Gan i Gymru, mae’n debyg, weld cryn ddirywiad yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Efydd, un o nodweddion yr Oes Haearn, a ddechreuodd tua 700 CC, oedd y cystadlu cynyddol am fwyd a’r gwrthdaro rhwng pobloedd a oedd yn gymdogion i’w gilydd. Dangosir hynny’n fwyaf byw yn y cynnydd mawr yn nifer yr aneddiadau amddiffynedig. Tra oedd y wlad yn nwylo’r Rhufeiniaid o ryw OC 47 tan ryw OC 410, gwelwyd newidiadau sylweddol yn y dirwedd, ond hefyd lawer o barhad yn natur bywyd bob-dydd y rhan fwyaf o’r bobl.
Mae ein dealltwriaeth o’r Oes Haearn – y canrifoedd hollbwysig cyn dyfodiad y Rhufeiniaid – wedi datblygu cryn dipyn. Yn draddodiadol, cysylltid y cyfnod â dyfodiad offer haearn, datblygiad mathau newydd o aneddiadau amddiffynedig, ac absenoldeb yr henebion defodol a fu â lle mor amlwg iddynt cynt. Er bod hyn fel petai’n awgrymu mai’r ymateb i’r dirywiad yn yr hinsawdd oedd ceisio gwarchod mwy ar diriogaeth, a bod yn fwy ymosodol, mae’r newidiadau cymhleth yn y dirwedd yn awgrymu na ddigwyddodd toriad sydyn ar ddechrau’r Oes Haearn. Yr oedd yn adeg o ddatblygu cymdeithas fwyfwy cymhleth, o ymdrechu dygn i godi aneddiadau cymunedol, ac o gyflawni campau wrth weithio metelau ac ym myd celf. Drwy fasnachu dros bellteroedd maith, meithrinwyd cysylltiadau â rhannau o Ewrop, gan gynnwys rhai â’r ymerodraeth Rufeinig a oedd ar ei phrifiant. Er bod y term ‘Celtaidd’ yn un cryno a defnyddiol, ac er i draddodiadau Celtaidd ddylanwadu ar fynegiant artistig, ar iaith ac, efallai, ar adeiladweithiau cymdeithasol a dulliau o etifeddu ar draws rhan helaeth o Ewrop, nid diwylliant unffurf mohono. Yr oedd arweinwyr lleol a rhanbarthol yn llywodraethu dros diriogaethau go bendant a allai fod wedi’u hanheddu a’u hamaethu lawn mor ddwys ag a ddigwyddodd yn ddiweddarach. Ceir hyd i aneddiadau hyd heddiw, ac mae’r rhai ar diroedd isel, yn arbennig, yn cyfrannu at ddeall dwyseddau posibl y boblogaeth a’r rhaniadau tiriogaethol.
Er mai bryngaerau sydd wedi bod yn brif destun yr ymchwil i’r Oes Haearn ers amser maith, nid yw’r adeiladweithiau cymhleth hynny ond yr amlycaf o’r amrywiaeth o lociau amddiffynedig sy’n dyddio o’r cyfnod, llociau sy’n amrywio o ran eu maint a’u cymeriad o gaerau crwn a rathau ar dir isel Sir Benfro i’r bryngaerau mawr o bridd yn y Canolbarth a’r gororau a’r cadarnleoedd a godwyd o gerrig yn y gogledd a phenrhyn Llŷn. Ym 1975, ysgrifennodd A. H. A. Hogg o’r Comisiwn Brenhinol, gŵr a dreuliodd lawer o’i oes yn datblygu’r astudiaeth o fryngaerau Prydain, ‘No archaeologist is satisfied with the term… the enclosures may have corresponded to anything from a cattle kraal to a small town, but were seldom exclusively military.’ Yng Nghymru, llociau ar gopa bryn oeddent fel rheol a chaent eu hamddiffyn yn gadarn drwy godi rhagfuriau o bridd neu gerrig o’u hamgylch a gosod palisadau pren ar ben y rheiny. Eid i mewn iddynt drwy byrth ac iddynt amddiffynfeydd sylweddol. Yn y llociau, ceid tai crwn â tho gwellt, ysguboriau dyrchafedig, gefeiliau a llecynnau diwydiannol.
Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd astudio bryngaerau Cymru wrth i Wynne Ffoulkes weithio ar rai Clwyd ac i S. Baring Gould astudio rhai Sir Benfro. [5-5-1]Er i Inventories cynnar y Comisiwn Brenhinol ddisgrifio bryngaerau, prin oedd y ddealltwriaeth ohonynt mewn termau archaeolegol. Parheid i dybio cyn yr Ail Ryfel Byd iddynt gael eu codi gan ymfudwyr a oedd wedi dod i dde Lloegr ac yna wedi ymledu i weddill Lloegr ac i Gymru. Mae’n amlwg bellach nad felly y bu. Creadigaethau brodorol oedd y bryngaerau, ond dylanwadodd datblygiadau ar dir mawr Ewrop arnynt. Er y dangoswyd i rai ohonynt gael eu codi tua diwedd yr Oes Efydd, mae’n fwy na thebyg mai yn ystod canrifoedd olaf yr Oes Haearn y codwyd y rhan fwyaf ohonynt, a hynny wrth i’r cyfoeth a gafwyd o’r tir gynyddu ac i arweinwyr grymus gyfnerthu eu tiriogaethau. Parhaodd pobl i fyw mewn llawer ohonynt yn ystod y cyfnodau Brythonig-Rufeinig, a gwelsant gryn lewyrch.
Diben amddiffynfeydd trawiadol y mynedfeydd a’r pyrth, hyd yn oed mewn bryngaerau bach, oedd dychryn y sawl a geisiai ymosod arnynt a chyfleu eu grym a’u statws eu hunain. Yn syth ar ôl cael eu codi, byddai’r rhagfuriau a’r mynedfeydd wedi bod hyd yn oed yn fwy trawiadol nag ydynt heddiw. Yr oedd y rhai mwyaf ohonynt yn fawr iawn, a’r ymdrech i’w creu yn fwy nag unrhyw ymdrech debyg cynt. Cam pellach, efallai, i’w diogelu fyddai gosod marchbigau, sef cerrig neu staciau pren unionsyth, y tu allan i’r rhagfuriau. Heblaw am lond dwrn o enghreifftiau yng Ngwynedd a Sir Benfro, prin yw’r rhai sydd i’w cael yng Nghymru ond fe all fod rhagor ohonynt o’r golwg o hyd - a phrin, yn arbennig, fydd olion marchbigau pren. Er hynny, gellir dal i ddadlau ynghylch diben bryngaerau: a ddylid eu hystyried yn gadarnleoedd milwrol mewn byd peryglus neu’n ffermydd a phentrefi yr oedd eu cryfder ymddangosiadol wedi’i gynllunio i ddychryn unrhyw ymosodwr. Mae’r darganfyddiadau a gafwyd wrth gloddio, a darganfyddiadau ar hap, yn dangos bod gan lawer bryngaer y taflegryn mwyaf sylfaenol - ond effeithiol - sef y garreg dafl. Mewn dwylo profiadol, gellid ei saethu’n gywir ac yn angheuol hyd at 60-100 metr. Mae disgrifiadau haneswyr Rhufain o oresgyniad Prydain, yn ogystal â thystiolaeth archaeolegol, yn dangos i filwyr Rhufeinig wrthdaro â llwythau o’r Oes Haearn.
