Treftadaeth Cymru

Y Traphontydd Dŵr

Traphont Ddŵr y Waun

Mae Traphont Ddŵr y Waun yn cario’r gamlas ar draws Dyffryn Ceiriog i’r de-orllewin o’r Waun. Cynhelir y cafn o haearn bwrw ynddi gan 10 o fwâu cerrig ar golofnau sy’n 65 troedfedd o uchder. Dyma’r gyntaf o draphontydd dŵr Cymru i’w chodi, a’r ffaith hollbwysig yw iddi gysylltu meysydd glo, chwareli gwenithfaen a mwyngloddiau llechi Dyffryn Ceiriog.

  • Awyrlun o Draphont Ddŵr y Waun o’r de-ddwyrain a Thraphont Reilffordd y Waun yn union i’r gorllewin ohoni. (DI2007_1626, NPRN: 344016)
  • Cafn a llwybr halio Traphont Ddŵr y Waun gan edrych tua’r gogledd, a bwâu’r draphont reilffordd yn y cefndir. (DS2005_008_009: NPRN: 344016)
  • Golwg o’r dwyrain ac o waelod Dyffryn Ceiriog ar fwâu trawiadol Traphont Ddŵr y Waun. (DS2007_032_005: NPRN: 344016)

Bwriad gwreiddiol Thomas Telford a William Jessop oedd i’r draphont ddŵr fod yn un gymharol fach ac iddi groesi darn bach o’r dyffryn dros Afon Ceiriog. Y bwriad hefyd oedd defnyddio cerrig a chlai pwdlo i’w chodi hi yn y ffordd draddodiadol a chodi arglawdd enfawr o bridd i gario’r gamlas ar draws gweddill y rhannau o’r dyffryn. Rhoes Richard Myddleton o Gastell y Waun ergyd farwol i’r cynnig hwnnw drwy ddadlau y byddai’n difetha golwg Dyffryn Ceiriog. Yr ymateb cychwynnol i hynny oedd symud y draphont i fyny’r afon i fan lle y gwnâi hi lai o ddrwg i olwg y dirwedd. Ond pan gafwyd gwybod bod problemau wedi codi wrth ddefnyddio cyfuniad o bridd a chlai pwdlo i godi traphontydd yn Swydd Derby, gorchmynnodd William Jessop fod rhaid ailystyried y cynllun o’r bôn i’r brig.

Penderfynodd Jessop a Telford fabwysiadu cynllun newydd a chwyldroadol, sef gosod cafn o haearn bwrw ar ben colofnau o gerrig ar draws y dyffryn. Cyflwynodd Jessop y cynllun i Bwyllgor y Gamlas gan obeithio “that the objection might be removed and instead … it would be a romantic feature in the view”. Gan nad oedd rhyw lawer o brofion wedi’u gwneud ar haearn bwrw, teimlai llawer o bobl yn betrus ynglŷn â’i ddefnyddio, ond fe’i hychwanegwyd at y cynllun erbyn canol 1795 a chyflogi grŵp o grefftwyr arbenigol i ddechrau ar y gwaith.

Hyd yn oed cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, newidiodd Telford y cynnig unwaith eto. Yn lle cael cafn, awgrymodd godi cyfres o fwâu o gerrig rwbel, a’r bwâu hynny wedi’u hysgafnhau drwy i’w sbandreli fod yn eithaf gwag ond â chroesfuriau ac estyll cloi i’w cryfhau. Mae hi bron yn sicr mai’r ffactorau a barodd iddo newid ei feddwl oedd yr amser a’r gost. Yr oedd y peiriannydd dan bwysau i gwblhau’r bont (ac felly’r rhan hon o’r gamlas) cyn gynted â phosibl er mwyn i lo allu dechrau cael ei gludo o’r pwll glo ger y Waun ac i incwm gael ei gynhyrchu, yn ogystal ag i’w chodi cyn rhated â phosibl.

O chwarel leol ar lan yr afon y daeth cerrig y bont. Cerrig rwbel ydynt ar wahân i’r cerrig nadd a ddefnyddiwyd ar gyfer y conglfeini, y llin-gyrsiau a’r meini clo. Mae i’r colofnau bileri sydd wedi’u gosod allan ychydig o sbandreli’r bwâu, ac maent hefyd yn meinhau yn y tu blaen a’r tu cefn gan adleisio cynlluniau’r Bensaernïaeth Glasurol ac Eifftaidd yr oedd Telford yn ymddiddori ynddynt.

