fenter y Comisiwn, Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd. 

Yn ystod yr ugeinfed ganrif, ystadau saethu grugieir oedd rhannau helaeth o Fynydd Hiraethog. Symbol nodedig o’r gamp honno yw adfeilion llwm Gwylfa Hiraethog sydd i’w gweld o bell ar draws y gweundir. Arferai’r adeilad fod yn blasty saethu. Fe’i codwyd ym 1908 gan y miliwnydd a’r AS Rhyddfrydol, Hudson Ewbanke Kearley, Is-Iarll cynaf Devonport. Yno cynt yr oedd adeilad o bren a gawsai ei fewnforio mewn darnau parod o Norwy ddechrau’r 1890au. Dywedid mai’r plasty oedd y drigfan uchaf yng Nghymru a honnid hefyd mai oddi yno yr oedd y golygfeydd ehangaf o unrhyw dŷ ym Mhrydain. Mae ffotograff cynnar yn dangos plasty trawiadol yn y dull Jacobeaidd ac yr oedd yn enwog am i Lloyd George annerch tyrfa fawr o’r balconi.

Amgylchynid y plasty gan ystâd saethu Arglwydd Devonport, sef dros 7,000 o erwau o weundir. Daliai ef y rhan fwyaf ohonynt ar brydles. Dywedid i 1,000-1,400 o rugieir gael eu saethu yma mewn blynyddoedd da. Nodweddion cyffredin, ond llai amlwg, yno yw’r llinellau o saethfannau sef, yn bennaf, gloddiau bach crwn o bridd a fyddai wedi cynnig cysgod i wn.

Cyhoeddir llyfr y Comisiwn ar Fynydd Hiraethog yn 2010.

Chwiliwch am ‘Gwylfa Hiraethog’ ar Coflein

Chwiliwch am ‘Ystâd Gwylfa Hiraethog’ ar Coflein

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am Fenter Archaeoleg yr Uwchdiroedd y Comisiwn Brenhinol