Treftadaeth Cymru

Cymru ym Mlynyddoedd Cynnar yr Ugeinfed Ganrif

Daeth marwolaeth y Frenhines Victoria ym 1901 â’r teyrnasiad hwyaf yn hanes Prydain i ben. Gwelodd y teyrnasiad hwnnw lu o gampau diwydiannol, datblygiadau technolegol a diwygiadau cymdeithasol. Parhaodd optimistiaeth a hyder oes Victoria yn ystod yr oes Edwardaidd, o 1901 tan 1910, am fod Prydain yn gallu honni mai hi oedd yn arwain y byd mewn gwleidyddiaeth, masnach a newidiadau cymdeithasol. Gwelodd y cyfnod lu o ddatblygiadau sy’n bwysig ym Mhrydain hyd heddiw, megis dyfodiad ceir ac awyrennau, sefydlu pleidiau gwleidyddol newydd, a threfnu darpariaethau lles i blant, y cleifion, yr henoed a’r di-waith. Ond daeth Rhyfel 1914-18 i lethu’r holl optimistiaeth. Yn ystod yr ugain mlynedd cyn i’r rhyfela ail-ddechrau, gwelodd Prydain gyfnod o herio cyson ar yr hen wirioneddau: newidiadau sylweddol yn digwydd yn nhechnoleg bywyd bob-dydd, egwyddorion newydd moderniaeth yn codi ym myd cynllunio a phensaernïaeth, America’n tra-arglwyddiaethu mwy a mwy ac argyfyngau economaidd yn cyffroi aflonyddwch cymdeithasol ac ymrafael difrifol.

  • Awyrlun, a dynnwyd gan Aerofilms ym 1929, o Ddociau Caerdydd. Dyma safle Canolfan Mileniwm Cymru a Senedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn. (Llun:D12006_0742 / NPRN: 91412)
  • Gwaith dur Margam. (Llun: GTJ 25867 / NPRN:91392)
  • View of coal shoot in Barry Docks,1975. From the DJ Roberts Collection. (Image: DI2007_1204 / NPRN: 34234)

Erbyn 1900 yr oedd diwydiant a masnach wedi tyfu’n elfennau cwbl sylfaenol yn economi Cymru. Dangosodd cyfrifiad 1901 fod y niferoedd a oedd yn gweithio ym myd amaethyddiaeth wedi dal i ostwng, sef i ryw 8.5% o’r boblogaeth. 1913 oedd yr uchafbwynt o ran cynnyrch a gweithlu diwydiant glo Cymru: blwyddyn cynhyrchu bron 57 o filiynau o dunelli metrig o lo - pumed ran o holl gynnyrch glo’r Deyrnas Unedig - a hynny gan ryw 233,000 o ddynion mewn 600 a rhagor o byllau glo. Y flwyddyn honno, cipiodd porthladd y Barri y record drwy allforio un filiwn ar ddeg o dunelli o lo. Talwyd pris am y cynhyrchu prysur hwnnw: lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn gan ffrwydrad tanddaearol yn Senghennydd ger Caerffili ar 14 Hydref 1913 - y trychineb glofaol gwaethaf a ddigwyddodd ym Mhrydain. Yr oedd diwydiannau eraill hefyd yn datblygu: 1907 oedd blwyddyn sefydlu gwaith dur Port Talbot ac agor gwaith alwminiwm Dolgarrog, gwaith a yrrid gan drydan-dŵr, yn Nyffryn Conwy. Ochr yn ochr â’r ddibyniaeth ar y diwydiannau trwm, datblygwyd technolegau newydd: ym 1912, yn Waunfawr ger Caernarfon, sefydlodd Marconi’r orsaf lwyddiannus gyntaf i drosglwyddo radio tonfedd-hir ac, am ryw chwe blynedd ar hugain, hi oedd yr orsaf bwysicaf o’i bath ym Mhrydain am ei bod yn trosglwyddo galwadau o fewn yr ymerodraeth ac yn rhyngwladol.

