Treftadaeth Cymru

Masnach

Ledled y Gymru ôl-ganoloesol a’r Gymru fodern ceir tystiolaeth o fasnachu – o siop y pentref neu’r parc manwerthu i’r porthladdoedd a’r harbwrs sy’n allforio cynhyrchion o Gymru, fel glo, haearn a dur, i bob rhan o’r byd. O edrych ymhellach yn ôl drwy’r oesoedd, fe welwn ni drefi a marchnadoedd cynlluniedig cyfnod y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol neu, yn bwysicach efallai, y defnydd cyntaf o arian bath. Yn yr erthygl hon fe astudir tarddiad a datblygiad masnach yn y cyfnod cynhanesyddol, ac mae manylion llawer math o safle a heneb sy’n ymwneud â thema masnachu i’w gweld ar Coflein ac yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

  • Hen Siop, Clych-y-garn, Môn: ffitiadau sydd wedi goroesi ers Oes Victoria o siop y pentref wedi iddi gau yn ystod y 1960au. (Delwedd: DI2007_0357 / NPRN: 308489)
  • Arcêd Stepney Street, Llanelli, Sir Gaerfyrddin: codwyd yr arcêd ddeulawr hon a’i tho gwydr ym 1894.  Yn wreiddiol, yr oedd deuddeg siop ar lefel y llawr a phedair set ar ddeg o swyddfeydd ar y llawr uwchben. (Delwedd: DI2006_0330 / NPRN: 23340)
  • Harbwr Saundersfoot, Sir Benfro: agorwyd yr harbwr tua 1830 a byddai Rheilffordd Saundersfoot yn ei gysylltu â sawl pwll glo ac â Gweithfeydd Haearn Stepaside. (Delwedd: GTJ26394 / NPRN 34611)

Y Fasnach Neolithig mewn Bwyeill

Yn sgil dyfodiad amaethu a ffordd fwy sefydlog o fyw yn ystod y cyfnod Neolithig (4500-2500 CC) y gwelir y dystiolaeth go-iawn gyntaf o fasnachu yn y cofnod archaeolegol. Yr enghraifft bennaf yw’r fasnach mewn bwyeill. Gan fod y fwyell yn arf hynod bwysig wrth i’r ffermwyr cynnar glirio coedwigoedd a dechrau diwyllio’r tir, mae pen llathredig y fwyell garreg yn un o’r arteffactau sy’n diffinio’r cyfnod. Drwy ddadansoddi’r garreg yn betrolegol, mae modd weithiau ddod o hyd i’w tharddle a hyd yn oed i’r chwareli lle câi’r offer eu gwneud. Drwy wneud hynny, mae modd mapio’u dosbarthiad.

Un o’r ffatrïoedd bwyeill mwyaf sy’n hysbys yng Nghymru yw Graig Lwyd ger Penmaen-mawr. Yma, manteisiwyd ar y brigiadau o graig igneaidd raenus, a châi’r bwyeill a grëwyd ohoni, yn ogystal â chael eu dosbarthu’n helaeth yn y farchnad leol, eu dosbarthu cyn belled â’r Peak District, Sir Efrog a Chanolbarth Lloegr.

  • Ffatri Fwyeill Graig Lwyd, Penmaen-mawr, Conwy: yn y cyfnod Neolithig yr oedd galw mawr am graig igneaidd galed a graenus y bryniau uchel uwchlaw tref fodern Penmaen-mawr er mwyn cynhyrchu bwyeill cerrig o’r graig honno (Delwedd: AP2005_2822 / NPRN: 407068)
  • Bwyeill Graig Lwyd, Penmaen-mawr, Conwy: yma, dewiswyd blociau o ddefnydd crai o’r sgri a’r creigiau naturiol.  Y cam cyntaf oedd eu hollti i greu ffurf hylaw cyn eu bras-lunio i’r siâp a’r maint cywir.  Mae’n debyg i’r bras-ffurfiau hynny gael eu symud o’r safle i’w llifanu a’u llathru’n derfynol mewn mannau eraill. (Delwedd: DI2007_1931 / NPRN: 407068)
  • Carn Meini, Mynydd y Preseli, Sir Benfro: oherwydd eu lliw pan fyddent yn wlyb neu newydd gael eu torri, ‘cerrig glas’ yw’r enw ar y brigiadau drylliedig o ryolitau a doleritau â’u smotiau gwyn nodweddiadol, ac mae pobl wedi’u defnyddio ers y cyfnod Neolithig. (Delwedd: DI2006_070_001 / NPRN: 401098)

Ceir safle ffatri fwyeill arall o bwys ar Fynydd y Rhiw ar ben gorllewinol Llŷn. Pan fu’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n gwneud gwaith cloddio ar gyfres o bantiau yno am y tro cyntaf ym 1958, cafwyd hyd i gyfres o byllau chwarel a ddilynai’r haen o graig. Cawsai’r pantiau eu creu drwy ôl-lenwi’r pyllau, a chawsai cyfres o aelwydydd agored eu gosod ynddynt. Awgrymai hynny iddynt gynnig cysgod dros dro i’r gweithwyr yn ddiweddarach. Mae prosiect ymchwil newydd wedi cychwyn ar y mynydd o dan arweiniad Amgueddfa Cymru a gwneir y gwaith arolygu gan y Comisiwn Brenhinol.