Treftadaeth Cymru

Archaeoleg y Môr yng Nghymru: Diogelu, Cofnodi ac Ymchwilio

Ym mis Hydref 2008 cynhaliodd Cadw a CBHC weithdy yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i roi gwybod i’r proffesiwn archaeolegol yng Nghymru am y newidiadau arfaethedig i’r broses o reoli asedau’r dreftadaeth forol ac arfordirol.

Mae’r newidiadau hynny’n debyg o ddeillio o ddau ddarn newydd o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth y Cynulliad, a’r Senedd yn San Steffan, yn eu hystyried.

Y cyntaf ohonynt yw’r Mesur Diogelu Treftadaeth, a gyhoeddwyd yn y manylion cefndir i araith y Frenhines ar 6 Tachwedd 2007. Ar hyn o bryd, mae tair system wahanol o restru adeiladau, cofrestru henebion, dynodi drylliadau a chofrestru parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol. Bwriad Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Cynulliad yw sefydlu system unedig – a haws ei deall – o ddiogelu treftadaeth. Ym mis Mawrth 2007 cyhoeddwyd Papur Gwyn sy’n esbonio’r newidiadau arfaethedig. Ynddo ceir darpariaethau i ddiwygio’r drefn o ran diogelu’r dreftadaeth forol drwy ehangu’r ystod o asedau hanesyddol morol y gellir eu diogelu, a sicrhau bod mwy o hyblygrwydd i’r drefn drwyddedu gyfredol o dan Ddeddf Diogelu Drylliadau 1973.

Sylwer: Ar 3ydd Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Cyd-Ddatganiad gan Andy Burnham (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon), Barbara Follett (y Gweinidog dros Ddiwylliant) a’r Farwnes Kay Andrews (yr Is-Ysgrifennydd Seneddol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol) na fyddai’r Mesur Diogelu Treftadaeth yn mynd rhagddo am y tro, er y byddai’r gwaith diwygio yn parhau drwy gydol 2009.

Yr ail yw’r Mesur Mynediad i’r Môr a’r Arfordir. Caiff llu o bynciau sylw yn y mesur, ond dyma restr o’r meysydd allweddol o ddiddordeb sy’n debyg o effeithio ar reoli’r dreftadaeth archaeolegol a diwylliannol:

  • Cynllunio Morol
  • Trwyddedu Morol
  • Cadwraeth Byd Natur y Môr
  • Data a Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Mynediad i’r Arfordir
  • Rheoli’r Arfordiroedd a Morydau

Bydd y Mesur yn creu system gynllunio morol strategol a fydd yn rhoi gwedd gliriach ar yr amcanion a’r blaenoriaethau at y dyfodol. Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Defra, Managing our marine resources – licensing under the Marine Bill, yn esbonio’r newidiadau sydd i’w gwneud i drwyddedu morol a’r pwerau sy’n cael eu datganoli i Lywodraeth y Cynulliad.

Sylwer: Ar 3 Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Araith y Frenhines y câi’r Mesur Mynediad i’r Môr a’r Arfordir ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y sesiwn newydd o’r Senedd. Ar 15 Rhagfyr 2008, cafodd y mesur ei ail ddarlleniad yn Nh?’r Arglwyddi.

Creu Cysylltiadau

Bu gweithdy Cadw/CBHC yn gyfle i ymchwilio i oblygiadau’r ddwy fenter drwy ddod ag amrywiaeth o siaradwyr ynghyd o asiantaethau’r llywodraeth, sefydliadau noddedig ac unigolion sy’n ymwneud â safleoedd morol o ddydd i ddydd.

Sian Rees a Mathew Collard, Cadw. (Cadw Archaeology Offshore An Overview.pdf)

Cadw yw ymgynghorydd Llywodraeth y Cynulliad ynghylch amgylchedd hanesyddol y môr. Mae ei rôl yn cynnwys dynodi a chofrestru safleoedd pwysig a chynghori ynghylch rheoli datblygiadau alltraeth. Bydd hefyd yn darparu cyllid ar gyfer arolygu, cloddio ac estyn-allan.

Tamsin Brown, Llywodraeth y Cynulliad

Mae gan uned sydd newydd ei sefydlu yn Llywodraeth y Cynulliad, sef yr Uned Caniatadau Morol, fwy a mwy o gyfrifoldeb dros roi caniatadau a thrwyddedu gosodweithiau ynni adnewyddadwy alltraeth, harbwrs a gwaith adeiladu arall, a charthu agregau morol.

Mary Lewis, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW Marine Bill and Marine Protected Areas.pdf)

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ymwneud yn weithgar â’r broses ymgynghori i sefydlu Ardaloedd Gwarchodedig Morol Gwarchodedig Iawn o ganlyniad i’r pwerau ychwanegol a gyflwynir o dan y mesur arfaethedig. Mae’r rhwydwaith presennol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru yn cynnwys 32% o foroedd tiriogaethol Cymru.