  • Pont Gludo Casnewydd, a godwyd ym 1906. (Llun:DI2006_1626 / NPRN: 43157)
  • Aerial view of the north breakwater and lighthouse at Goodwick. (Image: DI2006_1194 / NPRN: 309558)
  • View of a Vale of Rheidol Railway locomotive, Aberystwyth. From Dylan Roberts Collection. (Llun: DI2007_1459 / NPRN:34687)

Yr oedd yr aflonyddwch cymdeithasol a welwyd mor aml rhwng y ddau ryfel byd wedi codi ei ben ynghynt, yn enwedig yn y diwydiannau llechi a glo. Er i gymunedau amaethyddol cefn gwlad weld rhywfaint o adfywiad cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, digon garw oedd yr amodau byw yn y rhanbarthau diwydiannol. Y streic a gychwynnodd ym mis Tachwedd 1900 yn chwarel y Penrhyn yn Sir Gaernarfon fyddai’r anghydfod hwyaf yn hanes Prydain: clowyd y chwarelwyr allan am dair blynedd. Rhannwyd y gymuned ac ymadawodd miloedd â’r fro heb ddychwelyd byth. Yn y de, galwyd ar filwyr i chwalu’r terfysgoedd a ddigwyddodd yn Nhonypandy ym 1910 yn sgil cloi glowyr allan o bwll glo, a rhwng 1910 a 1914 gwelwyd amryw o streiciau gan lowyr, docwyr a gweithwyr rheilffordd. Esgorodd y dirwasgiad economaidd wedi’r rhyfel ar ragor o ymrafael. Aeth y glowyr ar streic ym 1924 yn erbyn gostwng eu cyflogau. Ar ôl Streic Gyffredinol 1926, fe’u gorfodwyd i ddychwelyd i weithio ar gyflogau is ac am oriau hwy. Y flwyddyn ganlynol, cynyddodd diweithdra gymaint nes ysgogi’r orymdaith gyntaf gan ddynion newynog o dde Cymru i Lundain. Bu’r dirwasgiad byd-eang o 1929 tan 1933 yn drychineb. Cyrhaeddodd diweithdra ei anterth ym 1930 gan daro’r de’n arbennig o galed.

Er bod oes aur adeiladu rheilffyrdd wedi hen ddarfod, cwblhawyd un prosiect mawr olaf rhwng 1902 a 1906, sef adeiladu porthladd Abergwaun a chysylltu’r brif lein ag ef mewn ymdrech ddewr nid yn unig i greu taith fyrrach i Iwerddon drwy Rosslare ond i gipio peth o fusnes y llongau mawr a hwyliai dros Fôr Iwerydd. Ymhlith y gwelliannau llai uchelgeisiol ym myd cludiant yr oes yr oedd adeiladu rheilffordd Cwm Rheidol o Aberystwyth i Bontarfynach a thramffordd Penygogarth yn Llandudno, ill dwy ym 1902, adeiladu rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion ym 1903 a chodi pont gludo Casnewydd ym 1906. Cyrhaeddodd rheilffyrdd Prydain eu hanterth cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; yn sicr, ni fuont erioed mor brysur yn y de wrth gludo glo i’w allforio. Ym 1908, er enghraifft, cludodd rheilffordd Cwm Taf dros ddeunaw miliwn o dunelli metrig o lo ar hyd ei chledrau. Deliai dociau Caerdydd, y Barri a Chasnewydd â llwythi enfawr: mewn blwyddyn, allforiwyd dros ddeg miliwn o dunnelli metrig o lo ager gan Gaerdydd, sef mwy o lo na’r un porthladd arall yn y byd.

  • Cynllun d?r Cwm Elan: codi argae Garreg Ddu a’r eglwys newydd ym 1899. (Llun: GTJ63724 / NPRN: 752)
  • Canolfan ddinesig darpar brifddinas. Yr Amgueddfa Genedlaethol, Neuadd y Ddinas a’r Llysoedd Barn sydd ar y brig ac adeiladau’r brifysgol a’r llywodraeth sydd ar y gwaelod. (Llun: GTJ00047 / NPRN: 401617)
  • Lluniad dylunio Lanchester Stewart a Rickards, 1899, ar gyfer y Llysoedd Barn ym Mharc Cathays. (Llun: DI2008_0299 / NPRN: 31806)

Parhâi prosiectau peirianneg sifil eraill i fod yn bwysig. Ym 1904, ar ôl un mlynedd ar ddeg o waith adeiladu, agorwyd cynllun dŵr Cwm Elan gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra i gyflenwi dr glân i ddinas Birmingham. Fe’i dilynwyd gan ragor o brosiectau i foddi cymoedd er mwyn cyflenwi dŵr yfed i ddinasoedd Lloegr ac i ganolfannau poblog cynyddol eu maint yng Nghymru, fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Ymhen dwy genhedlaeth cafwyd cynllun mwy dadleuol, sef cynllun Lerpwl ym 1965 i foddi pentref Capel Celyn yn Nhryweryn ger y Bala.

