Treftadaeth Cymru

Cymdeithas Oes Fictoria

Ym 1918 ysgrifennodd Lytton Strachey, yn ei gyfrol Eminent Victorians, 'The history of the Victorian Age will never be written: we know too much about it. For ignorance is the first requisite of the historian — ignorance, which simplifies and clarifies, which selects and omits, with a placid perfection unattainable by the highest art.’ Roedd Oes Fictoria yn gyfnod cythryblus a gwyddom gryn dipyn amdani, ond mae rhai o'i themâu pwysicaf yn cael eu harchwilio o hyd. Mae adeiladau a thirwedd Cymru yn adnoddau pwysig er mwyn deall y prosesau a drawsnewidiodd y wlad.

Bu teyrnasiad y Frenhines Fictoria o 1837 i 1901 yn gyfnod o ddatblygiad cymdeithasol, deallusol a thechnolegol rhyfeddol. Roedd yn oes o ddiwydiant, cyfoeth a diwygio cymdeithasol. Yn sgîl cynnydd sylweddol yn y boblogaeth ynghyd â mudo torfol, bu newid yn yr ardaloedd trefol ac yn y cefngwlad. Arweiniodd cyfoeth newydd a ddeilliodd o ddiwydiant a masnach gydwladol at dwf dosbarth canol wrth i'r economi gael ei thrawsnewid o un a oedd yn seiliedig ar amaethyddiaeth yn bennaf i economi a lywiwyd gan gyfalafiaeth ac entrepreneuriaeth, ac, ar yr un pryd, cryfhawyd hunaniaeth y dosbarth gweithiol diwydiannol newydd. Denodd cymoedd de Cymru ddegau o filoedd o bobl i weithio yn y diwydiannau glo a haearn, ac ehangodd cymunedau'r chwareli llechi yn y gogledd yn gyflym hefyd.

  • Yr argraffiad cyntaf (1881) o fap 25-modfedd yr Arolwg Ordnans o Gaerdydd sy'n dangos y patrwm a ddilynwyd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth godi tai teras i'r gweithwyr o amgylch y brif reilfford yn y rhath,y Sblot ac adamsdown  GL.MMXXXVII (Llun: DI2008_0541)
  • Codi Traphont Crymlyn ym 1856. (Llun: DI2008_0531 / NPRN: 34959)
  • ffotograff hanesyddol a dynnwyd tua 1915 o injan Glo Ocean Deep Navigation, Treharris, Merthyr tudful (o gasgliad John Cornwell) (Llun: GTJ28935 / NPRN:80489)

Bu'r rheilffyrdd o gymorth i dwf diwydiannau yng Nghymru, ac erbyn yr 1870au roedd y rhwydwaith newydd yn fodd i bobl o bob dosbarth cymdeithasol fwynhau teithio a thwristiaeth. Roedd yn anochel y byddai agweddau negyddol i newidiadau mor sylfaenol, a gwelwyd caledi cymdeithasol a budrelwa hefyd yng Nghymru Oes Fictoria. Yng nghanol y ganrif dechreuodd deddfwriaeth osod rheolau ar yr amodau gwaith erchyll. Dilynwyd hynny gan ymdrechion i ddiwygio iechyd cyhoeddus, cyflwr y gymdeithas ac addysg. Ystyriwyd mesurau o'r fath fel modd o leddfu'r aflonyddwch yn y gymdeithas a oedd wedi codi'n flaenorol ar ffurf Merched Beca, Gwrthryfel Merthyr a mudiad y Siartwyr.

Twf cyflym maes glo de Cymru oedd nodwedd amlycaf datblygiad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er y cloddiwyd glo ers nifer o flynyddoedd ar gyrion y maes glo, fel tanwydd ar gyfer mwyndoddi haearn neu gopr, yn yr 1840au a'r 1850au cloddiwyd y maes glo canolog a dechreuodd masnach gydwladol mewn glo stêm, a hyrwyddwyd gan ddyfodiad y rheilffyrdd ac adeiladu dociau yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Cynyddodd y cynnyrch o'r cymoedd o tua 4.5 miliwn tunnell ym 1840 i 8.5 miliwn ym 1854 a mwy na 50 miliwn erbyn 1912. Daeth cymoedd y Rhondda yn arbennig o enwog am domenni glo du, offer pen pwll a rhes ar ôl rhes o dai teras glowyr. Mudodd gweithwyr o bob rhan o Ynysoedd Prydain ond yn enwedig o gefngwlad Cymru ac ardaloedd amaethyddol y tu hwnt i aber afon Hafren. Rhwng 1851 a 1910 cynyddodd poblogaeth y Rhondda o tua 1,000 i fwy na 150,000.

