Mae Pennod Dau yn dilyn yr ailddarganfod rhyfeddol sydd ar weithfeydd copr o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol yn Abertawe yn sgil gwneud gwaith cloddio brys yno, yn gweld tynnu ffotograffau o arysgrif goll o’r Oesoedd Canol Cynnar ac yn datgelu bryngaer enfawr o’r Oes Haearn ger y Trallwng er bod y gaer honno wedi’i chuddio dan drwch o goed.
Gallwch chi weld y bennod ar wefan y BBC.
Bydd Stephen Hughes, Pennaeth Arolygu ac Ymchwilio yn y Comisiwn Brenhinol, yn ymweld â gwaith cloddio ac achub mawr gan Oxford Archaeology sy’n datgelu tystiolaeth newydd am y diwydiant copr yn Abertawe yn ystod y Chwyldro Diwydiannol – cyfnod galw’r dref yn ‘Copperopolis’.
Bu Stephen Hughes yn ymchwilio i rôl Abertawe fel canolfan fyd-eang toddi copr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar gyfer llyfr y Comisiwn Brenhinol, Copperopolis. Mae’r rhan fwyaf o adeiladweithiau’r diwydiant mawr hwnnw wedi hen fynd, ond bu’r bwriad i godi tai ar y safle hwnnw yn gyfle eithriadol o dda i ddatgelu’r gwaith toddi copr, a sefydlwyd ym 1755, yn Upper Bank. Gan i’r Comisiwn gael gwybod y byddai olion y ffwrneisiau cynnar o dan y ddaear, gofynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent am gael cyflawni gorchwyl gwylio archaeolegol wrth i’r gwaith datblygu fynd rhagddo. Cyflogwyd Oxford Archaeology gan y datblygwr, Barratts, a phan dorrwyd drwy loriau’r adeiladau diweddarach, cafwyd hyd i rywbeth tebyg i ddinas gudd. Dangosodd y ceiau ar lan Afon Tawe, lle defnyddiwyd blociau slag ’slawer dydd i greu’r palmentydd, mai i’r mannau hynny y cludid y mwyn copr mewn llongau hwylio o Gernyw, Môn a Chile i’w stocio. Yr oedd modd gweld sut y byddai’r gweithwyr yn defnyddio rhacanau hir i wacáu ffwrnais galchynnu a ddefnyddid i gyflawni’r broses gychwynnol o sychu a chrasu’r mwyn. Byddai’r gweithwyr hynny’n gorfod cadw cadach dros eu cegau i osgoi anadlu mwy na mwy o’r sylffwr. Goroesi wnaeth gwaelodion y ffwrneisiau copr a’r naw ffwrnais o gyfnod y trosi i doddi sinc ar ôl 1890. Cloddiwyd hefyd olion y pyllau gronynnu lle câi’r copr tawdd ei ollwng i’r d?r iddo galedu’n ronynnau cyn cael ei brosesu ymhellach. Mae’n ddigon posibl y ceir hyd i ragor eto o olion sylweddol ‘Copperopolis’ yng Nghwm Tawe.
Chwiliwch am y safle ar Coflein
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
Bydd ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol, Iain Wright, yn gweithio liw nos gyda goleuadau artiffisial i geisio adfer unrhyw ddarnau mân o’r arysgrif a arferai adrodd hanes Eliseg, arweinydd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Codwyd y piler er cof amdano ger Llangollen.
