Treftadaeth Cymru

Uwchdiroedd Cymru

Gwlad o uwchdiroedd yw Cymru, a bryniau, mynyddoedd a rhostiroedd yw llawer iawn ohoni. Mae rhyw 40 y cant o’r holl dir yn fwy na 250 o fetrau uwchlaw lefel y môr, ond mae hynny’n codi i bron 70 y cant yn y gogledd-orllewin.

  • Golwg ar draws Eryri yn yr hydref gan ddangos Llyn Cowlyd yn y tu blaen. Llun: DI2005_2789. NPRN:404893)
  • Craig cerrig-gleisiad ger Storey Arms ym Mannau Brycheiniog: mae sylfeini adeilad petryal rhanedig, sydd wedi’i osod mewn lloc, islaw’r clogwyni ar ymyl ogleddol y Fforest Fawr. Mae’r cwm yn gyforiog o olion archaeolegol gan i furiau’r cwm rhewlifol amddiffyn anheddiad cynnar am gyfnod maith. (Llun:DI2006_0762. NPRN:84791)
  • Carnedd gopa fawr, un o bâr, ar uwchdir Pumlumon. O edrych tua’r de-ddwyrain, gellir gweld ei chymydog yn y cefndir ar y dde.(Llun:PU2005_185. NPRN: 285742)

Mae cymeriad yr uwchdiroedd yn amrywio ac yn wahanol o ranbarth i ranbarth: er enghraifft, y bysedd hir o dir uchel sy’n gwahanu cymoedd poblog y de; llethrau serth Bannau Brycheiniog; rhostir tonnog Uwchdiroedd Cymru; a chopaon creigiog Eryri.

Math o Uwchdiroedd

  • Ynys Gifftan Farmhouse in the Snowdonian landscape. (Llun: CD2003_603_043. NPRN: 28891)
  • Ardal y Pentre a Threorci yn y Rhondda, a thir uchel llethrau’r cwm bob ochr iddi.(Llun: CD2005_629_005. NPRN86955)
  • Rhostir Pumlumon, Ceredigion, gan edrych tua’r de dros ganol Ceredigion a gorllewin Sir Drefaldwyn. Yng nghanol y llun mae carneddi Pen Pumlumon Arwystli o’r Oes Efydd. (Llun: DI2006_0757. NPRN:304829)

Er mor wahanol ydynt yn lleol, mae ganddynt oll rai pethau’n gyffredin. Mae llawer o’r uwchdiroedd yn dir amaeth sydd wedi’i amgáu, ond yr hyn sy’n fwy nodedig yw’r darnau mawr o dir pori garw, rhostiroedd agored a gorgors sydd y tu hwnt i’r tir ffermio ac weithiau o’i gwmpas.

Terfynau Ffermio

  • Llun o Gadair Idris, Gwynedd, sy’n dangos y newid o’r tir pori a amgaewyd ar yr uwchdir yn y tu blaen i’r mynydd a’r rhostir, sydd heb ei amgáu, y tu hwnt iddo. (llun:CD2005_631_022.)
  • Ffermydd Tan-y-braich a Pharc-newydd, Rhosgadfan, ar uwchdir Sir Gaernarfon; mae’r gwelliannau lleol yn cyferbynnu â’r rhostir o rug a thir pori garw o’u hamgylch. (Llun:CD2005_632_002 NPRN: 402689)
  • Diwyllio creiriol yn uchel ym Mynyddoedd y Preseli. Mae cribau aredig i’w gweld yn amlwg yn y lloc isaf ar y dde yn y gyfundrefn caeau. (Llun:DI2006_0578 NPRN:307151)

Heddiw, mae’r uwchdiroedd ar derfynau eithaf y tir ffermio ac anheddu. Er eu bod heddiw’n ymylol yn economaidd ac yn brin eu poblogaeth, gwyddom nad felly y bu hi erioed. Mae pobl wedi byw, wedi gweithio ac wedi ffermio yn y bryniau a’r mynyddoedd hyn am o leiaf y 9000 o flynyddoedd diwethaf ac wedi gadael olion eu gweithgareddau ar eu hôl. Oherwydd y diffyg amaethu dwys arnynt dros y canrifoedd diwethaf, mae’r uwchdiroedd yn gartref i gyfres ryfeddol o safleoedd a thirweddau archaeolegol sy’n dyddio o’r cyfnodau cynharaf un hyd at y gorffennol diweddar iawn. Gan nad yw’r rhain, yn aml – ac yn wahanol i safleoedd tebyg ar y tiroedd isel – erioed wedi’u haredig nac wedi gweld unrhyw aflonyddu arnynt, mae’r tirweddau ffosiledig yn gyforiog o olion o bob cyfnod. Ar ben hynny, ceir dyddodion eang o fawn ac ynddynt ddata botanegol gwerthfawr sy’n adrodd hanes effaith y ddynolryw ar yr amgylchedd.
Gan fod yr uwchdiroedd yn ymddangos fel petaent yn anghysbell o’u cymharu â’r tiroedd isel mwy poblog, yr argraff a geir yw eu bod yn dir gwyllt sydd ar wahân i’r dirwedd ehangach. Ond mewn gwirionedd yr oedd cysylltiadau ffisegol ac economaidd rhyngddynt bob amser, ac mae natur y cysylltiadau hynny a’r ffordd y gwnaethant newid ymhen amser o ddiddordeb i ni.