Datblygodd diwydiannau eraill ochr yn ochr â'r diwydiant glo. Drwy'r rhan fwyaf o Oes Fictoria, Cymru oedd cynhyrchydd llechi, metelau anfferrus, haearn a thunplat pwysicaf y byd, ac roedd hefyd yn wlad bwysig o ran cynhyrchu dur. Yn ogystal ffynnodd diwydiannau ategol fel gweithiau brics a theils, peirianneg, trafnidiaeth a bragu. Buddsoddodd diwydianwyr, masnachwyr a thirfeddianwyr lawer o'u cyfoeth yn seilwaith y rheilffyrdd, dociau a threfi.

  • Ffotograff cynnar o gasgliad John Cornwell sy'n dangos y pyllau glo a suddwyd gan David Davies yng Nglynrhedyn yn y Rhondda i godi glo stêm ohonynt. Codwyd y terasau uwchlaw'r pyllau glo i gartrefu'r mewnlifiad o lowyr a'u teuluoedd. (Llun: DI2008_0535 / NPRN:80496)
  • Mae Chwarel y Penrhyn yn Sir Gaernarfon wedi cynhyrchu llechi'n ddi-dor oddi ar y ddeunawfed gabrif. Er bod gwasstraff bron â llenwi hen wynebau a lefelau'r chwarel (gwaelod, de) gellir gweld olion y melinau, y gweithdai hollti a'r inclein. (Llun: DI2007_1578 / NPRN: 40564)
  • Melin lechi Ynys-y-pandy, Dolbenmaen (llun: DS2007_280_002 / NPRN: 40572)

Yn ogystal ceisiodd cyfoethogion oes Fictoria fodloni eu chwaeth a'u diddordebau eu hunain, ac nid oedd diffyg arian yn broblem i nifer ohonynt. Gallent wireddu eu breuddwyd drwy adeiladu plastai moethus - erys Castell Coch yr Ardalydd Bute yn enghraifft wych. Roedd gwaith adeiladu plastai ar ei anterth yn ystod y blynyddoedd rhwng 1855 a 1875. Nid oedd un arddull yn rhagori a châi penseiri ryddid i arbrofi. Roedd cynlluniau tai oes Fictoria yn amrywio o ran arddull. Yn eu plith ceid clasuriaeth Eidalaidd ym Mhenoyre (Powys), arddull y Dadeni Ffrengig yn Wynnstay (Wrecsam), arddull Adfywiad Gothig Ffrengig yn Hafodunos (Sir Ddinbych), arddull Sbaenaedd yn Neuadd Sychdyn (Sir y Fflint) ac arddull Adfywiad y Frenhines Anne ym Mharc Cinmel (Sir Ddinbych) gyda'i doeon mansard uchel a'i ffenestri dormer.

Codwyd Hafodunos, adeilad Gradd Un, rhwng 1861 a 1868 ar gyfer y masnachwr cyfoethog o Lerpwl, H. R. Sandbach, gan Syr Gilbert Scott, a oedd yn enwog am gynllunio Gwesty St Pancras a'r Swyddfa Dramor yn Llundain. Er ei le blaenllaw yn yr Adfywiad Gothig yng nghanol oes Fictoria, dim ond yr un plasty hwn a gynlluniwyd gan Scott yng Nghymru. Defnyddiodd arddull gynnil yn ôl dull Ffrengig diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, fel y dengys yr ardd flaen gymesur, er iddo ychwanegu nodweddion toreithiog i'r adeilad talcen wythochrog (sy'n awgrymu cegin ganoloesol fel eiddo Ynys Wydrin ond sydd mewn gwirionedd yn ystafell filiards yn cael ei golau oddi uchod) a meindwr o waith agored dros dŵr y cloc yn y cefn. Adfeiliodd y tŷ yn ddifrifol ac fe'i difrodwyd gan dân yn 2004, ffaith sy'n ychwanegu at bwysigrwydd yr archif ffotograffau a gedwir gan y Comisiwn Brenhinol.