  • Bwâu cerrig Traphont Ddŵr y Waun uwchlaw’r colofnau o gerrig rwbel sy’n meinhau ac yn cynnal y gamlas, o’u gweld o Fasn y Waun ym mhen gogleddol y bont. (DS2005_008_002: NPRN 344016)
  • Llun llonydd o fodel 3-dimensiwn o un o fwâu nodweddiadol Traphont Ddŵr y Waun. Mae’n dangos y cafn gwreiddiol a ffurfiwyd o blatiau gwaelod o haearn bwrw, a’r leinin o gerrig ar hyd ochrau a adeiladwyd o frics llosg. (CALC08: NPRN: 344016)
  • Trychiad llonydd o fodel 3-dimensiwn o un o fwâu nodweddiadol Traphont Ddŵr y Waun. Mae’n dangos y ffrâm bren sy’n cynnal rhannau uchaf – rhannol wag – y colofnau. (CALC09: NPRN: 344016)

Wrth i waith maen y colofnau ddechrau codi, yr oedd hi’n amlwg nad oedd penderfyniad pendant wedi’i wneud ynghylch cynllun rhan uchaf y bont. Gofynnwyd am gost cynhyrchu cafn â slabiau o gerrig ar ei waelod, cost brethyn Cymreig i’w ddefnyddio i atal dŵr rhag gollwng ohono, a chost waliau ymyl o frics. Tebyg fyddai’r adeiladwaith, felly, i adeiladwaith llawer o draphontydd dŵr y Rhufeiniaid. Ond y penderfyniad a wnaed yn y pen draw oedd troi’n ôl at ddefnyddio rhywfaint o haearn bwrw. Cynhyrchwyd gwaelod y cafn o blatiau o haearn bwrw a oedd yn fodfedd o drwch, a’u bolltio wrth ei gilydd ar hyd cantelau croes. Yr oedd y rheiny’n cysylltu â’i gilydd y ddwy ochr a adeiladwyd o friciau llosg caled. Seliwyd y platiau â Sment Parkers - testun patent newydd - ac ar y tu allan yr oedd blociau o gerrig. Ymhen amser, dechreuodd y dŵr ollwng, ac ym 1869 gosodwyd cafn cyflawn o haearn bwrw yn lle’r cyfuniad cynt.

Credai Telford fod harddwch gwrthrych yn dibynnu ar ba mor addas oedd ef at ei ddiben, a llwyddodd Jessop ac yntau, drwy ddefnyddio gwaith cynllunio arloesol a defnyddiau newydd, i greu adeiladwaith a olygai fod Traphont Ddŵr y Waun yn ysgafn o ran ei phwysau ac yn ysgafn i’r llygad ac felly’n harddu yn hytrach nag anharddu’r dirwedd.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn ymestyn am 1007 o droedfeddi dros afon a dyffryn Dyfrdwy ychydig i’r de o Fasn Trefor. Mae iddi 18 colofn o gerrig nadd ac ar ei huchaf mae’n codi 126 o droedfeddi uwchlaw pwynt isaf y dyffryn. Arni mae cafn o haearn bwrw sy’n 11 troedfedd a 10 modfedd o led. Pan godwyd hi, yr oedd hi’n un o ryfeddodau gwychaf yr oes ddiwydiannol ac mae’n dal i fod yn un o’r traphontydd talaf o haearn bwrw yn y byd.

