Treftadaeth Cymru

Pilgrims in a boat misericord in St David's Cathedral. Image by Mrs Trenchard Cox c.1948 (Image: DI2008_0016 / NPRN: 306 / Source: RCAHMW) Tenby Harbour from the Dylan Roberts Collection (Image: DI2007_1358 / NPRN: 34354 / Source: RCAHMW) Stack Rock. (Image: DI2006_1240 / NPRN: 268158)

Archaeoleg y Môr yng Nghymru

Ysgogir diddordeb yn archaeoleg y môr gan chwilfrydedd ynghylch bywydau cymunedau morwrol. Gan fod ymchwilio archaeolegol yn debyg iawn i waith ditectif, gallai’r holl olion ffisegol gynnig cliw hanfodol i ddeall sut mae pobl Cymru wedi ymwneud â’r môr dros y canrifoedd.

Y disgyblaethau sy’n cydategu archaeoleg yw hanes, sef astudio’r cyfan a gofir am y gorffennol fel y’i diogelwyd mewn cofnodion ysgrifenedig, ac ethnograffeg, lle bydd yr arsylwr yn ymdrwytho ym mywyd beunyddiol gr?p cymdeithasol sy’n defnyddio offer, technegau a defnyddiau tebyg i gyflawni tasgau digon tebyg i’r rhai y byddai’n cyndadau wedi’u cyflawni. Er enghraifft, gall astudio arferion cyfoes ym myd pysgota neu adeiladu llongau gynnig cipolwg gwerthfawr ar arferion ’slawer dydd.

Dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf mae archaeoleg y môr wedi datblygu o fod yn gyfres o ddarganfyddiadau i fod yn ddisgyblaeth arbenigol sy’n sylweddoli pa mor fregus yw safleoedd tanddwr a bod angen sicrhau eu bod yn cael eu cadw, eu diogelu a’u rheoli.

Lluniwyd sawl astudiaeth hanesyddol nodedig o dreftadaeth arforol Cymru cyn i unrhyw ymchwiliadau archaeolegol a systematig gael eu gwneud o dan ddyfroedd y môr (e.e. sawl llyfr gan awduron fel Emrys Hughes ac Aled Eames).

Un o’r prosiectau tanddwr cynharaf oedd hwnnw ar safle’r sl?p Lovely (NPRN 240352), llong y daeth aelodau o Glwb Tanddwr Prydeinig Gwynedd o hyd iddi ym 1969. Cwta ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1973, effaith y problemau a achoswyd gan grwpiau a honnai mai ganddynt hwy yr oedd yr hawliau i longddrylliad yr Iot Frenhinol Mary oedd i’r Ddeddf Diogelu Drylliadau ddod yn ddeddf gwlad. Y Drylliadau Hanesyddol Dynodedig eraill yn nyfroedd Cymru sy’n dyddio o’r blynyddoedd cynnar yw’r Pwll Fanog, llong a ddrylliwyd wrth iddi gludo llechi (cafwyd hyd iddi ym 1976), a llongddrylliad y Talybont neu’r Bronze Bell y cafwyd hyd iddo ym 1978.

Yn ystod y 1970au, gwnaed darganfyddiadau o bwys hefyd mewn dyfroedd heblaw’r môr. Ym 1977, er enghraifft, yr oedd tîm o ddeifwyr masnachol wrthi’n gwneud gwaith i’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan pan ddaethant o hyd i bentwr taclus o lechi ar waelod Llyn Padarn. Y 1354 o lechi oedd llwyth ysgraff bach 6 metr o hyd ac iddo waelod gwastad. Cafwyd hyd i’r ysgraff hwnnw mewn cyflwr da o dan y pentwr llechi (NPRN 240683) ac fe’i codwyd i’r wyneb gan Amgueddfa Cymru. Mae ymchwil bellach wedi dangos ei fod yn gysylltiedig â chludo llechi o chwarel Dinorwig (rhwng tua 1788 a 1824).