Safleoedd Creiriol yn yr Uwchdiroedd

  • Dau wersyll cyrch Rhufeinig wedi’u gosod y naill ar ben y llall ar frig cefnen y Pigwn ar y ffin rhwng Ystrad Tywi a Brycheiniog, i’r dwyrain o Lanymddyfri. Maent ill dau’n is-betryal eu siâp ac yn y naill a’r llall mae tair o’r pedair mynedfa wedi goroesi. Fe aflonyddodd y chwarela creiriol am lechfeini lawer ar ran dde-ddwyreiniol y safle.
 (Llun:DI2006_0230 NPRN:92004)
  • Coed Swydd Pillow Mounds, Penybont. (Llun DI2006_1437. NPRN:24588)
  • Hen Ddinbych. Credir bod y lloc hwn, sy’n is-betryal ac yn grwn ei onglau, yn sefydliad canoloesol a berthynai i Briordy Dinbych. Mae’n fwy na thebyg iddo fod yn gysylltiedig â rheoli diadelloedd o ddefaid. (Llun: DI2006_0756. NPRN:303472)

Sefydlwyd prosiect Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd i hybu dealltwriaeth ddyfnach ac ehangach o’r uwchdiroedd a’u rôl yn hanes Cymru, a hynny drwy gynnal rhaglenni o arolygu, ymchwilio a chyhoeddi. Am ganrif a rhagor, mae archaeolegwyr a hynafiaethwyr wedi bod yn crwydro’r bryniau gan ddod o hyd i’r olion cynhanesyddol a Rhufeinig mwyaf amlwg a oedd o ddiddordeb iddynt, fel twmpathau claddu a chaerau. Dim ond ers dechrau’r prosiect hwn yn gynnar yn y 1990au y mae archaeolegwyr wedi’u hariannu gan y Comisiwn Brenhinol i gerdded yn systematig ar draws tirweddau’r uwchdiroedd yn gyfochrog â’i gilydd a 30-50 metr rhyngddynt. Mae methodoleg integredig chwilio ar y tir ei hun a mapio ar sail awyrluniau Prosiectau Cenedlaethol wedi esgor ar gynnydd enfawr (wyth i un waith ar ddeg) yn nifer y safleoedd archaeolegol cofrestredig yn yr ardaloedd yr ymchwiliwyd iddynt. Mae hynny yn ei dro wedi chwyldroi’r canfyddiadau o’r math o olion, ac o ddwysedd yr olion sydd yno, ac yn pwysleisio pa mor gymhleth yw hanes gweithgarwch dynol ar dir uchel.

Hinsawdd

Er bod cysylltiadau ffisegol ac economaidd agos wedi bod erioed rhwng y tiroedd uchel ac isel, mae’r cyferbyniad o ran defnyddio’r tir arnynt yn drawiadol. Mae’r rhesymau dros hynny’n gymhleth am eu bod yn cynnwys y prosesau naturiol a greodd ac a gyflyrodd y tirffurfiau yn y lle cyntaf a hanes gweithgarwch pobl arnynt ym mhob ardal unigol. Elfen allweddol yn y stori yw’r hinsawdd ac, yn bwysicach efallai, y newidiadau yn yr hinsawdd.

  • Llun ar draws Pumlumon sy’n dangos gwrthdroad tymheredd wrth i aer oerach suddo i’r tir is. (Llun:DI2005_1157. NPRN:268169)
  • Llun trawiadol o Fannau Sir Gâr ar y Mynydd Du gan edrych tua’r gorllewin dros eira’r gaeaf draw i Lyn y Fan Fach. Mae i’r llyn gysylltiadau cyfriniol â Meddygon Myddfai.. (Llun:2007_0199. NPRN:84456)
  •  Llyn Trawsfynydd (Llun:CD2003_603_007. NPRN:268073)