  • Yr awyrlun o Draphont Ddŵr Pontcysyllte o’r dwyrain, gan ddangos y bont yn cario’r gamlas o Fasn Trefor (de) i Arglawdd y De (chwith). (AP_2006_0902, NPRN: 34410)
  • Golwg o’r gorllewin ar Draphont Ddŵr Pontcysyllte wrth i gwch deithio tua’r gogledd drosti i Fasn Trefor. (AP_2006_0930, NPRN: 34410)
  • Llun, a dynnwyd yn y 1950au, o Draphont Ddŵr Pontcysyllte o’r de-ddwyrain. (DI2007_1523: NPRN:34410)

Pan basiwyd y Ddeddf ym 1793 i adeiladu Camlas Llangollen (Camlas Ellesmere gynt), un o’r syniadau cychwynnol ynghylch croesi’r dyffryn oedd awgrym William Jessop y gellid codi traphont ddŵr uchel i fynd â’r gamlas yn syth o’r naill ochr i’r llall heb fod angen unrhyw loc o gwbl. Serch hynny, y cynllun gwreiddiol oedd codi pont isel ar dair colofn o gerrig i groesi Afon Dyfrdwy, ac yna gyfres o chwech neu saith o lociau i ddringo rhwng 50 a 60 troedfedd i fyny ochrau serth y dyffryn. Cawsai’r cynllun hwnnw ei lunio gan William Turner cyn i Telford gael ei benodi i’r prosiect, ond gan fod Telford yn anfodlon ag ef, dechreuodd ystyried defnyddio haearn bwrw i godi traphont uchel a dileu’r angen am lociau’n gyfan gwbl. Er ei fod yn benderfynol o gwtogi hyd yr eithaf ar nifer y lociau ar hyd y gamlas gyfan, gallai ragweld problemau. Un ohonynt, yn arbennig, oedd na fyddai digon o ddŵr yn y gamlas i weithio’r nifer o lociau y byddai eu hangen yn y dyffryn. Yr oedd hi’n amlwg, serch hynny, na fyddai cerrig a chlai pwdlo yn ddefnyddiau addas ar gyfer codi traphont ddŵr mor uchel. Byddai pwysau’r adeiladwaith yn peri iddi fod yn ansefydlog ac yn achosi cracio. Byddai’r gost hefyd yn ddychrynllyd o uchel. Erbyn mis Mawrth 1794, felly, yr oedd Telford yn trafod gyda William Reynolds, Coalbrookdale, a ellid defnyddio haearn bwrw i greu adeiladweithiau a allai gario dŵr. Yr oedd ef wrthi, yr un pryd, yn gwneud profion ar Dywodfaen Cefn o chwarel ger pen gogleddol safle’r draphont ddŵr.

Erbyn Gorffennaf 1795, a haearn bwrw wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus i greu Traphont Ddŵr Longdon on Tern yn Swydd Amwythig a’r profion wedi dangos bod tywodfaen lleol Cefn yn ddigon caled, cyflwynodd Jessop gynnig newydd i bwyllgor y Gamlas, sef codi traphont ddŵr uchel ac iddi wyth colofn garreg a phob un ohonynt yn rhychwantu 50 troedfedd. Drostynt rhedai cafn haearn a gynhelid gan asennau haearn a godai o blatiau sbringio yn ymyl brig pob colofn. Byddai’r bont yn cynnal y gamlas rhwng arglawdd enfawr o bridd y naill ochr a’r llall i’r dyffryn. Er i’r cynnig hwnnw gael ei hyrwyddo gan Jessop, gŵr a wyddai lawer, mae’n siŵr, am y gallu i weithio gyda haearn bwrw ac a gafodd y syniad cychwynnol o godi traphont ddŵr uchel, mae hi bron yn sicr mai syniad Telford oedd yr adeiladwaith hwn. Cefnogwyd y cynllun gan William Reynolds a John Wilkinson, sefydlydd y ffwrnais haearn, a chan eu bod ill dau’n aelodau o Bwyllgor y Gamlas, cafodd y cynllun ei fabwysiadu’n ffurfiol.

Ar 25ain Gorffennaf 1795, gosododd Richard Myddleton, Castell y Waun, y garreg sylfaen gyntaf. Gan fod carreg Cefn, y garreg a ddefnyddiwyd ar gyfer y colofnau, mor galed, yr oedd hi’n bosibl dilyn egwyddor newydd a leihâi bwysau’r adeiladwaith cyfan. Fe godwyd, felly, golofnau a fesurai 20 troedfedd wrth 12 troedfedd ar lefel yr afon ond a feinhâi i 13 troedfedd wrth 7 troedfedd 6 modfedd ar y brig. Yr oeddent yn gyfan hyd at uchder o 70 troedfedd, ond uwchlaw hynny’n eithaf gwag ac felly’n llawer iawn ysgafnach. Ar argymhelliad Jessop, cryfhawyd y rhannau hynny â chroesfuriau mewnol. Er i’r gweithwyr wynebu amodau go enbyd, cawsant gymorth system o gangwes a godai’n raddol o ochr ddeheuol ac uchaf y dyffryn i’w helpu i ymgyfarwyddo â gweithio ar uchder mor fawr. Mae gwaith ymchwil diweddar gan y Comisiwn Brenhinol ar y colofnau wedi dangos dull a threfn debygol eu codi ac wedi helpu i brofi cywirdeb portread cyfres o beintiadau cyfoes o’r broses o godi’r bont.

