Treftadaeth Cymru

Y Genedl Ddiwydiannol Gyntaf

Trawsnewidiwyd economi’r wlad rhwng canol y ddeunawfed ganrif a chanol y ganrif ddilynol am i Gymru fod wrth galon y Chwyldro Diwydiannol a gweld arloesi mawr ym meysydd technoleg a threfniadaeth a newidiadau mewn cymdeithas ac yn y dirwedd. Ar eu hôl gadawodd y datblygiadau hynny safleoedd a thirweddau sydd, yn eu ffordd, lawn mor werthfawr â gweddillion Eidal y Dadeni Dysg neu’r Hen Roeg. Erbyn cyfrifiad 1851, Cymru oedd y wlad gyntaf i fod â mwy o bobl yn gweithio ym myd diwydiant nag ym myd amaeth. Hi oedd un o allforwyr diwydiannol mwyaf blaenllaw’r byd a chafodd bywyd beunyddiol y rhan fwyaf o bobl ynddi ei drawsffurfio’n llwyr. Yn ystod yr un cyfnod, arweiniodd y cynnydd mewn cyfoeth at fwy nag erioed o heidio i’r trefi, at gamau i wella amaethyddiaeth ac at fuddsoddiadau mawr mewn pensaernïaeth.
Elfen o bwys yn hyn oll oedd maint y boblogaeth gan iddi fwy na dyblu i 1,189,000 rhwng 1780 a 1851. Effaith y rhyfel yn Ewrop, ac yn enwedig y rhyfel â Ffrainc o 1793 tan gwymp Napoleon ym 1815, oedd creu galw am nwyddau a chodi prisiau gan hybu’r buddsoddi mewn diwydiant a’r ecsbloetio ar dir ymylol ar gyfer amaethyddiaeth. Gwelwyd goresgyniad hyd yn oed, sef glaniad aflwyddiannus y milwyr Ffrengig yn Abergwaun ym 1797.


Er i bob rhan o Gymru deimlo effeithiau’r diwydiannu, diwydiannau lleol a geid gan mwyaf – yn enwedig yn Abertawe, blaenau cymoedd y de a dyffryn Maes-glas (Greenfield) yn Sir y Fflint. Am fod y cyfraddau geni yn codi yn y trefi ym Morgannwg a Sir Fynwy lle cynhyrchid haearn, ac am fod mudo helaeth i’r trefi hynny o gefn gwlad Cymru yn bennaf, tyfodd y boblogaeth ynddynt yn gynt nag mewn bron unrhyw ran arall o Brydain. Datblygodd cymdeithas arbennig o bobl dosbarth-gweithiol yno a daliai i fod yn un Gymraeg ei hiaith gan mwyaf, hyd yn oed yn y trefi diwydiannol newydd, tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelwyd gostyngiad ym mhoblogaeth cefn gwlad, yn enwedig ar yr uwchdiroedd ymylol, wrth i bobl gael eu denu gan y cyfleoedd a gynigid gan gyflogau gwell a chymdeithas y cymunedau trefol. Yn y wlad a’r dref, ehangodd anghydffurfiaeth yn gyflym, a daeth capeli’n nodwedd gyfarwydd ar dirwedd Cymru.
Tanwydd hanfodol i lawer o’r diwydiannau oedd y glo a geid yn helaeth yn y de a’r gogledd-ddwyrain. Fe’i defnyddid yn bennaf yn y diwydiannau a gynhyrchai fetelau, ond er i lo ddechrau cael ei allforio tua diwedd y ddeunawfed ganrif, ni chyrhaeddodd y diwydiant hwnnw ei anterth am ganrif arall. Y diwydiannau cynharaf yng Nghymru i fagu pwys rhyngwladol oedd y rhai a gysylltid â metelau anfferrus. Yr oedd cloddio am fwyn plwm, mwyn copr neu fwyn arian wedi digwydd yn y rhan fwyaf o Gymru ar ryw adeg neu’i gilydd. Cynyddodd graddfa’r gweithgarwch hwnnw ac yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cyflogid miloedd o bobl gan y mwyngloddiau plwm ar yr uwchdiroedd yng Ngheredigion a siroedd Trefaldwyn, Dinbych a’r Fflint. Datblygodd Thomas Williams gymaint ar fwynglawdd Mynydd Parys ym Môn nes iddo dyfu’n fwynglawdd copr mwyaf y byd tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Gwasanaethid y mwynglawdd gan borthladd Amlwch, ac am fod yn y dref honno dros 5,000 o bobl, hi oedd tref ail fwyaf Cymru am gyfnod byr. I brosesu’r mwyn o Fôn, datblygodd Williams gyfres o weithiau mwyndoddi a gweithgynhyrchu, gan gynnwys melinau a yrrid gan ddŵr yn nyffryn Maes-glas ger Treffynnon a gweithfeydd copr Middle ac Upper Bank yn Abertawe.


