Hafan

Hysbysiadau

Ffermdy T? Draw, Llanrhaeadr-ym-mochnant.  2003. (Image: DI2005_0771 / NPRN: 35439) Barics Wrecsam. Llun o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn eu gwisg ffurfiol. Diddyddiad. (Image: CD2005_622_012 / NPRN: 23426) Traphont y Waun, Camlas Ellesmere, Y Waun. 1949. (Image: DI2005_0058 / NPRN: 34406)

Hafan

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn ei gofnodi. Ym 1908 y sefydlwyd y Comisiwn, ac erbyn hyn mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Bydd y Comisiwn yn gweithio’n agos gyda sefydliadau treftadaeth eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol i ddatblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o’r dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol.

Erbyn hyn, mae rhagymadrodd i bob oes unigol yn hanes Cymru ar gael ar-lein yn adran Ar Draws Amser o dan ‘Treftadaeth Cymru’. Ffrwyth peth o’r ymchwil ar gyfer ein llyfr newydd Trysorau Cudd yw pob un o’r rhagymadroddion hynny.

Yn Treftadaeth Byd Cymru ceir erthyglau ar Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn sgil eu henwebu’n drydydd Safle Treftadaeth Byd Cymru.

Esbonnir y rhaglen ddwys o waith i gynyddu Cofnodi Arforol Cymru.

Yn Henebion a Llenorion, mae’r cylchgrawn Planet wedi comisiynu rhai o lenorion gorau Cymru i fynd i’r afael â delweddau archifol y mae’r Comisiwn wedi’u cynhyrchu neu wedi’u casglu dros y can mlynedd diwethaf.

P’un a ydych chi’n ymchwilio i’ch cymuned leol, yn gwneud ymchwil, yn rheoli’r amgylchedd, yn chwilio am luniau neu adnoddau dysgu rhagorol, yn bwriadu ymweld â Chymru neu’n gwneud dim ond ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog ein gwlad, gobeithio y bydd y wefan hon a’n cronfeydd data ar-lein cysylltiedig, Coflein a Cymru Hanesyddol, yn eich helpu i gael gwybod rhagor am adeiladau, tirweddau, safleoedd archaeolegol a hanes Cymru ac am yr adnoddau a’r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu.

Cewch chwilio drwy’r wefan yn Gymraeg neu Saesneg.

Ydych chi'n credu y gallwn ni wella ein gwasanaethau ar y we? Rhowch wybod inni drwy nodi eich sylwadau ar flog Newyddion Treftadaeth Cymru.