  • Un o fwâu Traphont Ddŵr Pontcysyllte, gan ddangos y pedair asen a gynhaliai’r cafn. Cynhelir yr asennau yn eu tro gan y plât sbringio a osodwyd ar frig y golofn. (DS2007_151_018,: NPRN: 34410)
  • Ateg ogleddol Traphont Ddŵr Pontcysyllte o’r gorllewin. Gwelir pa mor gain yw’r gwaith maen a’r rheiliau o haearn bwrw. (DS2007_151_001, NPRN: 34410)
  • Llun o un o golofnau Traphont Ddŵr Pontcysyllte sy’n dangos trefn codi’r gwaith maen. (PAP02: NPRN: 34410)

Ym mhob colofn gwelir cyfres o slotiau yn y gwaith maen, a’r rheiny fel arfer yn 0.3 metr o led ac yn 0.75 metr o uchder. Hwy, yn wreiddiol, a ddaliai’r estyll pren llorweddol a redai o golofn i golofn ac y codid llwyfannau neu gangwes dros dro arnynt. Mae’n bosibl bod cledrau wedi’u gosod arnynt i hwyluso symud blociau o gerrig a defnyddiau adeiladu eraill o iard adeiladu’r draphont wrth ymyl Basn Trefor ar lan ogleddol yr afon. Cynhelid yr estyll gan afaelfachau croeslin. Y dystiolaeth o hynny yw pâr o dyllau bach sydd wedi’u torri i’r gwaith maen heb iddynt fod yn fwy na 0.1 metr o uchder ac o led. Ynddynt, mae’n debyg, yr oedd corbelau neu esgidiau o haearn bwrw i ddal pen y gafaelfach. Felly, câi’r colofnau eu codi o amgylch ac uwchben pob llwyfan tan y byddai angen mynd i fyny i lefel newydd. Bryd hynny, câi’r llwyfan isaf ei ddatgymalu, y trawstiau eu tynnu a’r agen ei llenwi â charreg nadd.
Nid oes unrhyw dystiolaeth ar wynebau allanol y colofnau, nac yn y lluniadau cyfoes, o ddefnyddio sgaffaldiau ychwanegol. Mae’r lluniau a dynnwyd ar y pryd yn dangos craen ar frig un o’r colofnau i godi’r defnyddiau adeiladu o’r llwyfannau. Mae’n debyg y byddai’r gweithwyr wedi defnyddio ysgolion i ddringo’r colofnau tan iddynt gyrraedd y fan lle’r oedd y colofnau hynny’n eithaf gwag. Yna, byddent wedi dringo i fyny’r tu mewn iddynt ac efallai wedi codi llwyfannau i sefyll arnynt gan ddefnyddio’r croesfuriau yn gynhaliaeth ychwanegol. Awgrymir hynny gan Telford ei hun wrth iddo nodi y byddai’r colofnau gwag yn arbed ‘five or six hundred pounds in the expense; and what to me appears most material, it will afford safety to the workmen.’ Yn ei hunangofiant, dywedodd ‘…one man only fell during the whole of the operations in building the piers, and affixing the iron work upon their summit, and this took place from carelessness on his part.’