Yn y nawfed ganrif, codwyd croes yng Nglyn-y-groes ger Llangollen i goffáu Eliseg (neu Elisedd), arweinydd o’r Oesoedd Canol Cynnar . Dim ond rhan isaf y groes sy’n aros, a diflannu wnaeth yr arysgrif arni: yr oedd hi bron â bod yn amhosibl ei darllen pan geisiodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd ei thrawsgrifio ym 1696. Coffaodd gor-?yr Eliseg, Cyngen (a fu farw yn 854), gampau ei hen-daid drwy godi’r groes hon. Cafodd yr arysgrif Ladin, a ysgrifennwyd mewn un ar ddeg ar hugain o linellau llorweddol, ei rhannu’n baragraffau drwy osod croesau bach rhwng pob paragraff. Mawrygai’r arysgrif Eliseg a Chyngen gan gyhoeddi eu bod yn ddisgynyddion i’r Ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig a’i fab Gwrtheyrn, a honni i Eliseg yrru’r Saeson o’r ardal ar ôl iddynt droi’r wlad honno’n dir y cledd am naw mlynedd. Dechreuodd y Comisiwn Brenhinol weithio ym 1987 ar gofnodi meini arysgrifenedig o’r Oesoedd Canol Cynnar ar gyfer argraffiad diwygiedig o Early Christian Monuments of Wales. Y dull gorau o wneud hynny oedd gweithio liw nos gan daflu golau artiffisial ar y maen ar ongl arosgo. Ond bydd meini sydd ag amryw o ffasedau, neu ag wyneb garw iawn, fel Piler Eliseg, yn achosi problemau arbennig. Ni allai’r ffotograffau newydd ond lled-ddangos lle bu llinellau gwreiddiol y testun gynt, ond fe gofnodwyd yr arysgrif o’r ddeunawfed ganrif sy’n disgrifio ail-godi’r groes cyn i’r tywydd dreulio’r arysgrif honno, yn ei thro, yn ddim
Chwiliwch am y safle ar Coflein
Chwiliwch am ifeini arysgrifenedig eraill
Bydd yr ymchwilwyr Louise Barker a Toby Driver yn cofnodi’r Gaer Fawr, bryngaer o’r Oes Haearn sydd o’r golwg dan drwch o goed ger y Trallwng, ac yn gweithio gyda Tom Pert i greu model cyfrifiadurol sy’n fodd i weld y gaer yn ei holl ogoniant am y tro cyntaf mewn canrifoedd maith.
Camp nodedig, a honno’n ffrwyth llawer iawn o gydymdrechu dygn, oedd codi bryngaer yn yr Oes Haearn. Mae’r Gaer Fawr yng Nghegidfa ger y Trallwng yn un o sawl bryngaer fawr sy’n edrych allan dros ran uchaf dyffryn Hafren ac yn arwydd o rym y cymunedau yn y fro hon yn yr Oes Haearn. O astudio mownt helmed - mownt rhyfeddol sydd ar ffurf baedd efydd ac y cafwyd hyd iddo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg - ceir rhyw argraff o’r bobl a oedd, efallai, yn benaethiaid ar y safle ac yn byw ynddo yn ei anterth. Mae’r fryngaer yn 5.8 hectar ac iddi hyd at bum llinell o ragfuriau sydd dros 8 metr o uchder, ond oherwydd y trwch o goed nid oes modd dirnad ei ffurf a’i graddfa. Mae model digidol y Comisiwn Brenhinol o’r tir, a seiliwyd ar arolwg manwl iawn, yn fodd i ‘weld’ y fryngaer a’i safle ac yn dangos yn glir i lawer cam fod yn hanes codi’r Gaer Fawr. Yn wreiddiol, caer fach oedd ar y copa. Yna, yn ddiweddarach, amgaewyd rhagor o dir i’r gorllewin ohoni. Crëwyd dwy fynedfa hynod gywrain iddi, ac i’r naill a’r llall yr oedd ramp ar oledd ynghyd â phorth amddiffynedig. Ychwanegwyd estyniad ati yn y de. Nodwedd a ddaeth i’r amlwg gan gyffroi chwilfrydedd arbennig yw’r gwrthglawdd sy’n rhannu’r gofod mewnol: gallai fod yn gysylltiedig â’r meddiannu a fu ar y gaer yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
Chwiliwch am y Gaer Fawr ar Coflein
Chwiliwch am fryngaerau eraill ar Coflein
Darllenwch am fryngaer Pendinas