Treftadaeth Cymru

Cludiant

Mae’r erthygl hon yn cyflwyno hanes cludiant yng Nghymru. Er i bobl ddechrau teithio ar hyd ffyrdd a thros y môr yn gynnar iawn, gwelwyd newidiadau mwyaf systemau cludiant wrth i ddiwydiannau ledu i bob rhan o’r wlad o'r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Gwelwyd datblygu rhwydwaith o gamlesi, tramffyrdd rheilffyrdd a phorthladdoedd mawr a mân ar hyd a lled Cymru.


Ffyrdd

  • Yr oedd croesi aberoedd llydan bob amser yn achosi problemau.  Ar ganol y llun hwn o Gonwy, fe welir y tair pont sy’n croesi sianel yr afon ar ddiwedd sarn hir: yr agosaf yw pont y rheilffordd, a godwyd gan Robert Stephenson ym 1850, a’r tu hwnt iddi mae pont y ffordd, a godwyd gan Thomas Telford ym 1826.  Y bont bellaf yw’r un a godwyd ym 1958 i ddisodli pont Telford.  Ar y dde uchaf, y ffordd sy’n arwain at Dwnnel Ffordd Conwy yw’r ateb diweddaraf i broblem cyrraedd glan bellaf yr afon. (ILlun: GTJ22545 / NPRN: 43083)
  • Mae carreg filltir ger Dyffryn Mymbyr yng Ngwynedd wedi’i llifio a’i cherfio o lechfaen.  Mynnai’r gyfraith fod rhaid dangos cerrig milltir ar hyd ffyrdd tyrpeg, ac er i’r garreg filltir hon ddisodli’i rhagflaenydd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n cadw’r sillafu hynafol a’r manylu rhyfeddol sydd arni. (Llun: CD2004_311_2005 / NPRN: 284624)
  • Ym 1756 y codwyd pont William Edwards dros Afon Taf ym Mhontypridd.  Gan fod rhychwant y bont yn 140 o droedfeddi (42.5 metr), hon oedd y bont fwyaf o’i bath pan godwyd hi.  Mae’r tyllau cylchog yn ei hochrau yn ysgafnhau’r pwysau ar goron y bwa gan mai’r pwysau gormodol ar y darn hwnnw a barodd i’r pontydd cynharach yn y fan hon gwympo i’r afon. (Llun: CD2005_612_013 / NPRN: 24145)

Mae traciau a llwybrau’n hen hen bethau. Ac er ei bod hi’n amlwg nad yw patrwm ein ffyrdd ni heddiw’n dilyn yr hen lwybrau’n union, mae modd gweld olion llawer o’r ffyrdd cynnar hynny o hyd. Fe all mai yn ystod y cyfnod cynhanesyddol y crëwyd amryw o’r traciau yn yr ardaloedd mynyddig. Datblygodd y Rhufeiniaid rwydwaith o ffyrdd ledled Cymru i gysylltu eu caerau a’u trefi, ac efallai mai’r un fwyaf cyfarwydd ohonynt yw Sarn Helen, ffordd sy’n rhedeg o’r De mor bell â Chonwy, er nad yw’r union lwybr i’w weld ymhobman. Rhedai llwybr pwysig arall ar draws y De i Gaerfyrddin ac mae ymchwiliadau diweddar o’r awyr ac ar lawr gwlad wrthi’n gwthio’r llwybr hwnnw hyd yn oed ymhellach tua’r gorllewin. Yn ystod yr Oesoedd Canol fe ddatblygwyd llwybrau traws-gwlad fel Llwybr y Mynachod, a gysylltai abatai Sistersaidd Ystrad Fflur a Chwm-hir. Mae darganfod a chloddio tracffordd bren ar draws Cors Fochno - tracffordd a grëwyd tua’r unfed ganrif ar ddeg - yn dangos y gallai llwybrau lleol, hyd yn oed, fod yn rhan o batrwm eithaf soffistigedig. Mewn cyfnod diweddarach fe ddatblygodd y porthmyn ffyrdd i yrru gwartheg ar hyd-ddynt i farchnadoedd Lloegr, a gellir dal i weld y ffyrdd hynny’n ymlwybro ar draws unigeddau mynyddig y Canolbarth.

Tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe sefydlwyd ymddiriedolaethau tyrpeg i adeiladu a gwella’r ffyrdd. Dilyn llawer o lwybrau’r ffyrdd tyrpeg hynny wnaiff ffyrdd modern ac mae’r hen gerrig milltir arnynt yn aml yn arwydd o’u tarddiad. Er hynny, mae enghreifftiau o ffyrdd y rhoddwyd y gorau i’w troedio i’w cael ar hyd a lled Cymru. Gyferbyn â’r ffordd bresennol o Langurig i Aberystwyth wrth iddi ddringo ar hyd dyffrynnoedd Gwy a Tharennig i Eisteddfa Gurig fe welwch chi’r hen ffordd, ac mae’r ffordd dyrpeg wreiddiol o Langadog i Frynaman yn torri ar draws y Mynydd Du ar ffurf llain eang, werdd, rhyw gilomedr i’r gorllewin o’r ffordd bresennol. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe welodd llawer o dolltai’r ffyrdd hynny gryn dipyn o wrthdaro sifil oherwydd terfysg Rebeca.

Un o ganlyniadau’r ddeddf ym 1801 a unodd Prydain ag Iwerddon oedd gwella’r ffyrdd rhwng Llundain a Dulyn. Ac er mai’r ymddiriedolaethau tyrpeg a fodolai ar y pryd a gafodd y cais i wella’r ffordd rhwng Llundain ac Amwythig, y wladwriaeth a noddodd y prosiect i adeiladu’r ffordd ymlaen i Gaergybi a hefyd y ffordd i gysylltu Conwy a Bangor. Peiriannydd y prosiect oedd Thomas Telford ac fe wnaed y gwaith adeiladu a gwella rhwng 1815 ac 1826. Ymhlith y nifer o gofadeiliau o bwys a godwyd bryd hynny, y pwysicaf ohonynt oedd Pont Waterloo ym Metws-y-coed, Pont Grog Conwy, Arglawdd Stanley a Phont y Borth. Ar 30 Ionawr 1826 fe agorwyd pont wych Telford dros Afon Menai. Mae hi’n 579 o droedfeddi (176.5 metr) o hyd ac mae hi 100 troedfedd (30.5 metr) uwchlaw lefel y dŵr rhag iddi amharu ar fastiau uchel llongau’r cyfnod wrth iddynt hwylio o dani.


Camlesi

Tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd adeiladu camlesi ar hyd llawer o brif gymoedd y De. Er na chafodd y systemau unigol erioed mo’u datblygu’n rhwydwaith go iawn o gamlesi, fe gyfrannon nhw lawer at ddiwydiannu’r ardal. Nodwedd arbennig prif gamlesi’r De oedd y nifer fawr o lociau arnynt: pymtheg ohonynt rhwng Caerdydd a Merthyr ar Gamlas Morgannwg, dau a deugain ar Gamlas Sir Fynwy rhwng Casnewydd a Phontnewynydd, ac un ar bymtheg ar hugain ar y gangen i Grymlyn. Canlyniad yr awydd i osgoi codi lociau ar Gamlas Brycheiniog a’r Fenni oedd adeiladu darn gwastad a thrawiadol iawn ohoni ar hyd llethrau’r bryniau am dri deg a chwech o gilometrau.