  • Parlwr wythonglog Castell Coch (Llun: DI2006_1486 / NPRN: 93112)
  • Codwyd Hafodunos ym 1861-8 gan ddilyn cynllun Syr Gilbert Scott. (Llun: DI2005_0768 / NPRN: 27268)
  • Mantell hynod Ramantaidd simnai'r neuadd wledda yng Nghastell Caerdydd (Llun: DI2008_0460 / NPRN: 33)

Gwariodd landlordiaid ystadau mawr lawer o'u harian ar welliannau, nid yn unig i'w plastai ysblennydd a'u gerddi ond hefyd i ffermydd, pentrefi’r ystadau, ffyrdd a phontydd. Ystyriwyd eu hystadau fel arwydd allanol o'u dyhead am amlygrwydd cymdeithasol, a gorwariodd rhai ohonynt. Ar ôl cwblhau ei dŷ yn yr arddull Adfywiad Gothig yn Nhre'r-llai ger y Trallwng ym 1851, aeth y bancwr John Naylor ati i adeiladu fferm lle arbrofodd gyda nifer o dechnolegau newydd yr oes. Gwariodd ei gymydog, iarll Powis, bron chwarter ei renti ar wella ei ystad ei hun rhwng 1859 a 1875, gan helpu i'w chynnal drwy ddirwasgiad amaethyddol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan effeithiwyd ar nifer o dirfeddianwyr gan gynaeafau gwael a chynnydd mewnforion o Ogledd America ac Awstralasia. Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cadw casgliad o fanylion gwerthiannau ystadau o'r cyfnod hwn sy'n dangos maint ystadau o'r fath ac, yn ogystal, effaith y dirwasgiad. Symudodd llawer o denantiaid a llafurwyr i'r trefi a'r ardaloedd diwydiannol i chwilio am waith.

  • Fferm fodel Leighton Park (Llun: DI2007_1401 / NPRN: 80542)
  • Manylion gwerthu ystâd Hean ym 1898. Arweiniodd cyfres o fuddsoddiadau gwael at chwalu'r ystâd gwta ugain mlynedd ar ôl codi'r plasty castellog gothig Tuduraidd hwn. (Llun: DI2008_0544 / NPRN: 22044)
  • Y Cwt leir, Leighton Park. (Llun:DI2008_0847 / NPRN: 85876)

Yn ystod y ddeunawfed ganrif adeiladwyd tai rhad yn yr ardaloedd haearn, gan deuluoedd fel y Crawshays ym Merthyr Tudful, ar gyfer y bobl a oedd wedi heidio i’r ardaloedd diwydiannol. Ym 1866 gorfodwyd awdurdodau lleol gan y Ddeddf Glanweithdra i wella amodau byw drwy agor carthffosydd, darparu dŵr a glanhau strydoedd. Diffiniwyd gorlanw am y tro cyntaf a phenodwyd arolygwyr glanweithdra. Roedd y Ddeddf hon, ynghyd ag is-ddeddfau lleol, yn golygu bod y rhan fwyaf o dai gweithwyr a adeiladwyd o'r 1870au ymlaen wedi'u cynllunio a'u hadeiladu yn llawer gwell na'r bythynnod sy'n gysylltiedig â'r diwydiant haearn ganrif yn gynt neu anheddau cyntefig y werin wledig.

Adeiladwyd y rhan fwyaf o dai’r gweithwyr yn ne Cymru yn oes Fictoria gan gwmnïau adeiladu preifat yn hytrach na chyflogwyr diwydiannol. Sefydlwyd Clybiau Adeiladu i helpu teuluoedd i gynilo i brynu eu tai, ond roedd llawer o bobl yn rhentu gan landlordiaid preifat neu gan ddiwydianwyr. Wrth i gyflogau gynyddu, am y tro cyntaf roedd pobl gyffredin yn gallu cynilo arian neu wario'r gwarged ar bethau heblaw hanfodion bywyd. Roedd y sawl a oedd yn ennill cyflogau gwell yn dyheu am brynu tŷ ar wahân neu fila â gardd breifat - adeiladwyd maestrefi â pharciau coediog a mannau agored mewn lleoedd megis y Rhath, Pontcanna, Parc Fictoria a Phenarth yng nghyffiniau Caerdydd, a Sgeti a Threforys ger Abertawe.