Wrth ystyried rôl amddiffynfeydd y bryngaerau, efallai y gellid ei chymharu â phatrwm y gymdeithas ôl-ganoloesol ar ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban. Yno, cynhennu a gwledda oedd prif ffyrdd y penaethiaid o gyfleu eu statws a’u grym, ond yn hytrach na rhyfela’n barhaus byddent yn cynnal cyrch o dro i dro ar dylwythau gelyniaethus gan ddinistrio’u cnydau a dwyn eu gwartheg. Mae’r darganfyddiadau archaeolegol - arfau rhodresgar, ffitiadau cerbydau a harneisiau ceffylau - yn cadarnhau bodolaeth y math hwnnw o wrthdaro lleol, ysbeidiol a mympwyol yn yr Oes Haearn. Er i ddiwylliant yr oes fynnu bod arweinwyr yn pwysleisio’u statws gwleidyddol drwy fuddsoddi mewn pyrth a muriau cywrain a chodi amddiffynfeydd rhesymol i aneddiadau a chaeau, mae’n debyg na welodd llawer bryngaer yr un ymosodiad o gwbl. Yn sicr, byddai arweinwyr yn yr Oes Haearn wedi gweithio i gadw eu statws yn y gymdeithas drwy ymgynghreirio â’r cymunedau a gystadlai â hwy, a byddai pensaernïaeth drawiadol eu bryngaerau yn eu helpu i amlygu eu grym.
Un ffurf yn unig ar anheddu oedd y bryngaerau, a’r gwaith peirianyddol enfawr a wnaed arnynt a’u lleoliad ar dir ymylol sydd wedi peri iddynt oroesi. Ar lethrau a lloriau’r dyffrynnoedd ceid amryw o fryngaerau, ffermydd bach amddiffynedig a chorlannau consentrig, a’r rheiny’n safleoedd arbenigol ac ynddynt loc allanol mwy o faint a chwrt mewnol i’r anheddau. Mewn llawer rhan o Gymru, codai ffermwyr yn yr Oes Haearn eu haneddiadau ar y tir amaethyddol mwyaf cynhyrchiol, a dyna lle mae ffermwyr o’r Oesoedd Canol hyd heddiw wedi dal i drin y tir. Er bod degawdau neu ganrifoedd o droi’r tir wedi graddol dreulio’r amddiffynfeydd a’r olion eraill, mae tynnu awyrluniau a’u hastudio wedi bod yn fodd i amlygu cannoedd o’r aneddiadau hynny drwy sylwi ar eu holion yng ngwahanol batrymau cyfraddau twf y cnydau ar lawr gwlad. Byddai llawer rhan o’r Gymru gyn-Rufeinig wedi bod yn brysur, yn ddiwyd ac yn gosmopolitaidd. Estynnai cyfundrefnau helaeth o gaeau ar draws rhannau o’r wlad, a ffurfiwyd rhai ohonynt gyntaf yn yr Oes Efydd Ddiweddar. O’r geifr a’r defaid ceid cig, cynhyrchion llaeth, lledr a gwlân, a byddai’r anifeiliaid hynny’n helpu i rwystro coedwigoedd rhag llyncu’r tir pori drachefn. Drwy reoli coetiroedd, hela a physgota, ychwanegwyd at yr economi amaethyddol a’r ymborth. Yng nghymdeithasau’r Oes Haearn, yr oedd gwartheg yn werthfawr am eu bod yn ffynonellau cyfoeth ac oherwydd eu cryfder wrth dynnu offer amaethyddol – caent eu mawrygu’n anifeiliaid eiconig mewn celfyddyd a gwaith metel.
Yr oedd rhwydweithiau o dracffyrdd (rhagflaenwyr llwybrau hanesyddol y porthmyn) yn cysylltu cymunedau ar hyd a lled y wlad. Mae’r ffaith y cafwyd hyd i halen a ddaeth o wastatir Swydd Gaer, i lestri cain ac i nwyddau a fewnforiwyd o fannau mwy pellennig yn awgrymu bod yr economi’n un bywiog. Er y byddai cludiant ar y môr ac ar hyd afonydd wedi bod yn bwysig at lawer diben, ceir tystiolaeth o ddefnyddio llwybrau i groesi’r tir, ac mae’n arwyddocaol bod y byddinoedd Rhufeinig wedi sefydlu canolfannau a mannau cyflenwi mor gyflym yng nghanol Cymru ac wedi cyrraedd y bryniau drwy fylchau yn y mynyddoedd. Tynnent, i bob golwg, ar wybodaeth leol o’r llwybrau hynny.