Yn ystod y 1990au, cafwyd hyd i bethau o bwys ar wely’r môr ac yn y mannau rhynglanwol. Ym 1994 sylwyd ar bostyn pren yn ymwthio o’r mwd ar flaendraeth afon Hafren yn Magor Pill . Ariannodd Cadw wneud arolwg rhagarweiniol ohono gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent. Cafwyd hyd i 7 metr o long, a honno’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Ym 1995 gwnaed archwiliad llawn ohoni a gweld bod y llong wedi’i hadeiladu â chlinceri. Yr oedd yn ddarn blaen llong a oedd yn 15-20 metr o hyd. Llwyth y llong oedd pentwr o fwyn haearn a gawsai ei roi ar glwyd o bren cyll. Codwyd y llongddrylliad yn ei grynswth ac erbyn hyn mae ef yng ngofal Amgueddfa Cymru.

Yn 2002, cafwyd hyd i long o’r bymthegfed ganrif, a honno y tu mewn i gist argae a gawsai ei chreu i hwyluso cloddio lle i gerddorfa chwarae ynddo yng Nghanolfan Gelfyddydau newydd Casnewydd . Yn y gist argae yr oedd rhan o’r hen gei a godwyd o gerrig ac a gofnodwyd ar fap – yn y ddeunawfed ganrif – o ddaliadau tir mynachlog. Yr oedd un ochr o ran isaf corff y llong wedi’i chwtogi ryw 2 fetr uwchlaw lefel y cilbren a’r ochr arall wedi syrthio tuag allan ac yn ymestyn hyd at ryw 4 metr uwchlaw’r cilbren. Er iddi gael ei galw ar y cychwyn yn ‘Mary Rose Cymru’, y disgrifiad o Long Gasnewydd yw ei bod hi’n groes rhwng carafel ac un o longau hir y Llychlynwyr. Yr oedd hi dros 25 metr o hyd ac mae corff y llong yn eithaf cyflawn. Ynddi, cafwyd hyd i sgidiau lledr, tecstilau fel lliain hwylio a dillad gwlân, rhaff a blociau, a chrochenwaith o Bortiwgal. O dan y llong, cafwyd hyd i ran o sgerbwd dyn, a hwnnw wedi’i ddyddio i’r Oes Haearn.

Gan fod hanes pobl yn Ynysoedd Prydain yn estyn yn ôl rhyw 700,000 o flynyddoedd, mae diddordebau archaeolegwyr y môr wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf o longddrylliadau i’r newidiadau yn yr arfordir. Byddai cyfnodau cynhesach wedi digwydd rhwng yr oesoedd iâ, a phobl, yn ôl pob tebyg, wedi symud i fyw ar y tir sych a arferai fod ar wely’r môr. Mae ein dealltwriaeth o botensial y tirweddau tanddwr hynny wedi cynyddu wrth i dystiolaeth ddod i’r golwg yn y mannau rhynglanwol presennol. Ymhlith y rhai pwysicaf y cafwyd hyd iddynt mae olion traed a adawyd gan blant ym mwd rhynglanwol aber afon Hafren ryw 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar hyd sawl rhan o arfordir Cymru, fel Cricieth, Llanaber, Abermaw, y Borth ac Ynys-las, ceir coedwigoedd tanddwr sydd fel rheol yn ddyddodion o fawn neu bridd ac yn weddillion coed. I bob golwg, mae’r holl ddyddodion hynny’n lagwnau arfordirol ôl-rewlifol ac yn fawnogydd moryd a foddwyd wrth i lefel y môr godi.

Wrth i’r cofnodi systematig fynd rhagddo ar y lefel leol a chenedlaethol, mae ein dealltwriaeth ni o gymhlethdod a photensial safleoedd archaeolegol tanddwr yn datblygu. Mae rhestri fel Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a’r Cofnod lleol o’r Amgylchedd Hanesyddol a gedwir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn cyflawni dwy brif swyddogaeth, sef:

  1. darparu gwybodaeth ar ffurf y mae’n hawdd ymgynghori â hi – er enghraifft, mae’n fodd i ymchwilwyr ddod o hyd i wybodaeth sylfaenol am bob safle hysbys mewn ardal benodol
  2. darparu gwybodaeth sy’n fodd i asesu a yw erydu’n bygwth y safleoedd neu a yw datblygiadau newydd fel prosesau echdynnu agregau morol neu ddatblygu fferm wynt yn debyg o ddifrodi’r safleoedd.