  • Loc Burgedin ar Gamlas Maldwyn (Camlas y Shropshire Union), wrth gyffordd cangen Cegidfa â’r brif gamlas.  Awdurdodwyd y gamlas ym 1794, ac fe’i hagorwyd ym 1797.  Rhoddwyd y gorau iddi ym 1936 a’i chau’n swyddogol ym 1944.  Mae’r darn o Gamlas Ellesmere rhwng Cyffordd Frankton a’r Drenewydd wrthi’n cael ei adfer er mwyn i gychod allu hwylio ar hyd-ddo. (Llun: DI2006_1045 / NPRN: 404045)
  • Glanfa Llan-ffwyst ar Gamlas Brycheiniog a’r Fenni.  Agorwyd y rhan hon o’r gamlas ym 1812, ond codwyd y lanfa o tua 1825 ymlaen.  Hen Warws Hill yw’r adeilad ar y dde, a châi ei ddefnyddio i storio’r haearn a oedd yn aros i gael ei gludo ar hyd y gamlas.  O waith haearn Blaenafon deuai tramffordd i lawr i’r lanfa ar hyd dwy inclein.  Yn y cefndir mae Ty Perchennog y Lanfa yn cynnwys y ty isaf lle’r oedd y mecanwaith a weithiai’r inclein yn arfer bod. (Image: DI2005_0530  / NPRN: 91672)
  • Ar Gangen Crymlyn o Gamlas Mynwy yn Nhy Du ger Casnewydd, yr oedd cyfres o bedwar loc ar ddeg.  Nid oeddent yn union fel grisiau, a phorth uchaf pownd y loc hefyd yn borth isaf yr un uwch ei ben, ond fe’u grwpiwyd fesul dau a chodi powndiau rhyngddynt.  Cynlluniwyd y rhes gan Thomas Dadford yr ifancaf ac fe’i hagorwyd ym 1798.  Cariwyd y llwythi olaf ar hyd y rhan hon o’r gamlas ym 1930 a rhoddwyd y gorau i’w defnyddio ym 1949. (Llun: DI2005_0466 / NPRN: 34557)

Mewn rhannau eraill o Gymru, fe adeiladwyd Camlas Maldwyn ar hyd Dyffryn Hafren cyn belled â’r Drenewydd, ac er mai’r bwriad oedd i Gamlas Ellesmere gysylltu Canolbarth Lloegr ag afon Mersi, nid agorwyd mohoni ond cyn belled â Threfor ger Rhiwabon. Yr oedd hi, serch hynny, yn cynnwys traphontydd gwych ym Mhontcysyllte a’r Waun. Ar Lanfa Llan-ffwyst ar Gamlas Brycheiniog a’r Fenni fe gadwyd y warws a ddefnyddid gynt i storio haearn crai ynddo.


Tramffyrdd

Yr oedd tramffyrdd yn fodd o gyrraedd mannau nad oedd hi’n ymarferol i gamlesi eu cyrraedd. Datblygodd y rhai cynharaf, fel Tramffordd Blaenafon a adeiladwyd ym 1796, i fwydo’r camlesi neu’r porthladdoedd. O tua 1802 ymlaen, trowyd llawer o dramffyrdd y De yn blatffyrdd lle’r oedd y cantel ar y cledrau yn hytrach nag ar yr olwynion, a dyna’r math o batrwm a ddilynwyd wrth adeiladu’r mwyafrif o dramffyrdd o hynny ymlaen. Ar 3 Mehefin 1802, tramffordd Sir Gaerfyrddin oedd yr ail reilffordd gyhoeddus yn y byd i gael ei hawdurdodi, ac fe all mai hi oedd y gyntaf i agor. Ar 25 Mawrth 1807, dair blynedd ar ôl i Dramffordd Ystumllwynarth agor gyntaf, fe gyflwynodd hi wasanaeth cludo teithwyr – y cyntaf yn y byd.

Yn ddiweddarach, datblygwyd amryw o dramffyrdd traws-gwlad. O 1829 ymlaen, byddai Rheilffyrdd Llanfihangel Crucornwy, y Grysmwnt a Henffordd yn cysylltu Camlas Brycheiniog a’r Fenni yn Llan-ffwyst ag Afon Gwy yn Henffordd, bum milltir ar hugain (deugain cilometr) i ffwrdd. Yn yr un flwyddyn, yr oedd Rheilffyrdd y Gelli a Cheintun yn ymestyn bron deugain milltir (chwe deg pum cilometr) ac yn cysylltu Aberhonddu a Cheintun. Yn y pen draw, o 1834 ymlaen, estynnodd Tramffordd Fforest Brycheiniog, a oedd yn ddwy filltir ar bymtheg (saith cilometr ar hugain) o hyd, ddylanwad Camlas Abertawe ymhell i Sir Frycheiniog. Yr oedd Tramffordd Hill, a adeiladwyd tua 1819, yn cysylltu Gweithfeydd Haearn Blaenafon â Chamlas Brycheiniog a’r Fenni ac fe redai ar hyd llwybr trawiadol iawn ar lethrau’r bryniau.