Arweiniodd dyfodiad y Rhufeiniaid at ddifa llawer o’r pobloedd brodorol neu eu troi’n gaethweision. Yn wyneb y gwrthsafiad styfnig a drefnwyd gan arweinwyr fel Caradog, cymerodd ryw ddeg mlynedd ar hugain ar ôl OC 47 i wastrodi’r llwythau, ond pan drechodd Agricola wrthryfel yr Ordofigiaid yn OC 77 daeth terfyn ar yr ymgyrchu ar raddfa fawr. O hynny ymlaen tan i reolaeth y Rhufeiniaid chwalu yn y bedwaredd ganrif, ceid rheoli caeth o’r cadarnleoedd strategol yng Nghaer a Chaerllion a’r rhwydwaith o gaerau llai a gynhaliai gyfraith a threfn. Wedi’r goncwest derfynol y gwelwyd y cyfnod dwysaf o greu garsiynau. Eto, ymhen ychydig flynyddoedd symudwyd unedau milwrol i ogledd Prydain ac erbyn canol yr ail ganrif ni chynhelid ond ambell gaer yn y Canolbarth, ac yn Segontium ar arfordir y gogledd, i reoli’r bobl leol. Yn ystod rhan olaf y drydedd ganrif amddiffynnid yr arfordir rhag ymosodwyr o’r môr o’r gaer yng Nghaerdydd a thrwy ailwampio caerau mewn mannau eraill. Er ei bod yn fwy na thebyg i’r garsiwn yng Nghaerllion gael ei dynnu oddi yno erbyn diwedd y ganrif, efallai i ddyrnaid o filwyr gael eu cadw yno tan gyfnod mor ddiweddar â chanol y bedwaredd ganrif. Mae’r trefniadau milwrol a wnaed yn y bedwaredd ganrif yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caergybi a Chaerhun fel petaent yn hoelio’u sylw ar amddiffyn rhag ymosodiadau gan grwpiau o Iwerddon. Er ei bod yn debyg bod milwyr wedi gadael yr holl safleoedd milwrol erbyn tua OC 393 am fod eu hangen i wrthsefyll y gwrthryfel yng Ngâl, ceir peth tystiolaeth bod milwyr wedi’u gadael ar ôl i warchod trefi Caerfyrddin a Chaer-went hyd yn oed i mewn i’r bumed ganrif.
Pan fyddent yn ymgyrchu, câi’r byddinoedd Rhufeinig lety mewn gwersylloedd gorymdeithio dros dro. Ar ôl iddynt ddarostwng ardal, câi’r milwyr eu lletya mewn caerau o wahanol feintiau, a gallent ddod allan ohonynt i gadw trefn a chasglu trethi. Pencadlysoedd y llengoedd a oedd yn gyfrifol am gadw’r ‘Heddwch Rhufeinig’ (Pax Romana) oedd cadarnleoedd Caer a Chaerllion. Y rhain a reolai’r tir yn eu cyffiniau: credir i’r ail leng Awgwstaidd ddraenio gwastadeddau Gwent er mwyn cael tir pori i’w ceffylau. Yn anorfod, yr oedd canolfannau milwrol o’r fath yn denu masnachwyr, crefftwyr a difyrwyr i fyw yno – a hefyd gymheiriaid answyddogol y milwyr. Gelwid yr aneddiadau hynny’n canabae os oedddent y tu allan i gadarnleoedd y llengoedd ac yn vici os oeddent y tu allan i gaerau atodol. Adeiladwyd y gyfundrefn ffyrdd o dan gyfarwyddyd y fyddin yn ystod y degawd wedi’r goncwest Fflafaidd.
