Yr oedd graddfa ac amlder yr argloddiau a’r pantiau yn un o’r prif nodweddion a wahanai Oes y Camlesi oddi wrth y dyfrffyrdd â’u rhagflaenodd. Yn aml, yr oedd y camlesi cynharaf yn hir a throfaus am fod tuedd i’w hadeiladwyr ddilyn ffurf naturiol y tir ac osgoi, cymaint ag y gallent, unrhyw gynllun a olygai symud llawer o bridd. Dilynai camlas Telford, ar y llaw arall, linell drwy’r bryniau gan fynd yn syth ar draws dyffrynnoedd, beth bynnag fyddai graddfa’r gwaith adeiladu.
Arglawdd y De
Yn union i’r de o Draphont Ddŵr Pontcysyllte mae Arglawdd y De. Mae’n 1500 o droedfeddi o hyd. Adeg ei godi, mae’n debyg mai hwn oedd yr arglawdd mwyaf yn Ewrop. Fe’i codwyd â llaw gan ddefnyddio cannoedd o weithwyr â rhofiau a berfâu i roi siâp i’r pridd. Cludwyd llawer o’r pridd hwnnw ar hyd tair rheilffordd o fan ger y Waun gan fod cloddio sianel y gamlas yno’n cynhyrchu llawer iawn o ddefnydd gwastraff.
Y Pantiau
Mae’r pantiau dwfn yn creu llwybr uniongyrchol drwy dir uchel, drwy’r pantiau pridd â llethrau llyfn y plannwyd coed arnynt, a thrwy bantiau ag ochrau serth a dorrwyd drwy’r graig. Yr enghraifft fwyaf o’r terasau a grëwyd drwy dorri a phantio yr un pryd yw Banc y Waun, sy’n ymestyn am 0.7 milltir/1.1km. Wrth iddo ddod at ben deheuol Traphont Ddŵr y Waun, mae’n 60 troedfedd/18.3 metr o uchder ac yn 196 troedfedd/60 metr ar draws y gwaelod, a chynhyrchwyd y defnydd gwastraff wrth dorri 25-40 troedfedd/8-12 metr i’r graig ar ei ochr ddeheuol. Un o’r enghreifftiau mwyaf nodedig o dorri i’r graig yw pant Waliau Craig Wern Isaf, ynghyd ag arglawdd mawr a godwyd rhwng 1804-8 ar ochr y dyffryn.