  • Terasau o’r tai a godwyd yn y Sblot, Caerdydd, yn ystod y 1880au i gartrefu’r gweithwyr dur a’u teuluoedd. (Llun: DI2006_1810 / NPRN: 309003)
  • Crëwyd Parc Victoria, Caerdydd ym 1897-9 i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Victoria. Hwn oedd y parc dinesig cyntaf yng Nghaerdydd, ac un o’r rhai cyntaf yn y wlad. (Llun: AP_2006_1815 / NPRN: 301658)

Er i'r wladwriaeth ddechrau ymyrryd ym mhroblem lles y gymdeithas yn ystod oes Fictoria, roedd ei sefydliadau yn bur annigonol yn ôl safonau modern. Roedd y tlotai, gwallgofdai, carchardai ac ysbytai yn cadw'r preswylwyr ar wahân i weddill cymdeithas.

Tlotai oedd unig ffynhonnell bwyd a lloches i nifer o bobl sâl a’r oedrannus ond roedd amgylchiadau'n gosbol a rhannwyd teuluoedd. Wedi Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion 1834 sefydlodd plwyfi dlotai yn lle dosbarthu cymorth y tlodion ar ffurf arian, bwyd a blancedi, ond roedd y broses yn un raddol. Mor ddiweddar â 1845 cofnododd Comisiynwyr Cyfraith y Tlodion nad oedd gan 17 o'r 47 undeb Cyfraith y Tlodion yng Nghymru 'unrhyw dlotai effeithiol yn gweithredu, ac nid tan 1879 y cyfymffurfiodd Rhaeadr Gwy â'r ddeddfwriaeth drwy adeiladu tloty ar gyfer ei thlodion.

O ran ysbytai, sylwodd The Builder ym 1858 nad oedd gofal cleifion yn flaenoriaeth yn y rhan fwyaf ohonynt, a byddai gan bobl well cyfle o gael iachâd ‘drwy orwedd yn yr awyr agored’. Defnyddiwyd gwallgofdai fel mannau i gadw pobl dlawd a sâl, ac yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roeddent yn dal ar agor i ymwelwyr chwilfrydig i fynd i syllu ar y cleifion.

Mor ddiweddar â 1844 roedd y Comisiynwyr Gwallgofrwydd yn dod o hyd i ddynion a merched mewn celloedd tywyll wedi'u rhwymo i welyau neu gadeiriau, er bod creulondeb eithafol y ganrif flaenorol wedi diflannu i raddau helaeth. Wrth i oes Fictoria fynd rhagddi, cymeradwywyd dulliau fel gweithgareddau therapiwtig, diwydrwydd ac amynedd. Roedd y syniadau tadol newydd yn cael eu hadlewyrchu yn y bensaerniaeth: roedd rhai sefydliadau'n ymddangos mwy fel plastai na chyfleusterau meddygol, gyda ffermydd, porthdai a chapeli yn gysylltiedig â hwy.

  • Y Warden a Mrs Nugent gyda’r staff a’r plant yn nhloty Castell Albro ym 1927. (Llun: DI2008_0248 / NPRN: 3041)
  • Cefn tloty Castell Albro gan ddangos ffurf ‘H’ ei gynllun. (Llun: DI2008_0247 / NPRN: 3041)
  • Awyrlun sy’n dangos y cyrtiau awyru a’r wylfa ganolog yn nhloty Llanfyllin, Sir Drefaldwyn. (Llun: AP_2004_ 0601 / NPRN: 32044)

Gwelodd y gymdeithas dwf enfawr yn y bywyd crefyddol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda chodi capeli anghydffurfiol yn nodwedd amlwg yng Nghymru. Erbyn 1851 nododd y cyfrifiad ar grefydd bod 2,813 o gapeli yng Nghymru - adeiladwyd un capel pob wyth diwrnod ar gyfartaledd dros yr hanner canrif flaenorol.

Roedd y mwyafrif o'r eglwysi plwyf yn bell o'r cymdogaethau diwydiannol newydd. Araf fu’r Eglwys sefydledig i addasu, er y bu twf graddol mewn adeiladu eglwysi. Fodd bynnag, dewisodd y mwyafrif o bobl Cymru fynychu capeli. Roedd oedfaon mewn Capeli yn pwysleisio'r unigolyn, ac roeddent yn lleoedd cynhyrfus a oedd yn caniatáu i leygwyr gael rhan amlwg, gan roi iddynt ymdeimlad o hunanwerth y teimlent eu bod yn amddifad ohono yn yr Eglwys sefydledig. Honnwyd erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg: ‘the Non-conformists of Wales are the people of Wales’. Daethant i reoli pob agwedd ar fywyd.

