Taith yw hon sy’n cyflwyno tai tref hanesyddol Dinbych. Datblygwyd ac ehangwyd y dref yn dilyn gosod y castell dan warchae a dinistrio’r hen dref gan Iarll Penfro ar ddiwedd Rhyfel y Rhosynnau. Er i’r castell ildio i’r Senedd ar ddiwedd y Rhyfel Cartref, mae llawer o’r strydoedd sydd i’w gweld ar fap John Speed o Ddinbych, a gyhoeddwyd ym 1610, yn dal yno ac yn ystod canol yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg y codwyd yr adeiladau hynaf sydd wedi goroesi yn y dref.
Bydd y daith yn eich tywys i rai o’r tai tref mwyaf diddorol, ac i’w nodweddion pensaernïol. Ar y map modern fe welwch chi leoliad yr adeiladau sy’n cael eu trafod ac mae’r delweddau ffotograffig a’r lluniadau yn darlunio’r prif adeiladau a nodweddion a gaiff sylw. Defnyddiwch y cyswllt ar waelod y tudalen i weld y daith ar-lein neu i lwytho’r ffeil i lawr, ei hargraffu a mynd â hi gyda chi ar eich taith gerdded o amgylch tai tref hanesyddol Dinbych.