Yn sgil cydnabod mwy a mwy ar genedligrwydd y Cymry o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, dyrchafwyd Caerdydd yn ddinas ym 1905 (er na ddaeth yn brifddinas swyddogol Cymru am hanner canrif arall). Mae’r adeiladau dinesig crand ym Mharc Cathays sy’n gymaint rhan o ganol y ddinas yn fynegiant o’r cyfoeth a gafwyd drwy allforio glo, ac yn symbol o dwf cyflym pwysigrwydd a maint Caerdydd, dros yr hanner canrif cyn hynny. Ni thyfodd Abertawe mor gyflym er gwaethaf pwysigrwydd rhyngwladol ei phrif ddiwydiannau trwm, yn enwedig o ran cynhyrchu metelau anfferrus, ac ni ddyrchafwyd mohoni’n ddinas tan 1969. Serch mai blynyddoedd goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr yng ngwleidyddiaeth genedlaethol a lleol Prydain oedd y rhain, llwyddodd y Blaid Lafur Annibynnol i ennill tir.

Rhoes diwygiad crefyddol 1904-5 hwb i fywiogrwydd diwylliannol y cyfnod tua diwedd oes Victoria, ac erbyn i gymylau rhyfel gronni ym 1914 yr oedd camau ar y gweill i ddatgysylltu a dadwaddoli’r Eglwys Anglicanaidd, proses na chyflawnwyd mohoni tan 1920.

Bu’r flwyddyn 1907 yn bwysig yn hanes creu sefydliadau diwylliannol cenedlaethol: blwyddyn sefydlu’r Amgueddfa Genedlaethol ac adran Cymru o’r Bwrdd Addysg ac, ar ôl pymtheg mlynedd ar hugain o bwyso a mesur, cafwyd y Siarter Frenhinol a sefydlodd y Llyfrgell Genedlaethol. Yn fuan ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn Aberystwyth, daeth y llyfrgell honno’n un o chwe llyfrgell adnau gyfreithiol Prydain, a chanddi’r hawl i gael copi o bob cyhoeddiad a gynhyrchid yn y Deyrnas Unedig. Y flwyddyn ganlynol, gwelwyd sefydlu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ynghyd â chwaer-sefydliadau ar gyfer yr Alban a Lloegr. Cymaint oedd ymchwydd yr hyder yng Nghymru nes i fesur i roi hunanlywodraeth iddi gael ei gyflwyno yn y Senedd ym 1914, ond rhoddwyd y gorau iddo cyn hir oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, Caerdydd (1924-8, Ninian Comper). (Llun: DS2006_038_001 / NPRN: 32845)
  • Un o’r systemau o ffosydd ymarfer sydd wedi’u diogelu orau ym Mhrydain ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Llenwyd y rhan fwyaf o’r gweddill a’u defnyddio’n dir amaethyddol unwaith eto, ond yma ym Mhenalun maent wedi’u torri i’r graig. (Llun: DI2006_00376 / NPRN: 268143)
  • Golwg fanwl o batrwm y ffos saethu. Ar y dde ar y brig, mae ffos gloddio yn igam-ogamu tuag at y gelyn. Mae ffosydd cysylltu yn rhedeg draw i’r ffos reoli ar y chwith ar y gwaelod. (Llun: DI2006_0375 / NPRN: 268143)