O’r Almaen ym 1584 y daeth y broses o doddi mwyn copr ar raddfa ddiwydiannol i Brydain, a dyna pryd y codwyd gwaith newydd ger Castell-nedd ym Morgannwg. O 1717 ymlaen, canolfan y diwydiant oedd glannau Afon Tawe uwchlaw Abertawe a chludid y mwyn yno o’r ochr arall i Fôr Hafren: fe grynhodd ar ochr Abertawe am fod y diwydiant yn defnyddio mwy o danwydd nag o fwyn, a gellid llenwi’r llongau â llwyth o lo ar gyfer eu taith yn ôl i Ddyfnaint a Chernyw. Sefydlwyd tri ar ddeg o weithfeydd copr erbyn blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chyn hir câi 90 y cant o’r copr a doddid ym Mhrydain ei gynhyrchu o fewn ugain milltir i Abertawe. Codwyd gweithfeydd hefyd i doddi mwyn sinc, mwyn plwm, mwyn arian a mwynau metelau eraill. Yn y ddeunawfed ganrif ni chyflogai gweithfeydd copr mwy na chant o weithwyr, ond cyflogid dros fil gan y rhai a sefydlwyd ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeg cyfrifiad 1841, yn rhan isaf cwm Tawe y ceid y crynodiad mwyaf o boblogaeth yng Nghymru - rhyw 40,000 o bobl - a’r rheiny wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y dref fasnachol a phentrefi diwydiannol y cylch. Llanwyd y cwm â mwg gwenwynig a thomenni gwastraff poeth.
Yr ail ddiwydiant o bwys rhyngwladol yng Nghymru oedd haearn. Sefydlwyd ffwrneisi chwyth ym Morgannwg a Sir Fynwy tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg i ecsbloetio’r cyflenwadau lleol o siarcol a mwyn o ymylon meysydd glo Cymru a Fforest Ddena. Gwaith bach a ddefnyddiai siarcol yn danwydd ac a yrrid gan ddŵr oedd pob un o’r gweithfeydd haearn cynnar ac fe’u ceid hwnt ac yma ar hyd y wlad: yr unig glwstwr ohonynt oedd yr un yn nyffryn Gwy. Pan ddarganfu Abraham Darby o Coalbrookdale ym 1709 sut i doddi mwyn haearn â glo golosg yn hytrach na siarcol, effaith hynny ymhen amser oedd chwyldroi’r diwydiant haearn. Ym 1713 cynlluniodd Darby ffwrnais haearn yn Nôl-gun, i’r dwyrain o Ddolgellau, a chododd ei gyd-Grynwr, Charles Lloyd, ffwrnais yn y Bers ger Wrecsam ym 1717 gan ei newid ym 1721 i losgi golosg. Gan fod modd defnyddio glo, gellid codi ffwrneisiau helaethach a’u grwpio gyda’i gilydd, a bu codi cyfres o weithfeydd newydd yn gymorth i drawsffurfio’r fasnach haearn ym Mhrydain. Ffwrnais Hirwaun ym 1757 oedd y gyntaf yn y de i ddefnyddio golosg, ac fe’i dilynwyd gan Ddowlais ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ar hyd blaenau’r cymoedd, rhoddwyd tiroedd helaeth a oedd â chyfoeth o lo, mwyn haearn a chalch ynddynt ar brydles i fentrau newydd a rhoddwyd yr holl ddulliau newydd ar waith yn drefnus ac ar raddfa fawr. Defnyddiai’r genhedlaeth newydd o weithfeydd nifer o ffwrneisiau. Llosgent olosg ac fe’u gyrrid â stêm gan mwyaf. Fel rheol, hefyd, caent eu cyfuno â ffwrneisiau pwdlo i wneud haearn gyr. Erbyn 1830, de Cymru oedd yn cynhyrchu 40 y cant o’r holl haearn crai ym Mhrydain, a gallai gynhyrchu mwy o haearn nag unrhyw ranbarth arall yn y byd.