Mae’r darlun cyfarwydd o niwl yn gorchuddio’r tir uchel uwchlaw tiroedd isel cliriach yn cyfleu nid yn unig sut mae’r tywydd yn newid o le i le ond hefyd y gwahaniaeth yn yr hinsawdd oherwydd lleoliad Prydain. Mewn hinsawdd gefnforol, bydd gwahanol elfennau’r tywydd yn newid yn gyflym iawn yn ôl uchder y tir. Bydd y mwyafrif ohonynt, fel glawiad a chyflymder y gwynt, yn cynyddu, ond gostwng wnaiff y tymheredd wrth godi’n uwch drwy’r aer. Mae’r ‘gyfradd newid’ honno’n arbennig o serth yng Nghymru am ei bod hi rhwng 6 a 10 gradd Celsiws am bob cilometr y codir.Mae i’r ffenomen hon sawl canlyniad. Efallai mai’r pwysicaf ohonynt yw bod y tymor tyfu yn fyrrach ar dir uchel. Go brin bod hynny’n sbarduno llawer o bobl i ymgartrefu’n barhaol ar dir uchel, hyd yn oed os yw’r ffactorau eraill yn fanteisiol. Ond fe gafwyd adegau penodol, yn ystod yr Oesoedd Canol er enghraifft, pan oedd y gwelliant yn yr hinsawdd yn bleidiol i anheddu ar dir uchel. Mae hinsoddau tebyg i’r rhai a geir ar y Cyfandir yn fwy sefydlog ac mae’r amodau ar dir uchel, yn ystod yr haf o leiaf, yn fwy cydnaws. Bydd gwrthdroadau yn y tymheredd yn digwydd pan fydd aer oer yn suddo i dir is, gan adael y tir uchel yn gynhesach. Erbyn heddiw, digwyddiad prin yw hynny, ond fe’i ceir yn amlach mewn hinsoddau cyfandirol. Er i’r tymor tyfu yn y cyfnodau hynny ddal i fod yn fyr, yr oedd yn ddigon dwys i dyfu cnydau’n llwyddiannus ynddo ac fe ddenodd hynny bobl i ymgartrefu ar y tir uchel. Yn sgil digwyddiadau o’r fath fe gafwyd, yn aml, newidiadau yn y defnydd a wneid o’r tir, a hyd yn oed gilio tua’r tiroedd isel pan ddirywiodd yr hinsawdd unwaith eto a phan welwyd effeithiau cymharol y topograffi yn ailymddangos.

Amgylchedd Brau

Canlyniad pwysig i’r gwahaniaeth yn yr hinsawdd wrth i’r tir godi yw bod yr uwchdiroedd yn fwy amgylcheddol sensitif na’r tiroedd isel. Caiff y prosesau erydu arferol eu dwysáu gan dymereddau is a glawiad uwch. Gan fod y rhostiroedd, felly, yn naturiol ansefydlog, mae hynny’n dylanwadu ar gymeriad y dirwedd.Gall hyd yn oed gyfnodau byr o ymyrraeth pobl darfu ar y cydbwyseddau cynnil ac esgor ar ganlyniadau sy’n para’n hir.

  • Erydu’r tir uchel yn nhirwedd carreg galch rhan uchaf Cwm Tawe, gan ddangos rhyngweithiad cymhleth adeiladweithiau o waith dyn a nodweddion naturiol. (Llun: CD2003_606_039. NPRN: 84345)
  • Cwt hir yn Nyffryn Mymbyr. Yma, mae adeilad petryal yn Nyffryn Mymbyr ger Capel Curig yn Eryri yn suddo i bant y nant gerllaw. Wrth i’r erydu ddwysáu a lledu’r pant, caiff yr adeiladwaith ei danseilio.(Llun:DM2004_110. NPRN:284536)
  • Carn Menyn, Preseli, un o gyfres o frigiadau naturiol (o ddolerit brith neu’r ‘garreg las’) sy’n chwalu’n naturiol yn golofnau, yn flociau ac yn sgrïau. Gan fod y tymheredd yn is a bod mwy o law ar uwchdiroedd, caiff creigiau o’r fath eu treulio am fod y rhewi a’r dadlaith yn digwydd yn amlach. Mae’r chwarela a fu yno wedi cyfrannu at y malurion sydd ar y llethr.(image: DS2006_070_002. NPRN:401098)

Gan mai un o nodweddion carreg galch yw bod dŵr yn gallu treiddio drwyddi, mae’n dangos ansefydlogrwydd yr uwchdiroedd yn glir. Enghraifft dda o hynny yw’r ardal o garreg galch uwchlaw Aber-craf yn rhan uchaf Cwm Tawe. Y nodweddion mwyaf gweladwy yw pantiau hydoddi, neu ‘llyncdyllau’ sydd wedi’u ffurfio’n naturiol. Ceir yr un effaith mewn carreg galch ar dir is, ond nid i’r un graddau. O gwmpas y tyllau hyn ceir amryw byd o nodweddion archaeolegol, ac fe allant fod wedi tanseilio llawer o’r nodweddion hynny. Mae waliau caeau wedi syrthio i rai ohonynt ac mae sarnau tramffyrdd a wasanaethai weithfeydd diwydiannol wedi suddo i rai eraill. Ar ymyl un ohonynt mae rhes o gerrig cynhanesyddol. Mewn rhai achosion, mae llyncdyllau wedi’u defnyddio i ddynodi ffin, ac ar waelod un ohonynt ceir gweddillion adeilad cylchog cynnar. Dyna enghraifft eithafol sy’n dangos pa mor gymhleth y gall tirweddau fod pan ddaw grymoedd naturiol a gweithgarwch dyn ynghyd. Gan fod ffrwyth y rhyngweithio hwnnw’n amrywio ar draws y dirwedd, mae’n cyfrannu i’r amrywiaeth a welwn ni o’n cwmpas.

