Man cychwyn Camlas Llangollen, Camlas Ellesmere gynt, oedd cynllun i gysylltu afonydd Mersi a Hafren. Byddai’r cynllun hefyd yn fodd i gyrraedd y meysydd haearn a glo ger Amwythig, Ellesmere a Rhiwabon. Yr ysgogiad iddo oedd yr angen i wella’r cyfleusterau cludo a oedd ar gael bryd hynny i economi amaethyddol a ddibynnai fwyfwy ar fasnachu dros bellteroedd maith, ac i wasanaethu’r chwyldro diwydiannol a oedd yn lledu fel tân gwyllt ar draws Prydain yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif. Er bod Swydd Amwythig yn dibynnu’n drwm ar fasnachu ei chynnyrch amaethyddol, ac yn dibynnu hefyd ar gludo nwyddau ar hyd Afon Hafren i gyrraedd porthladd Bryste, yr oedd llu o bobl yn y sir yn awyddus i fanteisio ar y fasnach newydd a ddeilliai o ecsploetio’r meysydd haearn a glo ar hyd y ffin â Chymru.
Ym 1791 cyfarfu tirfeddianwyr i drafod cynnig i gysylltu porthladdoedd Lerpwl a Bryste drwy adeiladu camlas a fyddai’n cysylltu afonydd Mersi a Hafren. Gan fod y cyhoedd mor gefnogol iddo fe sefydlwyd Cwmni Camlas Ellesmere a chodi pwyllgor rheoli. Y peiriannydd ymgynghorol oedd William Jessop, peiriannydd sifil mawr ei barch. Paratowyd dau gynllun posibl. Rhedai’r naill, ‘Llwybr y Dwyrain’, i’r dwyrain o Afon Dyfrdwy gan osgoi tir mynyddig y Gororau. Trafferth hwnnw oedd y byddai angen adeiladu cangen o’r gamlas i gyrraedd y meysydd glo a haearn i’r gorllewin ohono. Rhedai’r llall, ‘Llwybr y Gorllewin’ i’r gorllewin o Afon Dyfrdwy o Gaer i Wrecsam, Rhiwabon a’r Waun ac yna ymlaen i Amwythig. Serch bod yr ail gynllun yn golygu croesi tir llawer anoddach, penderfyniad y Pwyllgor ar ôl pwyso a mesur y cyfan oedd dilyn argymhelliad Jessop a mabwysiadu Llwybr y Gorllewin.
Ym 1793 pasiodd y Senedd ddeddf corffori a awdurdodai’r Cwmni i godi hyd at £500,000 i adeiladu’r gamlas. Ym mis Medi’r flwyddyn honno, penodwyd Thomas Telford (Syrfëwr Swydd Amwythig ar y pryd) yn ‘General agent, surveyor, engineer, architect and overlooker, and clerk to the committee’ ac yr oedd cyfrifoldeb arno i ‘make reports, to superintend the cutting, forming and making of the canal, to make drawings, …forming and directing the making of bridges, aqueducts, tunnels, locks, buildings, reservoirs, wharfs and other works’ yn ogystal â bod â gofal yr holl gontractau, contractwyr a chyfrifon.
Erbyn 1795 yr oedd y darn naw milltir o hyd ar draws Cilgwri i gysylltu Afon Mersi ag Afon Dyfrdwy wedi’i gwblhau ac yn agored i gludo nwyddau trwm a theithwyr ar hyd-ddo. Ym 1795 hefyd, cwblhawyd cangen ohoni o Frankton i Lanymynech, ond ni chafodd y darn rhwng Llangollen a Hurleston ei agor tan 1805. Erbyn hynny, cawsai’r syniad o adeiladu darn o gamlas i gysylltu Caer, Rhiwabon a Frankton ei roi o’r neilltu ac mae’r freuddwyd o gael camlas i gysylltu afonydd Dyfrdwy a Hafren heb gael ei gwireddu hyd heddiw.
Ar ôl ei chwblhau, y brif ran o Gamlas Ellesmere oedd y 44 milltir ohoni rhwng Hurleston a Llangollen, ac fe groesai ffin Cymru a Lloegr ger y Waun. Yn y rhan honno y ceir nifer fawr o weithiau peirianegol mwyaf trawiadol y gamlas – Traphont Ddŵr y Waun, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, arglawdd Pontcysyllte, a Thwneli’r Waun a Whitehouse.