I fod yn gwbl effeithiol wrth gyflawni’r ddwy swyddogaeth, mae angen i restr nodi lleoliad y safle’n fanwl-gywir, asesiad o oedran y safle a chyflwr ei gadwraeth ar hyn y bryd, ac unrhyw gysylltiad neu agwedd hanesyddol hysbys ar y safle a all olygu ei fod yn arbennig o bwysig.

Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o’r cofnodion yn rhestri Cymru yn cyfeirio at longddrylliadau ac at awyrennau a saethwyd o’r awyr ac a syrthiodd i’r môr. Gellir rhannu llongddrylliadau i ddau gategori: ‘llongddrylliadau a leolwyd’ lle mae’r safle ar wely’r môr wedi’i nodi, a chyfeiriadau at ‘anafedigion’, sy’n rhoi rhyw syniad o botensial unrhyw ran o wely’r môr neu’r arfordir i gynnwys olion archaeolegol. Er bod rhyw chwarter o’r holl gofnodion yn cyfeirio at longddrylliadau a leolwyd, gwaddol canrifoedd o fordwyo ar hyd arfordir Cymru yw bod cyfoeth o straeon am longddrylliadau, a’r rheiny’n cyfuno trychineb, trasiedi ac arwriaeth. Gallai tywydd stormus lethu llong. Gallai gwendidau yn ei hadeiladwaith beri iddi suddo. Os byddai’n amlwg na allai llong oroesi, byddai’r capten yn ceisio’i hanelu at draeth agored er mwyn ceisio arbed y criw a’r llwyth. Byddai rhesi o greigiau tanddwr, fel y rhai wrth y Smalls ac Ynysoedd y Moelrhoniaid, yn fwy byth o berygl i longau. Byddai’r prifwyntoedd a siâp arfordir Cymru hefyd yn achosi peryglon mawr i longau hwylio. Pe na bai capteiniaid yn gallu cadw eu llongau’n glir o benrhyn Ll?n, er enghraifft, câi eu llongau yn aml ei gyrru at y lan wrth lannau difäol Porth Neigwl. Amser arbennig o beryglus oedd mynd i mewn i harbwr; yn aml, byddai ar gapten angen gwybodaeth peilot lleol i ddod â llong yn ddiogel ar hyd sianeli cul neu droellog. Hyd yn oed ar ôl angori, ni fyddai llongau’n ddiogel. Petai cyfeiriad y gwynt yn newid a’r môr yn cynhyrfu, gallai’r angor lusgo neu raffau’r angor dorri gan roi’r llong a phawb ar ei bwrdd mewn perygl.

Cofnodwyd colli llongau yn ystod brwydrau rhwng llyngesau – er enghraifft, y frwydr rhwng llynges Owain Gwynedd, Tywysog Gogledd Cymru, a llynges y Brenin Henry II o longau’r Saeson, y Gwyddelod a’r Daniaid oddi ar Dal-y-foel ar Afon Menai yn OC 1157.

Ymhlith y llongau a gollwyd yn ystod rhyfeloedd yr ugeinfed ganrif yr oedd llongau tanfor y Llynges Frenhinol a’r Almaen, cychod modur arfog, llongau glanio, llongau clirio ffrwydrynnau, Liberty Ships yr Unol Daleithiau a thros 100 o longau o’r llynges fasnachol a’r fflyd o longau pysgota. Achoswyd llawer ohonynt yn anuniongyrchol gan weithredoedd y gelyn, megis pan fyddai llong yn taro ffrwydryn môr.

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae ymchwilio i safleoedd tanddwr yng Nghymru, a’u cofnodi, yn waith sy’n cael ei wneud gan amrywiaeth o sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau eraill, yn ogystal â phobl leol sydd wedi ymrwymo i’r gwaith.