Y ddau anheddiad a ddatblygodd yn ganolfannau trefol (yn civitates) oedd Caer-went neu Venta Silurum yn achos y Silwriaid a Chaerfyrddin neu Moridunum yn achos y Demetae. Yr oedd i Gaer-went lu o nodweddion dinas Rufeinig, megis fforwm, temlau a thai moethus. Nodwedd fwyaf hysbys Caerfyrddin yw’r amffitheatr y tu allan i borth y gogledd-ddwyrain. Yn ogystal â bod yn gartrefi cymharol ddiogel i’r penaethiaid llwythol a ildiodd i rym yr ymerodraeth, yr oedd y dinasoedd yn ganolfannau masnachu, cynhyrchu, a chasglu trethi.
Er bod aneddiadau min-y-ffordd, neu drefi bach, yn nodwedd gyffredin ar Brydain Rufeinig, yn ne-ddwyrain Cymru yr oeddent yn bennaf. Fel rheol, datblygent ar hen safleoedd y fyddin a cheir enghreifftiau ohonynt ym Mrynbuga, Trefynwy, Caerdydd, Abergafenni, y Bont-faen, a hefyd, yn fwy na thebyg, yng Nghas-gwent. Gweithgarwch a oedd yn gyffredin i’r rhan fwyaf ohonynt oedd cynhyrchu gwrthrychau haearn. Efallai fod dau anheddiad tebyg wedi bod ger Rhuthun, ac yn y Ffrith yn Sir y Fflint cynhyrchid plwm ac arian mewn anheddiad bach.
Ar diroedd ffrwythlon ac o fewn cyrraedd i ganolfannau trefol ceir filâu, sef tai chwaethus – ynghyd ag adeiladau amaethyddol cysylltiedig – sy’n dangos arwyddion o dderbyn gwerthoedd y Rhufeiniaid a’u ffyrdd o fyw. Mae dosbarthiad yr enghreifftiau hysbys yn cyfnerthu’r syniad bod tiroedd y Silwriaid wedi’u plethu lawer mwy na thiriogaeth yr Ordofigiaid i’r drefn Rufeinig. I bob golwg, nid yw arddulliau Rhufeinig wedi dylanwadu rhyw lawer ar ddulliau anheddu yn y gogledd-orllewin, boed hynny oherwydd gwrthsafiad diwylliannol y bobl neu brinder arian. Yn yr un modd, prin yw’r dystiolaeth o ddylanwad y Rhufeiniaid ar aneddiadau gwledig yn y Canolbarth ac yn nhiriogaeth y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain, ac eithrio ym Mhlas Coch, Wrecsam. Ar y llaw arall, mae’n ymddangos bod yr amodau economaidd a thueddfryd yr arweinwyr lleol yn nhiroedd y Demetae yn y de-orllewin wedi ffafrio codi filâu bach, fel Trelissey yn Sir Benfro a Chwmbrwyn yn Sir Gaerfyrddin.
Ar ôl iddynt gael eu trechu, y Silwriaid, a oedd wedi gwrthsefyll y Rhufeiniaid gryfaf ar y cychwyn ac wedi llwyddo i faeddu lleng ymgyrchol yn OC 51, fu barotaf i gofleidio agweddau ar y diwylliant Rhufeinig. Er y byddai presenoldeb yr ail leng Awgwstaidd yng Nghaerllion wedi bod yn ddylanwad o bwys, rhaid bod dosbarth yr arweinwyr o ddechrau’r ganrif gyntaf ymlaen wedi ymaddasu’n ymwybodol i’r drefn newydd. Mae amlder y filâu yn nhiriogaeth y Silwriaid yn dangos cymaint o gyfoeth a gasglwyd gan y dosbarth o dirfeddianwyr a oedd wedi plygu glin i Rufain. Efallai i rai ohonynt lwyddo i gadw eu cartref teuluol a’i ddatblygu yn yr arddull Rufeinig, fel y digwyddodd yn Llanddewi yn Hwytyn ym Morgannwg. Yr oedd ystâd fila’n dra gwahanol i adeiladweithiau’r oesoedd cyn-Rufeinig: yr oedd eu hadeiladau wedi’u codi o gerrig ac yr oedd iddynt ffasadau pensaernïol trawiadol, toeon o deils neu gerrig, baddondy, system wresogi hypocawst, mosaigau a murluniau.