Ar ôl Oes yr Iâ

  • Yn fuan ar ôl diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, câi man fel hon, sef llyn ar yr uwchdir ar lethr ogleddol y Fforest Fawr, ei defnyddio’n aml yn gyrchfan tymhorol gan grwp Mesolithig.
  • Waun Fignen Felen ym Mannau Brycheiniog: mae gwaith maes ar nodweddion erydu yn y mawn, ynghyd â samplu helaeth ar yr amgylchedd, wedi esgor ar dystiolaeth o weithgarwch Mesolithig. Llun:DI2006_0769. NPRN:401580)

Mae pobl wedi bod yn ymweld â’r uwchdiroedd ers camau cynnar y cynhesu yn yr hinsawdd ar ddiwedd Oes yr Iâ. Byddai’r grwpiau Mesolithig yn dilyn gyrroedd o lysysyddion mawr wrth i’r rheiny ymfudo i’r tir uchel am fod llai o goed yno. Cafwyd hyd i olion yr helwyr-gasglwyr hynny ar dir uchel ledled Cymru. Arferai Waun-fignen-felen fod yn fasn llyn. Erbyn hyn mawnog sydd yno, bedwar cilometr i’r de o Lyn y Fan Fach, ger Craig y Nos. Cafwyd hyd i arteffactau o deip Mesolithig o gwmpas ymylon y basn, man yr ymwelwyd â hi gyntaf dros 9000 o flynyddoedd yn ôl. Ni chafwyd hyd i olion adeiladwaith yno, ond mae tystiolaeth y paill o’r mawn yn dangos bod pobl wedi ymyrryd â’r llystyfiant lleol. Efallai i dân gael ei ddefnyddio i greu lle pori mwy deiliog a fyddai’n cynnal rhagor o anifeiliaid hela. Byddai basn y llyn wedi denu adar dŵr ac adar mudol, a byddai ef hefyd wedi bod yn ffynhonnell o bysgod cyn iddo ddechrau sychu. Cafwyd hyd i gnau cyll yn y dyddodion cysylltiedig, ac mae’r ffaith eu bod wedi’u casglu ynghyd yn arwydd arall o werth y safle. Mae’r math hwn o dystiolaeth yn cyd-fynd â phatrwm o ddefnydd tymhorol lle’r oedd gweithgarwch yr haf ar yr uwchdiroedd yn rhan o gylch blynyddol a gynhwysai ddefnyddio arfordiroedd ac aberoedd ac, efallai, safleoedd ar dir isel rhwng y môr a’r mynydd ar adegau eraill. Mae defnyddio tymhorol ac achlysurol ar dir uchel yn thema sy’n codi droeon yn hanes y defnyddio sydd wedi bod ar uwchdiroedd Cymru.

Anheddu yn y Cyfnod Cynhanesyddol Diweddarach

O ddadansoddi’r paill mewn creiddiau mawn, ac ategu hynny â’u dyddio drwy radiocarbon, gwelwyd bod ymyrraeth ddynol wedi parhau ar uwchdiroedd Cymru yn ystod y cyfnod Neolithig. Ond nid tan y cyfnod Neolithig diweddar a dechrau’r Oes Efydd, sef rhyw 4,500 o flynyddoedd yn ôl, y gwelir patrymau dwysach o ddefnyddio’r tir. Mae gorwelion clirio ac episodau amaethyddol a amrywiai o ran eu dwysedd yn dangos i amaethu ac anheddu ymledu i dir na chawsai ei ddefnyddio ynghynt.

  • Cylch cytiau, sydd wedi’i ddiogelu’n dda, yn Nyffryn Mymbyr, ger Capel Curig yn Eryri. (Llun:DM2004_342. NPRN:284629)
  • Mae waliau creiriol y caeau, sy’n gysylltiedig ag adeiladweithiau/llociau cylchog, yn ymestyn ar draws darn o dir rhyw 660m dwyrain-gorllewin wrth 300m ar lethrau gogleddol y mynydd. Braidd yn afreolaidd yw patrwm y waliau sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin gan mwyaf. (Llun: DI2006_0560. NPRN:308761)
  • Mae twmpathau llosg fel hwn yn ymyl Llyn Bwlch y Moch yn Eryri yn nodweddion helaeth, ond enigmatig, ar yr anheddu cynhanesyddol ar yr uwchdiroedd ac ar lawr gwlad. Fel rheol, fe’u ceir yn ymyl nentydd, a’r hyn sydd ynddynt yw’r malurion a geid ar ôl berwi d?r mewn cafn drwy roi cerrig poeth ynddo. Câi’r malurion eu rhoi i’r naill ochr i ffurfio twmpath ar ffurf pedol o amgylch ffynhonnell y tân. Er mai’r gred yw i’r mwyafrif ohonynt fod yn fannau coginio, mae esboniadau eraill wedi’u cynnig hefyd. (Llun: NBN2005_173.NPRN:287144)

Efallai i hynny fod yn ymateb i’r cynnydd yn y boblogaeth ar adeg pan oedd y gwelliant yn yr hinsawdd yn golygu bod yr uwchdiroedd yn dirionach lle i’w anheddu’n barhaol.