Er mai tirfeddianwyr Swydd Amwythig oedd wedi ysgogi adeiladu’r gamlas, a hynny er lles eu buddiannau amaethyddol yn bennaf, buan y gwelwyd pa mor bwysig oedd y gamlas wrth hybu twf diwydiannol y rhanbarth hwnnw. Yn fuan ar ôl agor y darn o’r gamlas ar Gilgwri (y Wirral), datblygodd un pen i’r gamlas honno, Ellesmere Port, yn ganolfan fasnachu fawr a llewyrchus cyn pen dim a chynyddodd y refeniw yno bob blwyddyn rhwng 1795 a 1805. Daliodd y dref i ehangu drwy gydol y 19eg ganrif wrth i weithfeydd clai tsieina, melinau ŷd a diwydiannau adeiladu llongau ymuno â’r holl fasnachu mewn mwyn haearn a glo. Ar y darn hwnnw o’r gamlas hefyd datblygwyd gwasanaeth prysur i gludo teithwyr ar gychod rhwng Caer a Lerpwl.
Yr oedd mabwysiadu cynllun Llwybr y Gorllewin wedi golygu mynd â’r gamlas drwy’r ardaloedd diwydiannol hynny ger Ffrwd, y Bers, Brymbo, Wrecsam a Rhiwabon lle ceid meysydd glo mawr, chwareli carreg galch ac amryw o weithfeydd haearn - gan gynnwys Gweithfeydd Plas Kynaston lle câi elfennau Traphont Ddŵr Pontcysyllte eu castio. Wrth roi’r gorau i’r rhan honno o’r cynllun ym 1800, penderfynwyd adeiladu cyfres o dramffyrdd yn ei lle i gysylltu’r diwydiannau hynny â phen gogleddol Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Yno, adeiladwyd estyniad byr i’r gamlas er mwyn creu doc deupen lle byddai digon o le i adeiladu Ceiau Trefor. O weld llwyddiant y system gludo gyfun honno, aeth diwydiannau eraill ati’n fuan i ymsefydlu yn y fro.
Yn ei thro, bu’r gangen o Frankton i Lanymynech yn arbennig o bwysig am ei bod hi’n gwasanaethu’r chwareli carreg galch a’r gweithfeydd calch yn Llanymynech, Porthywaun, Nantmawr, Llanyblodwel ac ati. Fel yn achos y diwydiannau ymhellach i’r gogledd, yr oedd cyfres o dramffyrdd yn cysylltu’r diwydiannau hynny’n uniongyrchol â’r gamlas. Ym mhen mwyaf dwyreiniol y gamlas adeiladwyd tramffordd i gysylltu chwareli llechi’r Oernant, a oedd ychydig y tu hwnt i Raeadr y Bedol, â’r gamlas ym Mhentre’r-felin ger Llangollen, ac yn ystod ail hanner y 19eg ganrif cysylltai Tramffordd Glynceiriog y gamlas â Chwarel Glynceiriog. Bu hynny’n fodd, o’r diwedd, i’r chwareli llechi a gawsai eu gweithio ar raddfa fach iawn ers y 1500au gael eu hecsbloetio’n fasnachol. Ymhlith y diwydiannau eraill a gâi eu gwasanaethu gan y gamlas yr oedd melinau blawd, ffatrïoedd gwneud brics a theils, gweithfeydd echdynnu tywod a ffatrïoedd a gynhyrchai uwchffosffadau.
Ymhen hir a hwyr, dechreuodd y cydbwysedd rhwng y rheilffyrdd a’r gamlas newid, ac yn lle bod tramffyrdd yn gwasanaethu’r gamlas drwy ei chyflenwi â nwyddau i’w cludo, datblygodd y rheilffyrdd yn brif ffordd o gludo nwyddau. Ym 1944 pasiwyd deddf i osod cyfyngiad o 6¼ miliwn o alwyni’r dydd ar faint o ddŵr y gellid ei ollwng i Gamlas Ellesmere drwy Raeadr y Bedol, a chanlyniad hynny oedd cau pob rhan o Gamlas Ellesmere heblaw honno rhwng Cyffordd Hurleston a Rhaeadr y Bedol. Ailenwyd hi’n Gamlas Llangollen. Er i ddeddf i roi’r gorau i’r rhan honno hefyd ddod yn ddeddf gwlad ym 1944, mae’n debyg na chafodd hi mo’i gweithredu am fod byrddau dŵr yn wynebu mwy a mwy o angen i ddarparu dŵr i’r dinasoedd mawrion a bod modd iddynt ddefnyddio’r gamlas i wneud hynny. Ym 1950 cydweithiodd amryw o’r byrddau hynny i gael deddf a adawai iddynt gynyddu faint o ddŵr y caent ei dynnu o afon Dyfrdwy. Cafodd Bwrdd Dŵr Canol a De Swydd Gaer ganiatâd hefyd i gymryd dŵr o afon Dyfrdwy yn Froncysyllte i gronfa ddŵr y gamlas yng Nghyffordd Hurleston i’w buro cyn mynd ymlaen i gyflenwi Swydd Gaer.
Yn fwy diweddar, sicrhawyd dyfodol y gamlas gan y cynnydd cyflym mewn twristiaeth wrth i nifer fawr o bobl logi cychod i fynd ar deithiau undydd neu dreulio’u gwyliau arni.