O fewn y rhwydwaith hwnnw, CBHC yw’r storfa genedlaethol o wybodaeth archaeolegol a chaiff gymorth Llywodraeth y Cynulliad drwy Cadw. Y dasg a roddwyd i CBHC yw estyn ymdriniaeth ofodol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i fannau alltraeth a gweithio gyda chyrff eraill y llywodraeth, fel Swyddfa Hydrograffig y DU, rhanddeiliaid arforol eraill a defnyddwyr y moroedd. Mae CBHC yn gweithio mewn partneriaeth â Derbynnydd y Drylliadau i sicrhau y caiff gwybodaeth am ddrylliadau o bwys archaeolegol ei chynnwys yn CHCC. Mae CBHC hefyd yn gweithio gyda Wessex Archaeology fel contractwr deifio’r Llywodraeth i sicrhau y caiff y wybodaeth a gesglir wrth fonitro ac ymchwilio i safleoedd drylliadau dynodedig Cymru ei chynnwys yn CHCC. Yn ogystal, caiff adroddiadau am ddarganfyddiadau yn nyfroedd Cymru gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain (y BMAPA) eu hanfon i CBHC drwy Wasanaeth Gweithredu Protocol y BMAPA/English Heritage.

Bydd CBHC hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’i chwaer-gyrff yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon ac Ynys Manaw er mwyn cyson adolygu a gwella safonau cofnodi y rhestr.

Mae CBHC yn gweithio’n agos gyda thîm Arolygwyr Henebion Cadw i roi gwybodaeth a fydd yn helpu i gyflawni tasgau sy’n gysylltiedig â diogelu statudol a gwaith achos ar reoli datblygiadau.

Cadw yw ymgynghorydd Llywodraeth y Cynulliad yngl?n â’r amgylchedd hanesyddol ac mae’n gyfrifol am ddiogelu safleoedd drwy weithdrefnau statudol, megis eu cofrestru o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 neu ddynodi drylliadau drwy Ddeddf Diogelu Drylliadau 1973. Bydd Cadw hefyd yn cynghori Llywodraeth y Cynulliad yngl?n â’r amodau a osodir wrth drwyddedu datblygiadau alltraeth.
Bydd Wessex Archaeology, contractwr deifio y Llywodraeth, yn cynorthwyo Cadw drwy wneud amrywiaeth o ymchwiliadau i ddrylliadau sydd eisoes wedi’u dynodi neu yr ystyrir eu dynodi. Bydd yr ymchwiliadau’n cynnwys deifio, gwneud ymchwil wrth ddesg, ac adolygu’r data geoffisegol morol. Bydd Wessex Archaeology hefyd yn gweithio gyda deiliaid trwyddedau ddoe a heddiw i’w helpu i wneud yn fawr o’u hymchwil a’u hymchwiliadau hwy eu hunain.
Bydd Cadw hefyd yn cynorthwyo’r Gymdeithas Archaeoleg Forol (yr NAS) i gyflwyno’u rhaglen hyfforddi yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Archaeoleg Forol wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg mewn archaeoleg forol i bob lefel, i wella technegau cofnodi, cloddio, cadwraeth ac adrodd, ac i hybu cyfranogiad y cyhoedd. Elusen gofrestredig yw’r NAS ac mae hi wrthi’n datblygu prosiect ymchwil i gynnwys deifwyr galwedigaethol yn y gwaith o gofnodi ac ymchwilio i longddrylliadau ar hyd arfordir Cymru.

Drwy gyfrwng cytundeb rhannu-data END (y Gronfa Ddata Genedlaethol Estynedig), bydd CBHC yn rhoi gwybodaeth i Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i’w helpu i gynghori eu hawdurdodau lleol ynghylch rheoli datblygiadau alltraeth ac arfordirol. Mae CBHC hefyd yn gweithio gyda Cadw a’r Ymddiriedolaethau i ddatblygu prosiectau ymchwil strategol a fydd yn rhoi sylw i amcanion tymor-hir y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan IFA Cymru Cyflwyno Fframwaith ar gyfer Archaeoleg Cymru.

Ym mis Hydref 2008 daeth CBHC ag amrywiaeth o siaradwyr o’r chwaer-sefydliadau hynny ynghyd i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng unigolion sy’n dymuno gweld Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu fframwaith sy’n cydymdeimlo â rheoli adnoddau diwylliannol tanddwr.