Sylfeini tai crwn, a elwir yn ‘gylchoedd cytiau’ yw’r prif arwydd o’r anheddu cynnar hwnnw. Ceir amryw byd ohonynt yn Eryri, ond deuir o hyd iddynt hefyd mewn rhannau eraill o Gymru wrth i’r gwaith arolygu fynd yn ei flaen ledled y wlad. Yn gysylltiedig â’r adeiladau hynny fe geir, yn aml, dystiolaeth ffisegol o amaethu, sef hen waliau caeau sydd bellach yn wasgariadau llinol o rwbel cerrig, a phentyrrau cerrig neu ‘garneddau carega’ sy’n afreolaidd eu maint a’u siâp. Yn aml, bydd nifer fawr ohonynt yn ganlyniad i dynnu’r cerrig o’r tir cyn ei ddiwyllio. Mae olion fel y rhain i’w cael yn eang ar uwchdiroedd Cymru ac er mai prin yw’r dyddiadau annibynnol sydd ar gael ar eu cyfer, credir eu bod yn perthyn, yn rhannol o leiaf, i gyfnod cynnar yn yr Oes Efydd.

Mannau Cysegredig

Mae safleoedd defodol a safleoedd claddu o’r Oes Efydd ymysg y cofadeiliau mwyaf cyfarwydd ar yr uwchdiroedd. Ledled Cymru ceir crugiau, carneddau a chasgliadau o feini o wahanol fathau ond ar y tiroedd uchel, yn aml, y cawsant eu diogelu orau. Mae eu hymddangosiad yn y dirwedd yn cyd-fynd â dechrau’r gweithgarwch dwysach i ddefnyddio’r tir, fel y mae’r cofnod o baill ar yr uwchdiroedd yn dangos. Mae’r chwilio helaeth dros y blynyddoedd diwethaf wedi esgor ar rai darganfyddiadau diddorol. Cafwyd hyd i sawl cylch o feini. Gan mor brin yw’r rheiny yng Nghymru, mae darganfod rhai newydd yn arbennig o bwysig.

  • Saith Maen. Rhes o feini ar dir uchel uwchlaw rhan uchaf Cwm Tawe. (Llun:CD2003_607_003. NPRN:84328)
  • Cwm llydan eang a bas i’r gogledd o Benderyn yw Cwm Cadlan ac yno ceir cymysgedd o safleoedd sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Mae carneddau cylchog yn eu plith ac er eu bod, yn fras, yn gyfoes â charneddau crwn o’r Oes Efydd, y gred yw bod iddynt ddibenion heblaw bod yn fannau claddu’r meirw. Diamedr hwn yw rhyw 25m, ac mae’r clawdd terfyn allanol yn codi i 0.7m. Efallai mai gweddillion cistfaen yw’r clogfaen gorweddog bach yn ymyl y canol. (Llun: DI2006_0770. NPRN: 84666)
  • Crug crwn Blaen y Cwm. Mae’r crug hwn wedi goroesi’n dda ar Fynydd Hiraethog. Fe’i codwyd o bridd a cherrig ac mae ei ddiamedr yn 34m. Mae’n 4.5m o uchder.(Llun:MH2005_129. NPRN:303513)

 Yn aml, bydd nifer fawr o gofadeiliau claddu a chofadeiliau defodol i’w gweld mewn mannau pendant heb fod unrhyw dystiolaeth bod pobl wedi byw yn y cyffiniau. Y broblem, felly, yw gwybod ble’r oedd eu hadeiladwyr yn byw. Mae chwilio cynhwysfawr yn fodd i ni wneud rhywfaint o synnwyr o hyn. Rhostir grug, gan mwyaf, yw Mynydd Rhiwabon ger Wrecsam. Ar ei lethr gorllewinol ceir creigiau o garreg galch a’r mwyafrif o’r carneddau cynhanesyddol. Efallai iddynt gael eu gosod yno fel bod modd eu gweld o’r tir isel. Ar uwchdir mewnol y mynydd ceir llawer llai o garneddau ac ni chafwyd hyd i unrhyw dystiolaeth o amaethu neu anheddu. Efallai, er hynny, ei bod hi felly am fod safleoedd cynnar o’r golwg o dan y trwch o fawn sydd wedi gorchuddio’r mynydd. Ar Fynydd Hiraethog hefyd, ceir ar y mwyaf o gofadeiliau angladdol a defodol, fel carneddau mawr, rhesi o feini a charneddau cylchog. Yn aml, mae’r rheiny wedi goroesi ar dir sydd wedi’i wella ar gyrion rhostir, ond yno eto ni chafwyd hyd i ôl unrhyw amaethu ac anheddu cynnar. O gwmpas y ddau fynydd mae tiroedd isel helaeth yr oedd modd eu hamaethu’n llwyddiannus, ac efallai iddynt fod yn ddigon helaeth i’r anheddwyr cynnar beidio â theimlo bod angen ymledu ac anheddu’r uwchdiroedd gerllaw. Gellid, felly, ddefnyddio’r mynyddoedd mewn ffyrdd eraill. Mae mannau tebyg mewn rhannau eraill o Brydain a neilltuwyd yn y cyfnod cynhanesyddol at ddibenion claddu a dibenion seremonïol wedi’u galw’n ‘fynyddoedd cysegredig’.