Yn etholiad cyffredinol 1852 etholwyd Walter Coffin, yr Aelod Seneddol Undodaidd cyntaf, i gynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd. Daeth anghydffurfiaeth yn rhan annatod o deithi’r cyfnod o ran gwerth yr unigolyn, cefnogaeth i addysg a throi’r Cymry yn bobl wleidyddol.

Roedd nifer o’r capeli mwyaf yn cynnwys adeiladau ychwanegol fel ysgoldy, festri, t’r gweinidog, ystafelloedd cyfarfod, llyfrgell a stablau, - er enghraifft Capel Methodistiaid Calfinaidd Moreia yn Llangefni, Ynys Môn. Daeth capeli o'r fath yn ganolfannau i’r gymdogaeth, yn llawn ar y Sul ond hefyd yn cael eu defnyddio drwy'r wythnos ar gyfer cyfarfodydd, hyfforddiant ac eisteddfodau.

O ran cynllun roeddent yn wahanol i eglwysi Anglicanaidd gan fod pob capel yn cael ei ystyried fel awditoriwm lle roedd y gynulleidfa yn dod at ei gilydd i wrando ar air Duw yn hytrach nag arfer defodau litwrgïaidd. Nid oedd anghydffurfwyr yn pryderu am gyfeiriad cynllun eu hadeiladau ac nid oedd rheidrwydd gosod pulpud yn y pen dwyreiniol: yn hytrach, tueddwyd i'w osod wrth wal gefn y capel gyda'r sedd fawr ar gyfer blaenoriaid neu ddiaconiaid y capel yn union o'i flaen. Yn aml roedd galeri dair ochrog i ddarparu ar gyfer cynulleidfa fawr. Ar y bedwaredd ochr, gyferbyn â'r fynedfa, adeiladodd rhai o'r cynulleidfaoedd mwy cefnog organ fawreddog.

Roedd capeli'n amrywio'n fawr o ran eu golwg allanol. Er bod gan gynllunwyr capeli megis Thomas Thomas, William Beddoe Rees a Richard Owens eu harddull arbennig, yn aml y gweinidog a'r gynulleidfa a oedd yn gyfrifol am ddewis arddull eu hadeilad ar ôl chwilio mewn catalogau pensaernïaeth neu weld capeli eraill. Arweiniodd hyn at gyfosodiadau rhyfedd o bensaernïaeth y gorffennol. Crëwyd cyfuniadau o arddulliau Gothig, Lombardaidd, Clasurol a Groegaidd gan ddenu nifer o sylwadau anffafriol gan feirniaid pensaernïol.

Golygai’r gystadleuaeth ymhlith yr enwadau, ynghyd â'r brwdfrydedd a ddaeth yn sgîl diwygiad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod capeli yn gweld cyfres o newidiadau, gan amrywio o ffasâd newydd i ail-gynllunio llwyr. Nid ystyriwyd adeiladwaith y capel fel rhywbeth sanctaidd; roedd ond yn dŷ cwrdd i'w addasu, ei ehangu neu ei ddymchwel. Gosodwyd carreg, mewn lle amlwg ar du blaen nifer o gapeli, i gofnodi dyddiad eu sefydlu, eu hailadeiladu, eu ehangu a’u hadnewyddu.

  • Cynllun Moreia, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llangefni, Môn, a arolygwyd fel rhan o’r Prosiect Arolygu Capeli. Fe’i codwyd yn gapel coffa i’r pregethwr a’r gweinidog John Elias gan ddilyn cynlluniau Owen Morris Roberts, Porthmadog. Ymhlith y casgliad mawr o adeiladau’r capel yr oedd festri, amrywiol ysgoldai, ystafelloedd i’r gweinidog a th? capel. (Llun: GTJ00013 / NPRN: 8783)
  • Codwyd Seion, Capel yr Annibynwyr, Aberystwyth, ym 1814-15 yn wreiddiol ac yna’i ail-godi ym 1876-78 gan ddilyn cynlluniau Richard Owens, Lerpwl. Mae’n adeilad rhestredig gradd 2 a cheir ynddo oriel ac arcêd arbennig o gain. (Llun: DI2006_0268 / NPRN: 7147)
  • Y Tabernacl, capel yr Annibynwyr, Llanelli (Llun: DI2006_0297 / NPRN: 6429)

