Hanes Milwrol
Oherwydd styfnigrwydd gwrthsafiad y brodorion dan arweinwyr fel Caradog, fe gymerodd hi ddeg mlynedd ar hugain a rhagor (OC 47-77) i’r Rhufeinwyr wastrodi llwythau Cymru. Ond pan drechodd y llywodraethwr Agricola wrthryfel yr Ordoficiaid yn OC 77, daeth terfyn ar y brwydro mawr, ac mae’n debyg mai hanes milwrol Cymru o hynny tan y bedwaredd ganrif oedd bod rheolaeth dynn y wlad o’r caerau llengol strategol yng Nghaer a Chaerllion. Codwyd rhwydwaith o gaerau llai i gadw cyfraith a threfn, mae’n wir, ond prinhau mwy a mwy wnaethon nhw ymhen hir a hwyr.
Er nad oes gennym ni ddarlun cyflawn o’r sefyllfa o hyd, y cyfnod dwysaf o sefydlu garsiynau oedd hwnnw ar ôl y goncwest derfynol. Ymhen ychydig flynyddoedd, serch hynny, cafodd rhai unedau milwrol eu symud o Gymru i ogledd Prydain. Cyflymwyd y broses honno yn OC 110-25, yn rhannol oherwydd trefniadau newydd yr ymerawdwr Hadrian ynglŷn â’r ffin yno. Ac wrth i’r fyddin Rufeinig fentro i’r Alban o dan Antoninus Pius tua chanol yr ail ganrif, gwelwyd newid pellach ar y garsiynau yng Nghymru wrth i ragor o lengfilwyr ymadael. Mae’r ffaith na chadwyd ond ambell un o’r caerau a godwyd yng nghanolbarth Cymru ac yn Segontium ar arfordir y gogledd yn awgrymu bod angen rheoli rhywfaint ar drigolion y cyffiniau hynny.
Yn gynnar yn y drydedd ganrif fe rannodd Caracalla Brydain yn ddwy dalaith a chynnwys Cymru yn Britannia Superior. Er i nifer y milwyr newid – er enghraifft, drwy ddychwelyd nifer fawr o legio II Augusta i Gaerllion - digon prin oedd y milwyr yng ngweddill y wlad o hyd, ac ar ôl OC 230 aethant yn brinnach eto. Tua diwedd y drydedd ganrif gwelwyd datblygiad newydd, sef bod angen amddiffyn yr arfordir rhag ymosodiadau o’r môr. Yr ymateb i hynny oedd codi caer, tebyg i gaerau glan-môr y Sacsoniaid, yng Nghaerdydd ac ailwampio’r garsiynau mewn mannau eraill. Nid yw’n glir pryd y tynnwyd y garsiwn llengol o Gaerllion am y tro olaf. Efallai i hynny ddigwydd erbyn diwedd y drydedd ganrif, ond fe all fod dyrnaid o filwyr fod wedi’u gadael yno tan mor hwyr â chanol y bedwaredd ganrif.
Mae’n debyg mai prif ddiben cadw lluoedd milwrol yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caergybi a Chaerhun yn y bedwaredd ganrif oedd gwrthsefyll yr ymosodiadau parhaus gan luoedd o Iwerddon. Bu newid mawr yn y cynllun ar gyfer Ffordyn yn OC 364-78 oherwydd argyfwng na wyddom ni ddim oll amdano. Mae’n debyg i’r milwyr adael gweddill y caerau milwrol tuag OC 393 am fod eu hangen i wrthsefyll gwrthryfel yng Ngâl. Mae peth tystiolaeth bosibl i filwyr gael eu gadael yma i warchod trefi Caerfyrddin a Chaerwent hyd at ran gyntaf y bumed ganrif.