Esgorodd rhyfel 1914-18 ar newidiadau dirfawr gan chwalu’r hen drefn mewn llawer maes. Ymatebodd dynion ifanc yn eiddgar i’r alwad i ddwyn arfau ac ni ddychwelodd rhyw 35,000 o Gymry o’r brwydro. Rhan o’r paratoi ar gyfer ymladd ar y ffrynt oedd cloddio ffosydd ymarfer mewn llawer man yng Nghymru, a cheir olion nodedig rhai ohonynt hyd heddiw ym Mhenalun yn Sir Benfro a Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. O dan gyfarwyddyd David Lloyd George, y gweinidog arfau ac, yn ddiweddarach yr ysgrifennydd rhyfel ac, yn y pen draw, y prif weinidog, cyfrannodd diwydiannau Cymru i ymdrech y rhyfel drwy gynhyrchu dur, diwallu’r angen am ffrwydron a bodloni gwanc aruthrol y llynges am lo ager: codwyd ffatrïoedd arfau ar hyd arfordir y gogledd, sefydlwyd Gwaith Dur Margam ger Castell-nedd ym 1916 a buddsoddwyd hefyd mewn pyllau glo. Ym mhwll glo Deep Navigation yr agorwyd y baddondai cyntaf ar ben pwll yng Nghymru. Yn eironig ddigon, fe’u seiliwyd ar gynlluniau a ddatblygwyd yn yr Almaen cyn y rhyfel ac yr oeddent yn wahanol i’r baddondai modernaidd a gynlluniwyd gan Bwyllgor Lles y Glowyr o’r 1920au ymlaen. Cofnododd y Comisiwn Brenhinol faddondai Deep Navigation fel rhan o’i arolwg o’r diwydiant glo wrth i’r diwydiant hwnnw grebachu’n gyflym yn y 1990au ac yn fuan cyn i adeiladau’r lofa gael eu dymchwel.

Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf gwelwyd dirywiad y plastai a’r ystadau mawr yn parhau. Yr oedd y broses wedi dechrau tua diwedd oes Victoria wrth i gost gynyddol llafur a chyflwyno trethi marwolaeth fygwth cyfoeth y perchnogion. Ym 1909, prynodd cyngor lleol Merthyr Tudful Gastell Cyfarthfa, hen gartref meistri haearn teulu’r Crawshays, a’i droi’n oriel ac amgueddfa. A chynifer o ddynion wedi’u galw i’r rhyfel, yr oedd y ffordd o fyw a geid ym mhlastai’r wlad fel petai’n anghydnaws â gofynion creulon y rhyfel, ac ar ôl hynny ceid trafferth i ddenu pobl i weithio i’r ystadau a’r plastai mawr ac i’w rhedeg fel cynt.

  • Ystâd Dai Glebelands, Aberdaugleddau: datblygiad consentrig a godwyd rhwng y ddau Ryfel Byd, a llain yn ei ganol. (Llun: DI2006_0564 / NPRN: 402790)
  • Deial haul yn y Groes. (Llun: DS2008_187_008 / NPRN: 403393)
  • Y Groes a’r llain, Rhiwbeina. (Llun: DS2008_187_009 / NPRN: 403393)

Yr oedd mudiad y gardd-bentrefi wedi ymsefydlu cyn y rhyfel, a dechreuwyd creu pentrefi mewn sawl man, yn enwedig yng ngardd-faestref y Barri ac yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd. Pan ddaeth y milwyr adref ar ôl y fuddugoliaeth ym 1918, disgwylient weld gwell ffordd o fyw na chynt, a chawsant addewid gan y llywodraeth y ceid gwared ar y slymiau. Yn eu lle, ceid ‘cartrefi teilwng i arwyr’. Er i bobl, yn naturiol, droi eu sylw at y dyfodol, codwyd cofeb ryfel bron ym mhob tref a phentref yng Nghymru i goffáu’r niferoedd mawr o ddynion a oedd wedi’u lladd yn y ‘rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel’. Bu colli’r dynion yn ergyd drom i gymunedau Cymraeg gan iddo arwain at ostyngiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg. Daeth rhai pobl i’r casgliad mai’r ffordd o ddiogelu diwylliant a hybu amcanion cenedlaetholdeb oedd gweithredu’n wleidyddol drwy sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, y blaid a ddaeth, yn ddiweddarach, yn Blaid Cymru. I eraill, y ffordd ymlaen oedd trefnu’r mudiad llafur ac adfywio’r blaid Lafur yn lleol ac yn San Steffan.

