Mae’n bryd turio i ffeiliau hanes Cymru unwaith eto! Yn dilyn y gyfres gyntaf hynod lwyddiannus a ddarlledwyd yr hydref diwethaf, bydd yr ail gyfres o Hidden Histories yn cychwyn ar BBC FOUR o nos Fawrth 26 Ionawr. Bydd hi’n dilyn gwaith ymchwil bob-dydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, corff sydd â’i swyddfa yn Aberystwyth
Cewch chi lawer mwy o wybodaeth am y safleoedd sy’n cael sylw yn y gyfres, yn ogystal â llu o rai eraill, yn y Canllawiau i’r Penodau ac yn y gronfa ddata ar-lein, Coflein.
Gallwch ddarllen am waith y Comisiwn Brenhinol yn y llyfr Trysorau Cudd.
Caiff detholiad o sylwadau gwylwyr ar y rhaglenni eu cynnwys ar y wefan hon. Dilynwch y cyswllt hwn i Anything to Add