Cafwyd hyd i olion pum lefel o lwyfan, a phob lefel yn gyfrifol am godi rhwng 4 metr ac 8 metr ar uchder y golofn. Mae pob un o’r pump i’w cael ar y colofnau talaf uwchlaw’r afon. Yna, mae eu nifer yn gostwng i gyd-fynd â’r gostyngiad yn uchder y colofnau uwchlaw’r dyffryn. Yn achos y colofnau sydd wrth ymyl y naill ateg a’r llall, un llwyfan yn unig yr oedd ei angen. Ym mhen gogleddol yr afon, wrth ymyl Basn Trefor, yr oedd prif iard adeiladu’r bont a deuai’r cerrig ar gyfer y colofnau o’r chwarel ar yr ochr honno i’r afon hefyd. Yn rhesymegol, felly, byddai pob colofn wedi codi fesul cam o’r de i’r gogledd. Efallai mai’r unig amrywio a fu ar y drefn honno oedd codi lefelau isaf y golofn ar lan ddeheuol yr afon, ar ochr Froncysyllte, gan fod modd i gart gyrraedd y fan honno’n hwylus dros bont ffordd Cysyllte.

  • Dau o’r torddyfroedd ar waelod y pedair colofn o Draphont Ddŵr Pontcysyllte sy’n sefyll yn nyfroedd Afon Dyfrdwy. (DS2005_007_013, NPRN: 34410)
  • Arglawdd y gogledd o’r ochr, gan ddangos yr asennau cynhaliol a thystiolaeth o’r llwyfannau a hwylusodd godi’r colofnau. (DS2007_151_013, NPRN: 34410)
  • Llun llonydd o fodel cyfrifiadurol 3-dimensiwn o un o rychwantau nodweddiadol Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’n dangos sut y codwyd y colofnau uchaf, y cafn a’r llwybr halio tua 1810. (PALC15, NPRN:34410)

Yr awgrym yw i’r gwaith gychwyn drwy godi pedair colofn yn yr afon. Byddent wedi’u codi gyda chymorth cistargaeau hyd at frig y torddyfroedd a phlinthau gwaelod y colofnau. Yna, gosodwyd llwyfan lefel 1 ar draws yr afon o lan i lan a defnyddio’r plinthau gwaelod i’w gynnal. Gall y blociau carreg fod wedi dod i lawr y llethr gogleddol ar hyd inclein neu fe allent fod wedi’u cludo i lan y de dros bont ffordd Cysyllte. Mae tystiolaeth o lwyfan lefel 2 i’w gweld ar golofn ogleddol y bont a’r ddwy golofn gyfagos ar ochr Trefor i’r afon. Yma, mae slotiau’r trawstiau yn 21.3 metr islaw’r plinth codi, h.y. y plinth o faen y mae’r rhychwantau o haearn bwrw yn codi ohonynt. Gan nad oes tystiolaeth bod unrhyw beth yn dal y gafaelfachau ar y lefel hon, mae’n debyg y cynhelid y trawstiau, lle bynnag yr oedd modd, gan bropiau pren a gawsai eu rhoi yn y ddaear neu, o bosibl, yn erbyn y plinth gwaelod. Yn yr un modd, gan fod darn o dir cymharol wastad ar lan ddeheuol yr afon, a chan nad oes tystiolaeth o slotiau i drawstiau yn y rhannau isaf, cafodd amryw o’r colofnau yn y fan honno eu codi hyd at blatfform lefel 4 gan ddefnyddio sgaffaldiau a godwyd ar y tir. Mae’n debyg i’r defnyddiau adeiladu gael eu cludo ar draws llwyfan lefel 3 i wneud hynny ac mae slotiau’r trawstiau 14.07 metr islaw’r plinth codi. Mae slotiau trawstiau llwyfan lefel 4 yn 6.85 metr islaw’r plinth codi a byddai’r llwyfan wedi estyn ar draws yr holl golofnau ac eithrio’r rhychwant rhwng yr ategion a’r golofn agosaf atynt. Yr oedd trawstiau llwyfan lefel 5 un cwrs yn unig islaw’r plinth codi ac yn estyn ar draws yr adeiladwaith cyfan. Caent eu cynnal gan gerrig corbel sy’n ymwthio o ysgafell ar ateg y gogledd a dyna hefyd, mae’n debyg, oedd y sefyllfa wrth ateg y de.

Dechreuwyd cynllunio’r cafn ym 1797 a rhoddwyd y contract i William Hazeldine, perchennog ffowndri Plas Kynaston ger Froncysyllte, ar sail pris y gwaith a chyfleustra.