Blynyddoedd o wrthgyferbyniad oedd y 1920au. Er i’r trafferthion rhwng y gweithwyr a’r perchnogion, a thrafferthion y diwydiannau trwm traddodiadol, gynyddu ac er i gryn nifer o weithwyr ymfudo i drefi a dinasoedd Lloegr, bu’n gyfnod llewyrchus i rai pobl wrth i dechnolegau newydd gael eu cyflwyno ac i’r diwydiant hamdden ddatblygu. Dechreuodd y BBC ddarlledu rhaglenni radio o Gaerdydd, agorwyd purfa olew Llandarcy ger Abertawe, a chafodd gweithfeydd dur Shotton yn Sir y Fflint, a fu’n cynhyrchu ar raddfa sylweddol iawn yn ystod y rhyfel, eu haddasu i gyflenwi diwydiant newydd – y diwydiant moduron. Yr oedd cynlluniau enfawr ar y gweill i gyflenwi dŵr. Un ohonynt oedd Llyn Alwen yn Sir Ddinbych, cronfa a agorwyd ym 1921 i gyflenwi dŵr i Benbedw (Birkenhead). Codwyd cronfeydd dŵr hefyd ar y Bannau yn Nhal-y-bont (dechreuwyd ym 1923) i gyflenwi Casnewydd ac yn Llwyn-onn (a gwblhawyd ym 1926) i gyflenwi Caerdydd.

Dwy enghraifft o’r gwelliannau ym myd addysg oedd sefydlu Coleg y Brifysgol, Abertawe ym 1920 ac, ym 1927, sefydlu Coleg Harlech ym Meirionnydd yn goleg preswyl i oedolion. Serch trafferthion y diwydiant glo, datblygwyd pyllau newydd a mwy effeithlon fel Pwll Glo Taf Merthyr ym Morgannwg, a gwellwyd llawer iawn ar amodau gweithio’r glowyr wrth i faddondai gael eu codi ar ben y mwyafrif o’r pyllau glo mawr mewn cyfnod byr.

  • O’r 1920au ymlaen, codwyd baddondai ar yr wyneb yn yr arddull fodernaidd gan Bwyllgor Lles y Glowyr: dyma luniad y dyluniad gwreiddiol ym 1932 ar gyfer baddondai Pwll Glo Deep Navigation. (DI2006_0242 / NPRN: 804489)
  • Gorsaf reilffordd Pontllanio, a’r ffatri laeth y tu ôl iddi. (Llun: DI2008_0702 / NPRN: 41351)
  • Exterior view of the stair turret and Britannia Lounge at Prestatyn Holiday Camp. (Llun:DI2008_0854 / NPRN: 300218)

Erbyn canol y 1930au, yr oedd Cymru’n codi o’r dirwasgiad economaidd a sefydlwyd maes awyr Caerdydd ar Gorstir Pengam i ddod â’r cysylltiadau rhyngwladol diweddaraf i’r ddinas honno. Hwb i’r broses o foderneiddio byd amaeth oedd sefydlu’r Bwrdd Marchnata Llaeth ym 1933 gan drawsffurfio byd cynhyrchu a marchnata cynnyrch llaeth. Bu hyn yn ddatblygiad o bwys arbennig i ran helaeth o’r de-orllewin lle cynhyrchid llaeth. Agorwyd llaethdy newydd cyntaf y Bwrdd yng Nghymru ym Mhont Llanio. Wrth i’r degawd fynd rhagddo, gwelwyd arwyddion o wireddu’r addewid i godi tai wedi’r Rhyfel Byd. Gan i Ddeddf Tai 1930 ganiatáu i awdurdodau lleol ddymchwel eiddo gwael eu cyflwr cyhyd ag y ceid hyd i le arall i’r tenantiaid fyw ynddo, darparwyd tai cyngor ar raddfa fawr. A chan i’r ffyniant a’r hyder cynyddol esgor, i rai, ar ragor o amser i hamddena a mwynhau, dechreuwyd codi’r gwersylloedd gwyliau cyntaf – fel un Pontin ym Mhrestatyn ar arfordir y gogledd – yn gyrchfannau i’r rhai a heidiai yno o ardaloedd diwydiannol Prydain. Cafodd y rhaglenni radio cyntaf i’w darlledu yn Gymraeg eu gwneud gan y BBC yn ei stiwdio ym Mangor.