Pan fyddent yn westeion i uwch-swyddogion y fyddin, byddai’r arweinwyr lleol wedi cael eu cyflwyno i nwyddau a fewnforiwyd, megis olew, gwin, crochenwaith, gwydr a lampau ceramig. Yr oedd dechrau defnyddio darnau arian yng Nghymru yn arwydd o gyflwyno system newydd o gyfnewid, a pharhaodd y system honno tan i heddwch a sefydlogrwydd gael eu tanseilio. Yr oedd angen darnau arian i dalu trethi, ond a barnu wrth gyn lleied o ddarnau arian y cafwyd hyd iddynt, parheid i gyfnewid nwyddau ochr yn ochr â gweithredu’r economi arian drwy gydol y cyfnod Rhufeinig. O ganlyniad i bresenoldeb parhaol y swyddogion milwrol ac ymerodraethol a’u hangen am gyflenwadau, yn ogystal â datblygiad economi arian a thwf marchnadoedd newydd o amgylch trefi yn y de, hybwyd cynhyrchu amaethyddol. Ar yr uwchdiroedd, amaethu bugeiliol a geid fel arfer, ond gallai’r cydbwysedd rhwng magu gwartheg a defaid amrywio o le i le, ac mewn rhai mannau tyfid cnydau. Yn y dyffrynnoedd isel ac ar hyd yr arfordir, ffermio tir âr a geid fel rheol.
Ar wahanol adegau ac mewn gwahanol fannau ceid diwydiannau echdynnu a gweithgynhyrchu, a hybid hwy gan welliannau yn y dulliau o gludo cynnyrch dros dir a môr. Golygai hynny fod modd allforio nwyddau. Yr oedd gan lywodraeth yr ymerodraeth ddiddordeb mewn echdynnu metelau gwerthfawr, yn rhannol er mwyn gallu talu costau cynnal byddin fawr. Er ei bod yn fwy na thebyg i aur gael ei fwyngloddio yn Nolau Cothi yn Sir Gaerfyrddin, rhaid mai siomedig oedd cyfanswm yr aur a gynhyrchwyd yng Nghymru. Mwy proffidiol oedd y broses o echdynnu arian i gynhyrchu darnau arian ohono: cafwyd hyd i ingotau, mwyngloddiau ac aneddiadau ym Mhrestatyn, y Ffrith a Phentre yn Sir y Fflint. Mae ingotau o Fôn a Sir Gaernarfon a cheuffyrdd yn Llanymynech ar ffin Sir Drefaldwyn â Swydd Amwythig yn tystio i fwyngloddio copr. Er hynny, canlyniad diarfogi’r boblogaeth oedd gostwng lefel cynhyrchu haearn tan i’r holl sefyllfa dawelu.
Bu anghenion y milwyr a’r awydd cynyddol i gael gafael ar nwyddau Rhufeinig, yn enwedig yn y de-ddwyrain, yn ysgogiad i sawl diwydiant. Gan fod angen teils ar y fyddin, codwyd odynnau yn ymyl ei chanolfannau – yn Holt, er enghraifft, i gyflenwi’r ugeinfed leng yng Nghaer. Wrth i’r garsiynau ymgartrefu, sefydlodd crochenwyr crwydrol odynau i gyflenwi anghenion y fyddin, a mewnforid llestri o safon uwch o ardaloedd y Rhein a Gâl i fodloni chwaeth yr uchel swyddogion. Yn ystod yr ail ganrif, yr hyn a geid yn y farchnad fel rheol oedd llestri cegin a gynhyrchwyd yng ngorllewin Lloegr: cafwyd hyd iddynt mewn amrywiaeth mawr o aneddiadau. Nid oes fawr o arwydd bod crochenwaith wedi’i gynhyrchu yng Nghymru ar ôl canol yr ail ganrif.