Erbyn 1800, yr oedd Jessop wedi gorfod rhoi’r gorau i’r syniad y câi Camlas Ellesmere byth ei chysylltu â’r gamlas yng Nghaer, a chan fod amheuaeth a fyddai’r gamlas gyfan yn talu ffordd yr oedd perygl na fyddai unrhyw ddiben codi’r bont. Arbedwyd y cynllun gan y penderfyniad i adeiladu tramffordd i gysylltu Meysydd Glo Wrecsam a Rhiwabon â Basn Trefor. Parodd hynny i Jessop, yn hwyr yn y prosiect, ofyn i’r Pwyllgor ystyried newid y cynllun i godi traphont yn lle hynny, er mwyn i gledrau’r dramffordd redeg drosti. Er bod cynllun y cafn dŵr yn ddrutach, penderfynodd y Pwyllgor lynu wrtho am mai mantais ychwanegol y cynllun oedd y byddai’n cynnig cyswllt ymlaen i Raeadr y Bedol ac y gellid cyflenwi dŵr oddi yno i weddill y gamlas. Derbyniwyd tendr Hazeldine ym 1802, ac erbyn 1804 yr oedd hanner y cafn wedi’i osod yn ei le. Ar wahân i’r asennau (a gastiwyd ar safle Hazeldine yn Coleham), castiwyd holl elfennau’r bont yng ngweithfeydd Plas Kynaston cyn eu cludo i’r safle a’u rhoi wrth ei gilydd yno. Cost y gwaith haearn oedd £17,824, a daeth hynny â chyfanswm cost codi’r bont i £47,018.

Mae 18 adran i’r cafn, a phob un ohonynt yn 44 troedfedd o hyd. Mae’n 7 troedfedd 6 modfedd o uchder ac yn 11 troedfedd 10 modfedd o led. Bolltiwyd platiau, sy’n chwarter modfedd o drwch, wrth ei gilydd ar hyd y cantelau, a defnyddiwyd cymysgedd y nodir iddo gynnwys gwlanen, plwm gwyn a thuriadau haearn i geisio sicrhau bod yr uniadau’n dal dŵr. Cynlluniwyd i bob adran o’r cafn efelychu bwa gwastad o gerrig ac i’r platiau ochr efelychu’r meini bwa. Wrthi’n cynnal pob adran mae pedair asen a gafodd eu castio mewn tair adran a’u bolltio wrth ei gilydd â phlatiau cysylltu, ac mae i’r asennau allanol blatiau mewnlenwi sy’n rhoi’r argraff bod yno rychwant solet. Mae’r asennau’n eistedd ar blatiau o haearn bwrw a adeiladwyd i’r gwaith maen yn ymyl brig pob colofn. Nid yw’r cafn wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r asennau na’r colofnau. Yn hytrach, caiff ei rwystro rhag symud i’r naill ochr gan amryw o fracedi ac oddfau sydd wedi’u gosod ar ochr isaf platiau gwaelod y cafn ac sy’n rhychwantu ymylon uchaf yr asennau.

  • Llun llonydd o fodel cyfrifiadurol 3-dimensiwn o un o rychwantau nodweddiadol Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’n dangos adeiladwaith yr asennau a’r colofnau uchaf, a’r platiau sy’n eu cynnal. (PALC17, NPRN: 34410)
  • Llun llonydd o fodel cyfrifiadurol 3-dimensiwn o un o rychwantau nodweddiadol Traphont Ddŵr Pontcysyllte, gan ddangos adeiladwaith y cafn. (PALC18: NPRN: 34410)
  • Llun llonydd o fodel cyfrifiadurol 3-dimensiwn o un o rychwantau Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’n dangos adeiladwaith y llwybr halio a osodwyd yno tua 1810.(PALC20: NPRN: 34410)