  •  Bwll Glo Taf Merthyr.   Fframweithiau’r offer weindio a rhan o gylch y tramiau. (Llun: DI2005_0678 / NPRN: 80488)
  • Purfa Olew newydd Llandarcy, Morgannwg, ym 1923. (Llun: AFL03 8769 / NPRN: 91695)
  • Ffatri Ordnans Caer-went ym 1999, chwe blynedd ar ôl ei chau. (Llun: GTJ26940 / NPRN: 96062)

Ym mis Medi 1934 cafwyd trychineb arall yn y diwydiant glo wrth i ffrwydrad aruthrol ddigwydd ym mhwll glo Gresffordd ger Wrecsam. Lladdwyd 266 o lowyr. O weld y crebachu yn niwydiant glo y de – a’r diffyg swyddi oherwydd hynny, yn enwedig yn yr ardaloedd fel y Rhondda a ddibynnai’n llwyr ar gynhyrchu glo – ymateb y llywodraeth oedd sefydlu Ystâd Fasnachu De Cymru a Sir Fynwy (Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn ddiweddarach) ger Caerdydd, y gyntaf o’i bath yng Nghymru, a denu diwydiannau gweithgynhyrchu ysgafn i greu swyddi yno.

Wrth i Gymru godi o fwrllwch y Dirwasgiad, crynhodd cysgodion rhyfel unwaith eto. Aethpwyd ati ar frys mawr i ail-gomisiynu cyfleusterau rhyfel a oedd wedi’u datgymalu neu wedi’u rhoi o’r neilltu ers 1918. Ychwanegwyd atynt drwy godi ffatrïoedd mawr i’r Ordnans Brenhinol yn Hirwaun, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Caer-went a Wrecsam. Codwyd cyfres o ffatrïoedd i gynorthwyo’r gwaith cynhyrchu arfau yr oedd y prif ffatrïoedd yn Lloegr yn ei wneud; cafwyd enghreifftiau ohonynt ym Mhenarlâg a Brychdyn yn y gogledd, yn y Drenewydd yn y Canolbarth ac yn Abergefenni yn y de-ddwyrain. O wybod y gallai’r rhyfel gyrraedd tir Prydain, gweithredwyd rhagofalon a mesurau amddiffynnol rhag cyrchoedd awyr, fel y rhwydwaith o orsafoedd radar a godwyd ar hyd arfordir y de yn Strumble Head, Maenorbŷr, Rhosili, Oxwich, a Margam, y llinell atal wrth-oresgyniad o’r Rhos i Langeler ar draws y de-orllewin, ac amryw o gaerau tanddaearol o goncrid cyfnerthedig mewn mannau strategol ar hyd a lled y wlad, megis pontydd, dociau a’r rheilffyrdd a’u hadeiladau. Yr oedd rhai o’r ffatrïoedd yn anferth ac yr oedd gan y fyddin wersylloedd enfawr, gan gynnwys gwersylloedd y carcharorion rhyfel fel un Island Farm ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a meysydd awyr fel maes awyr Breudeth yn Sir Benfro.

Gan fod perygl y câi henebion pensaernïol pwysig eu bomio o’r awyr, a chan y gallai unrhyw oresgyniad fygwth adeiladau cyffredin o lawer math, sefydlwyd y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol (yr NBR) ym 1940 i greu cofnod ffotograffig ohonynt. Yn y pen draw, aeth y Cofnod hwnnw’n rhan o Gofnodion Henebion Cenedlaethol y tri Chomisiwn Brenhinol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Y de diwydiannol, a’i ddiwydiannau strategol a’i lwybrau cludiant a’i ddociau hollbwysig, a drawyd waethaf gan fomiau’r gelyn: dioddefodd Caerdydd yn enbyd a chanlyniad tair noson olynol o ymosod ar Abertawe ym mis Chwefror 1941 oedd chwalu llawer iawn o ganol y dref honno.

Ar ôl i Brydain sicrhau buddugoliaeth ym 1945, etholwyd llywodraeth Lafur i foderneiddio’r wlad. Cafwyd llu o gynlluniau gwladoli ganddi, yn arbennig ar gyfer cludiant, y dociau a’r diwydiannau glo a haearn, a rhoddwyd cymorthdaliadau a benthyciadau i hybu sefydlu ystadau diwydiannol newydd, llawer ohonynt ar hen safleoedd milwrol. Y bwriad pendant iawn, y tro hwn, fyddai sicrhau na welid ail-fyw’r gorffennol na diweithdra torfol y degawdau blaenorol.