  • Byddai tramffyrdd yn cysylltu’r chwareli carreg galch, a oedd ar dir uchel ar gyrion maes glo’r De, â’r gweithfeydd haearn.  Adeiladwyd y dramffordd o Chwareli Disgwylfa i Weithfeydd Haearn Nant-y-glo fel platffordd, a rhyw 2 droedfedd a 9 modfedd (0.84 metr) oedd y bwlch rhwng y cledrau.  Câi’r cledrau o haearn bwrw eu gosod ar y blociau cerrig a ddangosir.  Câi’r dramffordd ei defnyddio erbyn 1818 a rhoddwyd y gorau iddi erbyn 1830. (Llun: ML2005_219 / NPRN: 921522)
  • Atgynyrchiadau o’r wagenni arferol a ddefnyddid ar Dramffordd Hill tua 1825, yng Nglanfa Llan-ffwyst.  Er mai’r llwyth o garreg galch sydd ynddynt, caent hefyd eu defnyddio i gludo haearnfeini, cynhyrchion haearn, a glo, ac ar ddiwrnodau arbennig cludent deithwyr!  Câi’r wagenni eu tynnu gan geffylau neu eu gweithio gan ddefnyddio disgyrchiant. (Llun: DS2006_195_002 / NPRN: 85860)
  • Gall y gwaith peirianyddol ar rai tramffyrdd fod yn eithaf trawiadol, yn enwedig os yw’r llwybr yn dilyn siâp naturiol y llethrau.  Agorodd Tramffordd Hill i Efail Garnddyrys tua 1818 a bu’n rhaid iddi fynd drwy adfewniad serth Cwm Ifor, gan groesi’r nant ar geuffos o gerrig ar silff a oedd â gwrthglawdd muriog bob ochr iddi. (Llun: DI2005_1095 / NPRN: 85860)

Rheilffyrdd

Er mai’r tro cyntaf y gwelwyd injan stêm yn tynnu llwyth o gledrau yn llwyddiannus oedd ar Dramffordd Merthyr (Penydarren) ar 21 Chwefror 1804, nid ysgogodd hynny neb i fabwysiadu rheilffyrdd stêm yn gyflym ac yn gyffredinol yng Nghymru nac mewn mannau eraill, ac aeth deg mlynedd ar hugain a rhagor heibio cyn i reilffyrdd ddechrau cydio o ddifrif yng Nghymru. Awydd i wella’r cysylltiadau rhwng Llundain ac Iwerddon a ysgogodd y datblygu a welwyd ar y prif reilffyrdd ar draws y wlad. Yr oedd Rheilffordd Caer a Chaergybi, a adeiladwyd gan Robert Stephenson rhwng 1848 ac 1850, yn cynnwys pontydd tiwb arloesol y peiriannydd hwnnw yng Nghonwy a thros Afon Menai. Yn y De, nid oedd gofyn gwneud cymaint o waith peirianyddol trawiadol ar reilffordd lled-llydan Isambard Kingdom Brunel, Rheilffordd De Cymru, ond yng Nghasllwchwr mae un o’i draphontydd pren wedi goroesi pob un o’i bontydd eraill. Wrth ddod i lawr o Gaerloyw drwy Gaerdydd ac Abertawe, y nod cychwynnol wrth adeiladu’r lein oedd mynd am Abergwaun, ond yn y pen draw fe aeth hi i New Milford (Neyland), lle’r adeiladwyd porthladd pwrpasol ar gyfer y llongau i Iwerddon.