Ar hyd ymyl ddwyreiniol y cafn mae’r llwybr halio o haearn bwrw. Fe’i gosodwyd yno yn lle’r adeiladwaith gwreiddiol o bren tua 1810. Yn hytrach na bod yn adeiladwaith solet, mae bracedi’n ei ddal yn ei le dros ymyl y gamlas. Diben hynny yw rhoi mwy o le i’r dŵr symud pan fydd cwch yn symud drwy’r cafn a rhwystro’r dŵr rhag llifo dros ochrau’r bont. Mae’r llwybr wedi’i wneud o ddarnau safonol o 2½ fodfedd sydd wedi’u sicrhau â lletemau ac oddfau wrth uniadau cantelog y platiau gwaelod, ac â rhoden gyswllt wrth y platiau ochr. Dros y darnau safonol ceir cyfres o groesgludwyr sy’n cynnal platiau pantiog, a thros y rheiny y mae’r llenwad uchaf. Rhag i gwch daro a difrodi’r llwybr halio, mae wal bren wedi’i gosod ar hyd ei ymyl.

Cynhaliwyd sbloet fawr adeg agor Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1805, a’r amcangyfrif oedd bod o leiaf 8000 o bobl wedi dod yno i wylio’r cychod cyntaf yn croesi ac i ymuno mewn dathliad a gynhwysai danio magnelau a gynnau. Yn ogystal â chreu ateb chwyldroadol i her beirianegol enfawr, yr oedd Telford, drwy droi at bensaernïaeth a chynllunwaith clasurol am ysbrydoliaeth, wedi llwyddo i greu pont ysgafn a chywrain a oedd, ym marn llawer, yn adeiladwaith hardd iawn.

  • Golwg tua’r de ar hyd cafn Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’r llwybr halio yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y cafn a chaiff ei ddiogelu gan reiliau o haearn bwrw. Mae’r tyllau yng nghantelau uchaf y platiau ar ochr orllewinol y cafn yn dangos mai’r bwriad gwreiddiol oedd gosod rheiliau tebyg ar yr ochr honno, ond mae’n debyg na ddigwyddodd hynny. (DS2005_007_054, NPRN: 34410)
  • Clawr y ddogfen enwebu sy’n dadlau’r achos o blaid dynodi Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen yn Safle Treftadaeth Byd. Acwatint wedi’i liwio, ar ôl John Parry a dyddiedig 1806, yw’r llun o Draphont Ddŵr Pontcysyllte. (DI2008_0375, NPRN 34410)
  • Golwg o’r gorllewin ar Draphont Ddŵr Pontcysyllte wrth iddi groesi Afon Dyfrdwy. (DI2005_0880, NPRN: 34410)

Traphont Ddŵr Eglwyseg

Y draphont ddŵr dros Afon Eglwyseg ym Mhentre’r-felin ger Llangollen yw un o’r ddwy draphont ddŵr ar Gamlas Llangollen sydd wedi’u codi yn y ffordd draddodiadol gan ddefnyddio cerrig a’u leinio â chlai pwdlo. Mae’n adeiladwaith trawiadol yr olwg ac yn amlygu safon uchel y gwaith maen a fynnid gan Telford. Daw’r gamlas draw i’r draphont ddŵr ar hyd arglawdd hir a gynhelir gan furiau cerrig sy’n troi gan bwyll bach. Drwy’r muriau hynny mae cwlfert sy’n mynd â dŵr i’r felin gerllaw. Yng nghanol y bont dros afon Eglwyseg mae bwa canolog y pwysleisir ei osgeiddrwydd gan bilastrau yn ei ffasâd cromlinog a churedig.

  • Traphont Ddŵr Eglwyseg o’r de, gan ddangos y bwa mawr dros yr afon. (DS2007_071_004, NPRN: 405843)
  • Ochr ddeheuol Traphont Ddŵr Eglwyseg o’r de-orllewin, a’r muriau cynnal cromlinog sydd i’r arglawdd. (DS2007_071_003, NPRN: 405843)
  • Traphont Ddŵr Cross Street o’r de-orllewin. (DS2007_040_004, NPRN: 405799)

Traphont Ddŵr Cross Street

Yr ail draphont ddŵr o gerrig ar y gamlas yw Traphont Ddŵr Cross Street yn Froncysyllte. Fe’i codwyd am fod y gamlas yn gwahanu fferm oddi wrth y dolydd a oedd ganddi ar lan yr afon. Codwyd y bont o furiau cromlinog o gerrig rwbel ac mae iddi fwa canolog a pharapetau. Rhag achosi tagfeydd, ni chulhawyd dim ar led y gamlas drosti.

Cyfrngau