Cyfrannodd diwydiannau eraill hefyd at drawsffurfio’r economi. Ffynnodd yr hen ddiwydiant gwlân yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mai diwydiant domestig oedd ef o hyd i raddau helaeth, ac ni chodwyd y rhan fwyaf o’r ffatrïoedd tan ar ôl 1850. Gan mai cynyddu’n gyflym o’r 1790au ymlaen wnaeth nifer y gwehyddion yn y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn a ddefnyddiai wyddion llaw, cynlluniwyd maestref newydd ar eu cyfer ym Mhenygloddfa. Ynddi ceid tai â mannau gwehyddu uwch eu pennau. Daeth y diwydiant bragu i dorri syched y gweithlu diwydiannol a threfol newydd. Datblygodd ffatrïoedd i wneud brics i ateb anghenion y diwydiannau mwyndoddi ac adeiladu. Ehangodd y diwydiannau chwarela carreg galch a llosgi calch i ddarparu cyflenwadau o forter a gwrtaith calch. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif dechreuodd ffyniant rhyfeddol y diwydiant llechi yn y gogledd-orllewin, ond ni chyrhaeddodd ei anterth tan flynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gâi llechi eu defnyddio i doi adeiladau mor bell i ffwrdd â De America ac Awstralia.
Bu’r meysydd mwynau yn her fawr i’r rhai a oedd yn fodlon mentro’u datblygu. Byddai llongau’n cysylltu porthladdoedd ar hyd yr arfordir a buont o bwys mawr wrth gludo mwyn haearn i Abertawe, cludo’r copr gorffenedig i’r melinau efydd ym Mryste, dosbarthu llechi, allforio haearn a chludo nwyddau o wledydd eraill i Brydain i bobl eu prynu. I hwyluso hyn oll, gwellwyd y porthladdoedd a’r goleudai. Gwaith anodd, ar y llaw arall, oedd treiddio i gefn gwlad. O ran eu hamaethyddiaeth, tiroedd gwael oedd yr uwchdiroedd, a daeth gwella’r ffyrdd tyrpeg yn hwyr yn ôl safonau Lloegr. Er hynny, codwyd rhai pontydd trawiadol, yn enwedig pont William Edwards ym Mhontypridd ym 1756, pont a fu am ddwy genhedlaeth, mae’n debyg, yn bont garreg fwyaf y byd.
Dau ateb i broblemau cludiant y diwydiannau hyn oedd camlesi ar y naill law ac, ar y llall, reilffyrdd y tynnid y wagenni arnynt gan geffylau. Hyrwyddwyd camlesi gan gwmnïau o fân gyfranddalwyr yn ystod y buddsoddi gwyllt yn y 1790au. Dringai’r camlesi ar hyd y cymoedd strategol yn y de a chroesi o iseldiroedd Lloegr draw i Sir Ddinbych, a chludai’r rheilffyrdd lo, haearn a charreg galch at y dyfrffyrdd hynny o lethrau’r bryniau. Mae’n fwy na thebyg mai yn ne Cymru y cafwyd y rhwydwaith dwysaf erioed o reilffyrdd y defnyddid ceffylau i dynnu wagenni ar hyd-ddynt, ac efallai i’r rhwydwaith hwnnw estyn dros fil o filltiroedd i gyd. Cludid llechi o’r chwareli ym mynyddoedd y gogledd-orllewin ar hyd rheilffyrdd cynnar i lawr i’r porthladdoedd - o chwarel y Penrhyn ym 1801, chwareli Dinorwig a Dyffryn Nantlle yn y 1820au a chwareli Blaenau Ffestiniog ym 1836. Gan mai effaith y camlesi a’r rheilffyrdd oedd trawsffurfio cost y prosesau cynhyrchu drwy ostwng cost cludiant, agorwyd mwyngloddiau a chwareli newydd lle bynnag y gellid cyrraedd y mwynau. Pan agorodd Walter Coffin lefel y Dinas yn y Rhondda ym 1809, gwelwyd yr arlliw cynharaf o’r twf aruthrol a fyddai’n dod i faes glo’r de. Ym 1841 Rheilffordd Cwm Taf oedd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf y tynnid pob trên arni gan injan, ac wrth iddi gyrraedd rhan isaf Cwm Rhondda yn sgil cwblhau Doc Gorllewin Bute yng Nghaerdydd ym 1839, crëwyd mwy a mwy o gyfleoedd i allforio glo.