FDidolwyd plant ysgol, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar

sail rhyw, dosbarth a chrefydd. Cymharol brin oedd nifer y merched a

dderbyniodd unrhyw addysg ffurfiol. Addysgwyd meibion teuluoedd cefnog

yn eu cartrefi neu mewn ysgolion preifat. Roedd bechgyn dosbarth canol

yn tueddu i fynd i ysgolion bach lleol lle roedd gofyn iddynt dalu am

eu haddysg. Cyfyngwyd meibion teuluoedd tlawd i ysgolion elusennol, neu

i ysgolion Sul. Ni chafodd eraill unrhyw addysg o gwbl. Sefydlwyd

ysgolion elusennol megis y rheini a gynhelid gan y Gymdeithas

Genedlaethol er Hyrwyddo Addysg y Tlodion yn Egwyddorion yr Eglwys

Sefydledig neu gan y Gymdeithas Brydeinig a Thramor er mwyn hyrwyddo

addysg elfennol, ac adeiladwyd nifer fawr o'r ysgolion hyn yn ystod

hanner cyntaf y ganrif.

Fodd bynnag, roedd cynnydd yn araf, fel yr awgrymodd y Llyfrau Gleision yn ddadleuol ym 1847 mewn adroddiad beirniadol ar addysg yng Nghymru. Portreadwyd y Cymry fel pobl ‘ill-educated, poor, dirty, unchaste, and potentially rebellious’. Priodolwyd hyn yn bennaf i effaith yr iaith Gymraeg ac anghydffurfiaeth. Roedd y mwyafrif o'r dosbarth gweithiol yn siaradwyr Cymraeg uniaith, ond cynhaliwyd y gwersi drwy gyfrwng y Saesneg. Ni chai'r athrawon hyfforddiant, ac ychydig o grantiau’r llywodraeth a ddaeth i ran ysgolion Cymru. Nodwyd yn yr 1840au fod safon llythrennedd mor wael yng Nghymru fel mai prin hanner yr holl briodfeibion a oedd yn gallu llofnodi eu henwau ar y gofrestr priodasau.

Erbyn 1870 bu newid sylweddol yng Nghymru o ran agweddau tuag at addysg elfennol. Hyd yn oed yn ne Cymru, lle roedd plant a oedd yn gweithio mewn diwydiant yn dod ag incwm hollbwysig i'w teuluoedd, adeiladwyd 102 o Ysgolion Prydeinig rhwng 1853 a 1860. Roedd ysgolion yn tueddu i fod â’u nodweddion pensaernïïol arbennig, gyda ffenestri uchel a thŵr cloch, fel y gwelir yn yr hen ysgol yn y Borth, Ceredigion. Tybiwyd mai’r arddull gothig, un gadarn a mawreddog, oedd yr arddull briodol, fel yr argymhellwyd gan Henry Kendall yn ei Designs for Schools ym 1847.

Darparodd rhai diwydianwyr ysgolion lle gallai eu gweithwyr cyflog anfon eu plant, ond prin oedd y bechgyn neu'r merched a fyddai'n aros ynddynt am fwy na blwyddyn neu ddwy wrth i rieni eu tynnu allan o'r ysgol er mwyn iddynt ddechrau gweithio. Nid tan Ddeddf Ehangu Deddfau'r Ffatrïoedd 1867 y gwaharddwyd plant rhwng 8 a 13 rhag gwaith nos a'u gorfodi i fynychu'r ysgol am hanner yr amser. Creodd hyn, ynghyd â Deddf Addysg 1870, rwydwaith o ysgolion elfennol ledled Cymru. Am y tro cyntaf ystyriwyd addysg fel cyfrifoldeb y wladwriaeth yn hytrach na chyfrifoldeb gwirfoddolwyr, a rhannwyd y wlad yn rhanbarthau i adeiladu'r Ysgolion Bwrdd newydd. Ymgorfforwyd Ysgolion Prydeinig yng nghyfundrefn y Byrddau Ysgol ond arhosodd yr Ysgolion Cenedlaethol yn annibynnol. Adeiladwyd nifer o ysgolion sir yn dilyn Deddf Addysg Canolradd Cymru ym 1889. Erbyn 1902 roedd gan Gymru 95 o ysgolion canolradd gyda'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn dod o gefndir dosbarth canol is a’r dosbarth gweithiol.

Cyflwynwyd addysg uwch i Gymru yn ystod y cyfnod, a sefydlwyd Prifysgol Cymru ym 1893 fel corff dyfarnu graddau. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y nododd yr hanesydd John Davies, roedd mwy o gyfleoedd i dderbyn addysg academaidd yng Nghymru nag yn Lloegr.