Treftadaeth Cymru

Capel y Methodistiaid Wesleaidd, Llawr-y-glyn, ger Llanidloes. Adeiladwyd yn 1844. Diddyddiad. (Image: CD2005_601_014 / NPRN: 97049) Melin Lanw Fadog. Sleid o awyrlun lliw ar-osgo CBHC o Felin Lanw Fadog,  10/1/1999. (Image: GTJ26979 / NPRN: 268166)

Diweddaru cronfa ddata Capeli y Comisiwn Brenhinol

Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi bod ar flaen y gad wrth gydnabod pa mor bwysig yw capeli Anghydffurfiol yng Nghymru o ran diwylliant, cymdeithas a phensaernïaeth. Mae’r capel Cymreig yn fath o adeilad sydd ymysg y rhai mwyaf nodedig ac eiconig yng Nghymru, gan gyfrannu yn helaeth i’n tirlun trefol a gwledig.

Drwy gydweithio â gwirfoddolwyr a Chymdeithas Treftadaeth y Capeli, a chael gwybodaeth gan enwadau anghydffurfiol, mae'r Comisiwn dros y misoedd diwethaf wedi casglu data ar statws presennol bron i 3000 o gapeli Cymru, ond mae angen gwybodaeth am y 3,600 capel arall.

Ydych chi’n gallu helpu’r Comisiwn Brenhinol i gofnodi statws diweddaraf eich capel lleol?

Bydd y gwaith o gofnodi’r defnydd a wneir o gapeli Cymru yn parhau tan ddechrau hydref 2011. I helpu gyda’r prosiect, edrychwch ar y rhestri isod wedi’u trefnu yn ôl sir a chymuned. Dyma’r capeli nad oes gennym wybodaeth ddiweddar amdanynt ar hyn o bryd ynglŷn â’u statws. Gofynnir i unrhyw un sydd am helpu â’r prosiect gysylltu â Susan Fielding ar susan.fielding@cbhc.gov.uk neu CBHC, Adeilad y Goron, Plascrug, Aberystwyth, SY23 1NJ.

Ceir gwybodaeth bellach am gapeli unigol ar wefan Coflein www.coflein.gov.uk

Dogfennau