Arloesi wnaeth cynllunwyr a mentrwyr byd diwydiant a chludiant yng Nghymru, a hwy sy’n cael y clod am osod y cledrau cynharaf i’w gwneud o haearn yn unig, am y defnydd cyntaf a gofnodwyd o ddefnyddio injan i dynnu llwyth (gan Richard Trevithick ym 1803) ac am y gwasanaeth rheilffordd cyhoeddus cyntaf i gludo teithwyr (ym 1807). Yn y Bers, datblygodd John Wilkinson beiriant tyllu i wneud silindrau i ganonau ac i injans stêm. Effaith cyflwyno datblygiadau pwysig ym maes cynhyrchu copr dan arweiniad Thomas Williams oedd gwella’r gorchuddio ar gyrff llongau. Llwyddodd peirianwyr a hyfforddwyd yn lleol, fel Watkin George yng Nghyfarthfa, i greu amryw o ddatblygiadau arloesol: George a gododd y draphont a’r bont reilffordd gyntaf erioed o haearn ym 1793, a chododd hefyd rai o’r toeon haearn cyntaf i fod â rhychwant mawr. Dylanwadodd y prototeipiau hynny ar gynllun traphont Pontcysyllte, a dylanwadodd y cynllun hwnnw yn ei dro ar ddulliau o godi traphontydd dŵr mewn llawer gwlad. Drwy ei waith ar Gamlas Ellesmere a’r ffordd i Gaergybi, datblygodd Thomas Telford dechnegau pwysig o ran peirianneg haearn, codi gwrthgloddiau a rheoli prosiectau. Byddai’r rheiny’n dylanwadu ar faes peirianneg ledled y byd.

Oes y ‘gwellhawyr’ oedd diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod sicrhau cynnydd yn flaenllaw ym meddyliau’r tirfeddianwyr a hyrwyddai welliannau ym myd amaeth ac isadeiledd cefn gwlad. Cyrhaeddodd y brwdfrydedd hwnnw ei anterth yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac, yn arbennig, yn ystod y Rhyfeloedd â Ffrainc. Cyfnod oedd hwnnw a welodd y boblogaeth yn tyfu’n gyflym, prisiau gwenith yn codi’n eithriadol o uchel a meddylfryd yr Ymoleuo’n herio’r status quo. Bu’r gwellhawyr, yn unigol neu mewn cwmnïau, wrthi’n adeiladu ffyrdd a phontydd, yn amgáu caeau, yn draenio tir ac yn datblygu ac yn lledaenu gwell technegau amaethyddol, gan gynnwys cynllunio adeiladau ffermydd a defnyddio calch i wella’r tir. Cafodd yr amgáu drwy Ddeddf Seneddol effaith fawr ar y dirwedd wedi’r 1760au drwy osod terfynau rheolaidd i gaeau ar dir comin agored.
Arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at dwf enfawr yn nifer a maint y trefi. Ac er i gyflymder y twf hwnnw fod yn aruthrol yn yr ardaloedd mwyngloddio a gweithgynhyrchu – mewn trefi fel Merthyr Tudful a Thredegar – ehangu hefyd wnaeth trefi glan-môr fel Dinbych-y-pysgod, trefi sirol fel Abergafenni a Wrecsam, a phorthladdoedd fel Caernarfon a Chasnewydd. Gweithredai llawer tref, wrth gwrs, ar sawl lefel a thyfu’n arbennig o gyflym o’r herwydd: yr oedd Abertawe yn dref glan-môr, yn dref fwyngloddio, yn ganolfan gweithgynhyrchu, yn ganolfan ranbarthol ac yn borthladd. Ond aros yn eu hunfan fu hanes trefi a oedd heb swyddogaeth bwysig i’w chyflawni. Digon di-drefn fu twf y mwyafrif o drefi: dyna a welwyd mewn mannau fel Blaenafon lle cynhyrchid haearn. Dilynai’r tai linellau’r rheilffyrdd cynnar a chaent eu codi ar dir rhwng y mwyngloddiau, y ffwrneisiau a’r tomenni: peth cyffredin ar draws blaenau cymoedd y de, felly, oedd gweld strydoedd ag enwau fel Tram Side, Cinder Hill neu Furnace Row.
Yr oedd y cyfuniad o galedi a chyfle a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol yn amlycach yn y trefi diwydiannol nag yn unman arall. Anaml y byddai’r cyfleusterau glanweithdra’n ddigon da i ateb anghenion pawb a oedd wedi tyrru i’r trefi, ac o dro i dro lladdai epidemig nifer fawr o’r trigolion – mae’r fynwent ar ben bryn yn Nhredegar yn ein hatgoffa’n fyw o’r colera a ledai drwy’r pentrefi. Eto, er bod yr amodau byw yn wael yn ôl safonau diweddarach, rhagorent ar dai llwm tlodion cefn gwlad. Cynigiai rhai diwydianwyr addysg i blant eu gweithwyr yn ysgolion y gweithfeydd, ond peth cyffredin iawn o hyd oedd i blant weithio. Cyfrannodd ysgolion y gweithfeydd at ledu gwybodaeth o’r Saesneg (gan droi Cymru yn wlad ddwyieithog, i raddau helaeth, erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg), tra bu’r diwygiadau Methodistaidd a ddechreuodd yn y cymunedau diwydiannol yn fodd i ysgogi a chynnal y Gymraeg. Er bod gan y gweithwyr lawer mwy o arian i’w wario, yr oedd eu dibyniaeth ar y meistri diwydiannol yn creu drwgdeimlad. Gwelwyd hynny yn nherfysgoedd grawn yr 1790au a chododd i’w uchafbwynt yn Nherfysg Merthyr ym 1831 ac yn nherfysg y Siartwyr ym 1839 pan laddwyd o leiaf ugain o’r protestwyr. Cododd meistri haearn Nant-y-glo dyrrau amddiffynnol yn ymyl eu plastai am eu bod yn ofni’n fawr y gallai eu gweithwyr ymosod arnynt.

O bryd i’w gilydd, cynllunnid trefi newydd neu elfennau o drefi newydd, fel yn Nhremadog ym Meirionnydd, Aberaeron yng Ngheredigion, y Drenewydd ger Rhymni, neu Dreforys, pentref y gweithfeydd copr ger Abertawe. Efallai mai’r fwyaf o’r trefi hynny oedd Doc Penfro. Yr oedd y cynlluniau ar eu cyfer yn esiampl o’r buddsoddi helaethach mewn llawer math o adeilad. Yr arddull Sioraidd oedd hoff iaith bensaernïol y cyfnod a thra-arglwyddiaethai ar drefweddau o Ddinbych i Hwlffordd ac o Drefaldwyn i’r Bont-faen pan gâi tai, siopau a neuaddau tref du blaen newydd neu eu hailgodi. Golygai cymesuredd, cyfrannedd a symlrwydd yr arddull honno fod egwyddorion y Dadeni yn drech na’r traddodiadau brodorol. Er hynny, gwelodd diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ganrif ddilynol lu o ffasiynau pensaernïol yn ymledu, gan gynnwys neo-glasuraeth, yr arbrofion cyntaf mewn adfywio’r bensaernïaeth Othig ar ffurf arddull ‘gothick’ bictwrésg, ac adfywiad byr yn yr arddull ‘Eifftaidd’.