Sue Raftree a Deborah Morgan, y Cyd--Ganolfan Anafedigion a Thosturi, RAF Innsworth

Y Gyd-Ganolfan Anafedigion a Thosturi (y JCCC), rhan o Asiantaeth Personél a Chyn-filwyr y Lluoedd (yr SPVA), sy’n gyfrifol am roi trwyddedau i adfer neu gloddio safleoedd damweiniau awyrennau milwrol yn y DU. Diogelir olion pob awyren sydd wedi disgyn i’r ddaear a dryllio pan oedd hi ar wasanaeth milwrol (ar y tir neu’r môr) gan Ddeddf Diogelu Olion Milwrol 1986. Ar hyn o bryd, mae’n hysbys bod rhyw 100 o awyrennau milwrol wedi’u saethu o’r awyr ac wedi disgyn i’r môr o amgylch arfordir Cymru yn ystod y ddau ryfel byd.

Alison Kentuck, Derbynnydd Drylliadau, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA Role of the Receiver of Wreck.pdf)

Prif dasg y Derbynnydd Drylliadau yw prosesu’r adroddiadau a geir am ddrylliadau, a hynny er budd yr achubwr a’r perchennog. Mae hynny’n golygu ymchwilio i berchnogaeth a chysylltu â’r darganfyddwr, y perchennog a phartïon eraill sydd â diddordeb, megis archaeolegwyr ac amgueddfeydd.

Deanna Groom, CBHC

Mae CBHC wrthi’n ymestyn ymdriniaeth ofodol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i’r maes alltraeth i gofnodi tystiolaeth o longddrylliadau, awyrennau a saethwyd o’r awyr ac a syrthiodd i’r môr, a thirweddau cynhanesyddol sydd bellach o dan y don. Mae’r sgwrs hon yn disgrifio’r gwaith a wneir dros y pum mlynedd nesaf.

Steve Webster, Wessex Archaeology (Wessex Archaeology Survey Strategies and Mitigation Works.pdf)

Wessex Archaeology yw contractwr deifio archaeolegol y Llywodraeth, ac mae’n gyfrifol am fonitro cyflwr chwe safle drylliad hanesyddol dynodedig Cymru. Ef hefyd yw’r ymgynghorydd archaeolegol ar gyfer sawl cynnig i godi datblygiadau alltraeth, ac mae’n asesu eu heffaith posibl ar asedau treftadaeth.

Louise Austin, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (Welsh Archaeological Trusts and Coastal Curation.pdf)

Mae pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, sy’n seiliedig ar diriogaethau siroedd Clwyd-Powys, Dyfed, Gwynedd a Morgannwg-Gwent, yn darparu gwasanaeth archaeolegol lleol unffurf ledled Cymru a hwy sy’n cynnal y Cofnodion lleol o’r Amgylchedd Hanesyddol. Rhoddant gyngor archaeolegol i awdurdodau lleol. Mae’r Ymddiriedolaethau wedi gwneud prosiectau ymchwil strategol ar ran Cadw, fel yr arolygon o’r arfordir a wnaed yn ystod y 1990au ac, yn fwy diweddar, y fenter Porthladdoedd a Harbwrs, y disgrifir eu canlyniadau yma.

Bill Turner, Uned Deifio Archaeolegol Malvern (Designated Wrecks and the Role of the Licencees.pdf)

Dros y blynyddoedd, mae’r gr?p gwirfoddol hwn o archaeolegwyr deifio wedi ymwneud â sawl un o safleoedd Drylliadau Dynodedig Cymru, gan gynnwys y RESURGAM ac, yn fwy diweddar, y safle ym Mae Ceredigion y credid yn wreiddiol mai yno yr oedd y DIAMOND. Mae’r gwaith a wnaed gan y tîm yn cynnwys rhaglen o arolygu tanddwr, dadansoddi a dyddio samplau o bren yn wyddonol, a chwilio mewn dogfennau i weld a allai’r drylliad fod yn rhyw long arall.

Mark Beattie Edwards, y Gymdeithas Archaeoleg Forol ( Introducing the Nautical Archaeology Society.pdf)

Elusen gofrestredig sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg mewn archaeoleg forol ar bob lefel yw’r Gymdeithas Archaeoleg Forol (yr NAS). Bydd hi’n cynnal digwyddiadau hyfforddi rheolaidd i ddeifwyr, ac i rai sydd heb fod yn ddeifwyr, yng Nghymru, ac yn cyhoeddi newyddlen o ddigwyddiadau i’w haelodau ynghyd â chyfnodolyn dysgedig – The International Journal of Nautical Archaeology.

Daeth dros 50 o unigolion o amrywiol sefydliadau a grwpiau â diddordeb arbennig i’r gweithdy.

Dogfennau