Gellid gweld celf yn y dull clasurol mewn canolfannau milwrol ac yn y de-ddwyrain Rhufeiniedig. Cysylltid cerfluniau carreg, yn arbennig, â’r fyddin, yn enwedig yng Nghaerllion lle’r oedd gofyn eu cael i gynhyrchu cofebion claddu a gwrthrychau crefyddol. Mae darnau o gerfluniau o wrthrychau ymerodrol yn hysbys o’r trefi, ceid mosaigau o filâu ac eiddo trefol yng Nghaer-went, a bu peintwyr muriau’n addurno tai gwledig, adeiladau milwrol, ac adeiladau preifat a threfol yn y trefi.
Yr oedd ideoleg a chrefydd y trigolion brodorol yn fwy soffistigedig nag yr oedd propagandwyr Rhufain yn fodlon cyfaddef. Parheid i addoli llawer o dduwiau’r grefydd frodorol, hyd yn oed os cysylltid hwy weithiau â duwiau’r pantheon Rhufeinig. Y fyddin a gyflwynodd y prif dduwiau Rhufeinig, a’r duw Iau ddaeth gyntaf. Yn ddiweddarach, daeth cyltiau dwyreiniol, fel un Mithras yng Nghaerllion a Segontium, yn boblogaidd ymhlith y milwyr. Ymhlith y cyltiau eraill a fu’n boblogaidd yn yr ardaloedd Rhufeiniedig yr oedd rhai Mercher, Fortuna a Mawrth. Codwyd temlau Celtaidd-Rufeinig yng Nghaer-went a Chaerfyrddin a theml gron o gerrig yng Ngwehelog yn Sir Fynwy. Mae ambell wrthrych offrymol y cafwyd hyd iddo yn awgrymu bod cysegrfannau bach i’w cael ledled Cymru, fel y gysegrfan yn Llys Awel yn Abergele lle cafwyd hyd i gerflun bach o’r duw Mercher a thri model o gŵn. Er nad oes llawer o dystiolaeth o Gristnogaeth Rufeinig yng Nghymru, teimlwyd ei phresenoldeb: gall fod gweddillion eglwys yng Nghaer-went. Amlosgi cyrff y meirw oedd yr arfer tan ganol y drydedd ganrif a rhoi’r llwch, ynghyd â gwrthrychau personol weithiau, mewn cistiau neu lestri crochenwaith. Daeth claddu’n arfer yn ddiweddarach a rhoddid cyrff unigolion cyfoethog mewn eirch o garreg. Mewn mynwentydd tymor-hir fel y rhai ger Caerllion, ceid cerrig beddi i filwyr a sifiliaid, a rhai beddgorau. Mae ambell grugfynwent yn hysbys - er enghraifft, yn y gaer filwrol yn Nhomen-y-mur, Meirionnydd.
Bu Cymru’n rhan o densiynau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol brwydr yr ymerodraeth Rufeinig i osgoi cael ei chwalu yn y bedwaredd ganrif. Er i’r amodau waethygu, parhau wnaeth y bywyd trefol yng Nghaer-went a Chaerfyrddin ar ddiwedd y bedwaredd ganrif. Serch hynny, mae’r bygythiadau i sefydlogrwydd cymdeithas i’w gweld yn glir wrth astudio’r amddiffynfeydd yng Nghaerdydd, Caergybi a Mynydd Tŷr a’r penderfyniad i gadw garsiynau ar safleoedd fel Segontium, a hynny, bron yn sicr, er mwyn rhwystro a gwrthsefyll cyrchoedd gan fandiau o Wyddelod. Wrth i fygythiad godi i’r heddwch a’r sefydlogrwydd a oedd yn hanfodol i’r economi marchnad cyfyngedig ac i ddarnau arian beidio â chael eu defnyddio, mae’n fwy na thebyg mai chwalu’n gyflym fu hanes y system economaidd Rufeinig.