Ymylon Rhostiroedd

Ar ymylon y rhostiroedd y ceir rhai o olion mwyaf manwl a chymhleth gweithgarwch dynol ar yr uwchdiroedd. Nid yw’r ffin rhwng y rhostir a’r tir sydd wedi’i wella bob amser wedi bod yn gwbl sefydlog; mewn rhai mannau, mae’r ffin wedi lledu a llithro’n ôl fwy nag unwaith ar hyd y canrifoedd. Mae’r llociau ar yr ymylon hyn yn dir lle mae’r elw a geir ohono’n brin ar y gorau. Yn sgil mân newidiadau economaidd neu strwythurol, cânt eu defnyddio neu fe beidir â’u defnyddio wrth i’r amodau newid. O safbwynt economaidd, parth ‘ymylol’ sydd yma. Bydd rhai lleoliadau sydd â hanes hir o ddefnyddio ysbeidiol arnynt yn dangos olion haenedig eu meddiannu o dro i dro, fel yn Is-Mynydd yn Nyffryn Ardudwy, i’r de o Harlech. Er bod y tir yn cael ei ffermio ar hyn o bryd, mae’r ffaith iddo gael ei ddefnyddio’n dir pori wedi sicrhau bod tystiolaeth o gyfnodau blaenorol o weithgarwch wedi goroesi.

  • Is-Mynydd The upland fringe landscape of Is-mynydd, north of Barmouth (Llun:CD2003_606_043. NPRN:60924)
  • Ffridd Bod-y-fuddai. Cymhlyg o nodweddion archaeolegol y naill ochr a’r llall i wal y ffridd, sef terfyn allanol y tir pori a amgaewyd, i’r de-ddwyrain o Drawsfynydd. Yr elfen amlycaf yw anheddiad bach amgaeedig o’r math sy’n nodweddu’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Rhufeinig. Saif yr anheddiad ar dir sy’n syrthio tua’r gogledd-ddwyrain, a rhed wal y ffridd drwyddo. I’r gogledd-ddwyrain, mae tir ac arno rynnau amaethu.(Image:CD2003_613_009. NPRN:303057)

Ehangu yn yr Oesoedd Canol

Ceir tystiolaeth helaeth o weithgarwch dwys yn yr uwchdiroedd yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae olion y diwyllio yn awgrymu bod yno anheddu parhaus. Credir bod y darganfyddion hynny’n adlewyrchu cyfnod o ail-ehangu i dir mwy ymylol pan oedd yr hinsawdd ar ei gorau, sef yn y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg. Y prif arwydd o’r gweithgarwch hwnnw yw’r hyn a elwir yn ‘anheddiad llwyfan’. Darn gwastad o dir sydd wedi’i dorri i dir sy’n codi yw’r llwyfan hir, sef y math cydnabyddedig o safle ar gyfer aneddiadau’r uwchdir yn yr Oesoedd Canol, ac mae’n ymwthio allan o’r llethr. Yn wreiddiol, codid adeiladau petryal ar y llwyfannau, ac weithiau mae sylfeini isel y rheiny i’w gweld. Cewch y safleoedd hyn ar wasgar ar hyd a lled yr uwchdiroedd. Er y ceir cryn nifer ohonynt yn aml, nid oes ôl diwyllio’r tir yn eu hymyl bob tro.

  • 
Mae’r llain-gaeau canoloesol islaw Cefn Penagored, ger Llandrillo, yn ymddangos fel cloddiau llinol o rwbel a gwair drostynt. Defnyddir rhai ohonynt yn sail i derfynau caeau mwy modern. (Llun:DI2006_0740. NPRN:54426)
  • Nant Sebon. (Llun:DT2004_079. NPRN:275336)

Ar fynyddoedd y Berwyn uwchlaw Llandrillo ceir grŵp o lwyfannau yn ymyl llain-gaeau, sef llociau hir a chul a arferai fod yn israniadau o rai mwy eu maint. Ynddynt, ceir tystiolaeth uniongyrchol o hwsmonaeth âr ar ffurf grynnau a linsiedi – grynnau neu ysgafelloedd helaeth a gawsai eu ffurfio drwy aredig ar lethr. Mewn mannau eraill, ceir carneddau carega yn ymyl y llwyfannau.

Er y cafwyd hyd i olion fel y rhain ledled Cymru mewn mannau pwrpasol, yr oedd ffactorau heblaw rhai economaidd yn dylanwadu’n anwastad ar ddosbarthiad y defnydd o dir yr uwchdiroedd yn y cyfnod hwn. Sefydlodd yr arglwyddi Eingl-Normanaidd warchodfeydd hela mawr, a’r rheiny’n aml ar yr uwchdiroedd, ac yr oedd rheoli caeth ar bob gweithgarwch yno. O’r ddeuddegfed ganrif ymlaen, rhoddwyd darnau helaeth o rostir anghysbell i’r sefydliadau Sistersaidd, yn bennaf – ond nid yn unig – ar gyfer magu anifeiliaid, tra ceid amaethu tir âr ar faenorau’r tiroedd isel.