Ymgyfoethogodd ystadau tiriog oherwydd yr incwm a gaent o fyd amaeth, o weithgareddau mwyngloddio ac o’r fasnach â’r trefedigaethau, a chodwyd plastai mawr yn unol â’r chwaeth ddiweddaraf. Yn y 1820au cynlluniwyd Castell y Penrhyn ger Bangor gan Thomas Hopper mewn arddull Romanésg ddiaddurn i gyfleu cyfoeth enfawr y perchennog a’i wariant helaeth. Ymarfer yn yr arddull ‘gothick’ oedd Castell Margam ym 1830. Y pensaer pwysicaf a weithiai yng Nghymru oedd John Nash, ac mewn cwta ddegawd o 1788 ymlaen cynlluniodd ef adeiladau cyhoeddus ar gyfer y trefi Sioraidd eu naws ynghyd â chyfres o filâu arloesol i foneddigion y de-orllewin. Drwy wneud hynny, dysgodd gyplysu adeiladau â’r dirwedd mewn ffordd bictwrésg. Codwyd neu ailgodwyd cannoedd ar gannoedd o dai, a llawer ohonynt yn arddull Nash. Er i lai o gyfoeth gael ei fuddsoddi mewn plastai gwledig yng Nghymru nag mewn llawer rhan o Loegr, cafodd hynny effaith fawr ar adeiladau ac ar y dirwedd ehangach. Ailgynlluniwyd tiroedd llawer plasty yn null parcdiroedd Lloegr a chrëwyd llwybrau cerdded a golygfeydd yn unol ag estheteg y mudiad Pictwrésg. Cymru oedd cartref ysbrydol y mudiad hwnnw, diolch i waith ymchwil William Gilpin wrth grwydro dyffryn Gwy, i waith Uvedale Price ac i waith Thomas Johnes. Nash fu’n gyfrifol am gynllunio Emlyn Cottage, tŷ agweddi gothig yng Nghastellnewydd Emlyn, Castle House, fila glan-môr i Price yn Aberystwyth, a phlasty enwog yr Hafod i Johnes. Dyma oes fawr cynllunio a chodi ffoleddau i harddu agweddau ar y dirwedd: ymhlith y llu sy’n dal i roi pleser i’r llygad mae cofeb Derry Ormond yng Ngheredigion, y groto cregyn ym Mharc Pont-y-pŵl a’r tŵr yn y Kymin ar fryn uchel uwchlaw Trefynwy.

Daeth ymweld â phlastai a thiroedd fel Piercefield ar lan afon Gwy, Wynnstay ger afon Dyfrdwy a’r Hafod ar lan afon Ystwyth yn elfen hanfodol wrth i foneddigion deithio ar hyd a lled Cymru. Hwyrach ei bod yn eironig bod Cymru yn mynd drwy ei Chwyldro Diwydiannol yr un pryd ag y daeth yn atyniad i dwristiaid cynnar. Eto, dangosai llu o’r ymwelwyr a chwiliai am y golygfeydd godidog a fawrygid gymaint gan y mudiad Rhamantaidd ddiddordeb yn effaith dyn ar fyd natur yn ardaloedd y mwyngloddio a’r gweithgynhyrchu. Trawsffurfiodd twristiaeth bensaernïaeth trefi’r arfordir gan droi trefi â gwreiddiau canoloesol fel Aberystwyth, Abertawe a Dinbych-y-pysgod yn drefi glan-môr o bwys erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn Aberystwyth ceir rhai tai tref ac ystafell ymgynnull gain o’r cyfnod hwnnw, ac mae papurau newydd yr oes honno’n rhestru’r boneddigion a ymwelodd â hwy. Effeithiodd yr adeiladau hynny yn eu tro ar y ffordd y datblygodd plastai ac ystadau gwledig. I lawer, yr oedd Cymru a’i hiaith yn cynrychioli diwylliant hynafol y Brythoniaid. Ochr yn ochr â hynny, gwelwyd y Cymry’n ymddiddori o’r newydd yn eu gorffennol eu hunain, a gwelir hynny gliriaf yng ngweithiau Iolo Morganwg, y gŵr a ddyfeisiodd fath o sgript Ogam (Coelbren y Beirdd), Gorsedd y Beirdd a’r syniad o ddefnyddio cylchoedd cerrig. Er mai menter i ddehongli’r gorffennol ar sail dychymyg yn hytrach na dadansoddi oedd hynny, ysgogodd ddiddordeb yn henebion Cymru sy’n para hyd heddiw.