  • Ar 24 Ionawr 1857, fe agorodd Rheilffordd Llanelli ei lein i Landeilo, tref a wasanaethid gan Reilffordd y London & North Western a Rheilffordd y Great Western.  Peth anarferol oedd gweld injans o’r naill gwmni a’r llall yn cyd-dynnu trên tua’r de yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. (Llun: DI2006_0917 / NPRN: 80442)
  • Y bwriad oedd i Reilffordd De Cymru, a gynlluniwyd gan Brunel, fod yn lein gyflym i borthladd Neyland yn Sir Benfro.  Mae’r llun hwn ohoni ar lan Afon Tywi yng Nglanyfferi yn Sir Gaerfyrddin yn dangos sut y byddai Brunel yn creu lein wastad a chyflym er nad oedd y tir yn caniatáu iddi ddilyn llinell syth. (Llun: GTJ22526 / NPRN: 112486)
  • Yn ystod y 1860au, fe hyrwyddwyd achos Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau i adeiladu lein fawr ar draws moelydd y Canolbarth.  Er i ran ohoni gael ei chwblhau rhwng Llanidloes a Llangurig, nid agorwyd mohoni erioed i’r cyhoedd, ac mae’r bont hon heddiw’n tystio i’r dyheadau crand, ond afrealistig weithiau, a goleddid gan fentrwyr Oes Victoria. (Llun: DS2006_088_002 / NPRN: 301488)

Adeiladwyd y lein i Abergwaun tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datblygwyd yr harbwr yno’n borthladd i Iwerddon ac yn borthladd lle gallai teithwyr ddisgyn oddi ar longau a oedd wedi croesi Môr Iwerydd a chyrraedd Llundain ddiwrnod yn gynt. Yng Nghymoedd y De, arweiniodd yr ehangu cyflym ar y pyllau glo at ddatblygu rhwydwaith cymhleth o reilffyrdd, ac yn y mwyafrif o’r cymoedd pwysicaf ceid dwy neu hyd yn oed dair rheilffordd yn rhedeg yn gyfochrog ar hyd-ddynt. Yr un gyntaf oedd rheilffordd Brunel, Rheilffordd Dyffryn Taf, a adeiladwyd ym 1836 ac a gadwodd ei hannibyniaeth tan i’r rheilffyrdd gael eu grwpio ym 1923; adeiladwyd llu o reilffyrdd eraill yn y De a’r Canolbarth gan gwmnïau bach annibynnol fel Rheilffordd Rhymni, Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr a Rheilffyrdd y Cambrian.

Nodwedd arbennig ar ardaloedd mynyddig y Gogledd oedd y rheilffordd gul. Datblygu o dramffyrdd wnaeth llawer ohonynt, a lled y trac oedd rhyw ddwy droedfedd yn hytrach na’r lled safonol o 4 troedfedd ac 8½ modfedd. Ym 1836 dechreuodd Rheilffordd Ffestiniog fel tramffordd lle tynnid y llwythi gan geffylau i gychwyn, a chan ddefnyddio disgyrchiant, ond pan ddechreuwyd defnyddio injans stêm arni ym 1861 fe brofwyd bod modd eu defnyddio ar gledrau a oedd yn gulach na’r lled safonol.


Llongau a Phorthladdoedd

Am fod cymaint o Gymru o fewn cyrraedd i’r môr, mae ganddi draddodiad morwrol cryf. Câi llongau eu hadeiladu ar hyd llawer o aberoedd yr arfordir, yn enwedig ar hyd Bae Ceredigion. Yr oedd Aberteifi, Aberystwyth, Aberdyfi ac Abermaw oll, felly, yn ganolfannau pwysig lle’r arferid y grefft honno. Datblygwyd Doc Penfro o 1815-16 ymlaen yn un o brif ierdydd adeiladu llongau’r Llynges Frenhinol, ac arhosodd felly tan 1926. Ym 1917 fe gymerwyd iard Finch a’i Gwmni, peirianwyr cyffredinol ac adeiladwyr llongau yng Nghas-gwent, i ddwylo’r Llywodraeth a’i throi’n Iard Longau Genedlaethol Rhif 1.