Trawstrefa (hafod a hendref)

Mae sylfeini cerrig adeiladau llinol, y cyfeirir atynt fel rheol fel cytiau hir, i’w cael ar hyd a lled yr uwchdiroedd. Drwy chwilio’r tir, cafwyd hyd i nifer fawr ohonynt ac yn aml ceir grwpiau lleol cryf ac adeiladweithiau atodol iddynt. Yr adeiladau hyn yw un o’r mathau o gofadeiliau y deuir ar eu traws amlaf. Maent i’w cael mor eang nes bod eu habsenoldeb yn tynnu sylw. Ansicr yw dyddiad eu codi. Mae’r fersiynau ohonynt ar y tiroedd isel yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg tan y ddeunawfed ganrif. Fel rheol, cânt eu hystyried yn hafotai, sef anheddau a gâi eu defnyddio yn ystod yr haf fel rhan o economi trawstrefa. Ceir tystiolaeth ddogfennol o’r symud tymhorol o’r hendref i’r hafod ar uwchdiroedd Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac o ddefnyddio llaethdai haf. Ond go brin bod gweithgarwch tymhorol yn debyg o fod wedi digwydd ym mhob achos a rhaid dychmygu amrywiaeth o ffyrdd o ddefnyddio’r adeiladau hyn.

  • 
Cwt hir yn Clettwr Troedrhiwdrain yng Nghwm Elan ar lan un o lednentydd Afon Elan, i’r gorllewin o Raeadr Gwy. Mae sylfeini adeiladau fel y rhain i’w cael yn helaeth ar hyd a lled uwchdiroedd Cymru. (Llun:DI2006_1682. NPRN: 261621)
  • Tŷ hir Cedryn. Weithiau, cysylltir tai hirion ag amaethu’r uwchdir. Mae’r adeilad hwn, sydd 300m uwchlaw lefel y môr ac yn ymyl Llyn Eigiau yn nwyrain Eryri, mewn rhwydwaith bach o lociau. Yn ystod y 1940au fe sylwyd ar farciau amaethu yn un o’r llociau ac fe ddalient i fod yn weladwy yn y 1960au.(Llun:ES2003_001. NPRN:15074)
  • Cwt hir ym Mhennant. Sylfeini cerrig adeilad petryal ac iddo gyntedd sy’n wynebu tua’r gogledd ac sydd ychydig i’r ochr o ganol y mur, ar lan dde Nant Esgeiriau ar Fynyddoedd y Berwyn. (Llun:DI2006_1943 NPRN:308986)

Mae i’r cytiau hir amrywiaeth o gynlluniau, ac mewn rhai achosion maent yn ddigon mawr a manwl i awgrymu bod anifeiliaid wedi byw o dan yr unto â phobl, yn debyg i’r tŷ hir ar dir isel. Efallai mai ysguboriau i gadw gwair y mynydd ynddynt oedd adeiladau eraill. Yn aml, ceir cyfres o lociau bach - rhai crwn, rhai hanner crwn a rhai sgwâr - yn eu hymyl, a ffaldau i anifeiliaid oedd y mwyafrif ohonynt, mae’n debyg. Credir mai ffaldau i wyddau neu foch oedd yr adeiladweithiau crwn bach, ond fe all mai cael eu defnyddio’n storfeydd oer i gynhyrchion llaethdy oedd hanes rhai ohonynt. Digwydd clystyrau o adeiladau’n gyffredin iawn ac weithiau rhoddant yr argraff bod cymunedau cyfan wedi symud i dir uwch i dreulio’r haf. Mae presenoldeb carneddau bach mewn rhai achosion yn awgrymu bod gerddi wedi’u creu yn ymyl yr adeiladau. Efallai mai stordai i wreiddlysiau yw rhai o’r ‘cysgodfannau’ sydd wedi’u torri i’r llethr gerllaw. Ymhen hir a hwyr, trodd rhai o’r trigfannau hynny’n rhai parhaol, yn bennaf ar dir da yn ymyl y tir ffermio a fodolai’n barod. Pan ddaethant yn rhan o’r patrwm modern o amgáu tir, daliwyd i ddefnyddio’r elfen ‘hafod’ yn enw’r fan ac mae’r elfen i’w chael yn enwau ffermydd ledled Cymru hyd heddiw.

Cyfoeth Diwydiannol

Y mathau mwyaf niferus o safle y daethpwyd ar eu traws ar yr uwchdiroedd yw’r rhai sy’n gysylltiedig â gweithgarwch diwydiannol. Yn ogystal â chynnwys tir pori mynyddig, mae’r uwchdiroedd bob amser wedi cynnig amrywiaeth o adnoddau y gellid eu cynaeafu – fel rhedyn, eithin, mawn a choed tân. Ac eithrio mawn, nid yw eu defnyddio’n gadael unrhyw olion amlwg. Wrth ecsbloetio adnoddau eraill yr uwchdiroedd ac, yn benodol, y cyfoeth o fwynau ynddynt, mae i’r mwyngloddio arwyddocâd gwahanol iawn. Ecsbloetio’r mwynau sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r nodweddion mwyaf trawiadol o wneuthuriad dyn ar dirwedd yr uwchdiroedd.

  • Canlyniad i hanes o ganrifoedd lawer o ecsbloetio yw patrwm cymhleth nodweddion y gwrthgloddiau ar Fryn Copa ger Cwmystwyth yng Ngheredigion. (Llun:CD2005_629_007. NPRN:33184)
  • Chwarel Alexandra. Mae’r gwastraff a godwyd o’r chwarel lechi hon wedi esgor ar nodweddion trawiadol ar dirwedd uwchdiroedd Nantlle yn Eryri. (Llun:GTJ26948. NPRN:40528)
  • Tomenni gwastraff Waun y Ffa, gan edrych tua’r gogledd. Ceir amryw byd o domenni gwastraff hir a chul ar ddarn o dir sy’n 5 hectar, o leiaf, ger Ffordd Blaenau’r Cymoedd yng ngogledd Morgannwg. Fe’u crëwyd wrth dynnu glo o’r pyllau bas yn yr ardal. Mae’r hanes hir o weithgarwch diwydiannol dwys ar y rhan hon o uwchdir Morgannwg wedi gadael ei ôl ar y dirwedd leol. (Llun:ML2005_189. NPRN:291889)

Mae pyllau glo a’u mwyngloddiau haearn cysylltiedig – sydd gan mwyaf yn nodwedd ar diroedd isel de a de-ddwyrain Cymru, a thirweddau chwareli llechi’r gogledd – yn ddigon cyfarwydd ac mae rhai ohonynt o bwys rhyngwladol. Diwydiannau lleol yw’r rheiny, ond mae mwynau metelau heblaw metelau fferws i’w cael ledled Cymru a gwelir olion eu hecsbloetio mewn llawer man. Gwnaed llawer o’r gwaith echdynnu hwnnw yn yr uwchdiroedd yn arbennig: mae 75 y cant o’r mwyngloddiau hysbys rhwng 200 a 400 metr uwchlaw’r môr, ac mae eraill mor uchel â 770 metr uwchlaw’r môr. Mae dwysedd y mwyngloddio hwnnw’n rhyfeddol. Ar Fynydd Helygain yn Sir y Fflint, sef un o’r meysydd pwysicaf yng Nghymru o ran mwyn plwm a sinc, mae’r mwyngloddiau’n cynnwys rhyw 4,500 o siafftiau a cheuffyrdd unigol. Darganfyddiad pwysicaf yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw oedran mawr llawer o’r gweithfeydd hynny. O’r mwyngloddiau sy’n dangos tystiolaeth o weithgarwch cynnar, mae dros eu hanner ar yr uwchdiroedd. Yng ngogledd Ceredigion, safle mwyngloddio metel yw’r math o safle a geir amlaf ar yr uwchdiroedd. Mae tirwedd arbennig Bryn Copa ger Cwmystwyth, a ddangosir yma, wedi’i hastudio’n helaeth drwy ei harolygu’n systematig a chloddio rhannau ohoni. Mae’r holl waith yn rhychwantu rhyw 4000 o flynyddoedd, sef o gychwyn cyntaf gweithio metelau. Mae’r mwyafrif o’r nodweddion llinol sydd i’w gweld yno’n sianeli dŵr a oedd yn gysylltiedig â phroses sgwrio, sef mynd ati o dro i dro i ryddhau’r dŵr a gawsai ei storio, a hynny er mwyn golchi’r uwchbridd ymaith a dinoethi’r haenau a gynhwysai’r mwynau. Câi’r dull hwn o fwyngloddio ei ddefnyddio’n llawer helaethach nag a sylweddolwyd cynt, a thros gyfnod hwy o lawer.

Ble mae cael gwybod rhagor am uwchdiroedd Cymru?

Mae crynodebau rhanbarthol ar gael o ffrwyth Deg Mlynedd Cyntaf Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd. Cafodd adolygiad o ddegawd cyntaf y prosiect ei gyhoeddi yn 2003. Mae’r llyfr, The Archaeology of the Welsh Uplands, yn nodi cwmpas y rhaglen arolygu uchelgeisiol honno hanner ffordd drwyddi. Mae’n cynnwys crynodebau o wahanol gyfnodau, astudiaethau achos, rhestr o’r mathau o safleoedd, a llyfryddiaeth helaeth. Mae arolwg mawr ym Mannau Brycheiniog, Mynydd Du and Fforest Fawr: The Evolution of an Upland Landscape, gan David Leighton (cyfrol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1997) yn esbonio llawer am archaeoleg yr uwchdiroedd. Mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru adroddiadau ar archaeoleg detholiad o ardaloedd, gorolygon rhanbarthol, ac archifau a ffotograffau manwl o’r prosiect (o 1998 ymlaen). Mae modd cael gafael ar wybodaeth am safleoedd, ynghyd â lluniau digidol ohonynt, drwy Coflein. Mae gwybodaeth hefyd ar gael o’r Cofnodion rhanbarthol o Safleoedd a Henebion a gedwir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru .


Cysylltau allanol