Datblygwyd llawer porthladd a harbwr o’r cyfnodau cynharaf ymlaen, ond oherwydd eu pellter o’r marchnadoedd, pwysigrwydd lleol yn unig oedd iddynt, gan mwyaf, tan ganol y ddeunawfed ganrif. Wrth i’r diwydiannu gynyddu, datblygwyd porthladdoedd arbenigol a ganolbwyntiai ar fewnforion neu allforion penodol. Yn eu plith yr oedd Abertawe a Llanelli (mwynau copr), Aberdaugleddau (morfilod), Aberystwyth (mwynau plwm), Porthmadog, Caernarfon, y Felinheli, Porth Penrhyn a Degannwy (llechi), ac Amlwch (mwynau copr), ond yr enghreifftiau pwysicaf oedd y porthladdoedd glo. Ar hyd glannau Môr Hafren fe ddatblygwyd dociau mawr yng Nghasnewydd, Caerdydd a’r Barri a chafwyd sawl un llai o faint ym Mhenarth, Port Talbot a Phorth Tywyn, yn ogystal â hen borthladdoedd copr Abertawe a Llanelli.

  • Y doc mawr cyntaf yng Nghaerdydd oedd Doc West Bute (1839), sydd bellach wedi’i lenwi ac a arferai fod ar draws canol tu blaen y llun.  I’r chwith, mae Doc East Bute (1855-9).  Yn nes at y môr, ar y dde, mae doc llai-o-faint Basn y Rhath (1874) ac, ar y chwith, Ddoc y Rhath (1887).  Y tu hwnt iddynt, mae Doc y Frenhines Alexandra (1907).  Allforiodd Dociau Caerdydd 11.6 miliwn o dunelli o nwyddau ym 1913, a glo oedd 10.5 miliwn o’r tunelli hynny. (Llun: GTJ28635 / NPRN: 34257)
  • Agorwyd Porth Penrhyn tua 1790 i hwyluso allforio llechi o Chwareli’r Penrhyn.  Cafodd y cei gwreiddiol, ar y chwith, ei estyn ym 1830.  Yna, ym 1855, fe godwyd y morglawdd ar y dde a’r doc rhyngddo a’r cei.  Rhedai tramffordd i’r porthladd o 1798 ymlaen, ac ym 1852 fe adeiladwyd seidin iddo o Reilffordd Caer a Chaergybi.  Trowyd y dramffordd yn rheilffordd gul ym 1879. (Llun: GTJ26399 / NPRN: 96229)
  • Cadarnhawyd safle Caergybi yn brif borthladd i longau o Iwerddon pan awdurdodwyd adeiladu ei harbwr ym 1847 a phan sefydlwyd Rheilffordd Caer a Chaergybi drwy ddeddf gwlad y flwyddyn ganlynol.  Mae’r Harbwr Mewnol, sydd â’r orsaf reilffordd yn un pen iddo, yn dyddio o’r gwelliannau a wnaed ym 1880. (Llun: GTJ00135 / NPRN: 41260)

Gan fod rhaid croesi Cymru i gyrraedd Iwerddon, yr oedd Caergybi, erbyn canol y ddeunawfed ganrif, wedi datblygu’n brif borthladd ar gyfer y llongau a hwyliai yn ôl ac ymlaen i Iwerddon. Cadarnhawyd ei safle blaenllaw pan awdurdodwyd codi harbwr newydd yno ym 1847, ac yna, ymhen ychydig flynyddoedd, pan agorwyd Rheilffordd Caer a Chaergybi. Methiant llwyr fu’r ymdrechion i hyrwyddo achos Portin-llaen ar Benrhyn Llŷn i gystadlu â Chaergybi. Yn y de, y bwriad gwreiddiol oedd datblygu Abergwaun yn borthladd i Iwerddon, ond yn y pen draw fe ddewisodd Cwmni Rheilffordd De Cymru ddatblygu Neyland ar aber dwy afon Cleddau. Bu’n rhaid aros tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif i bentref pysgota Abergwaun dyfu i fod yn borthladd o bwys i Iwerddon ac, am gyfnod byr, i longau a oedd wedi hwylio ar draws Môr Iwerydd.