Y tîm Cofnodi Brys ar Adeiladau yn y Comisiwn Brenhinol sy’n gyfrifol am arolygu adeiladau hanesyddol y bygythir eu dymchwel neu eu newid yn sylweddol, neu sy’n dirywio’n ddifrifol. Mae’n ymdrin â phob math o adeiladweithiau sydd ar eu traed, ond agwedd allweddol ar y gwaith yw cofnodi, o dan delerau’r Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref, adeiladau rhestredig y mae caniatâd wedi’i roi i’w dymchwel neu i’w newid yn sylweddol.
Daeth dros 600 o hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig i’r Comisiwn Brenhinol oddi wrth awdurdodau unedol Cymru, Mae’r nifer cynyddol o geisiadau’n adlewyrchu cwblhau rhaglen ail-arolygu cymunedol Cadw yn 2005 - rhaglen a gododd nifer yr adeiladau rhestredig yng Nghymru i ryw 27,000 o safleoedd. Mae cofnodi brys yn bwynt cysylltu o bwys rhwng y Comisiwn Brenhinol a’r awdurdodau cynllunio unedol, ac yn arbennig o bwysig o gofio mai cymharol wan yw’r cymdeithasau amwynder a’r grwpiau cofnodi yng Nghymru. O ran Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), sef archif cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol, ffrwyth y broses ymgynghori hon yw deunydd archifol pwysig, a chynlluniau a ffotograffau yn enwedig, sy’n ymwneud ag adeiladau sydd, yn ôl y diffiniad, yn adeiladweithiau o ddiddordeb arbennig.
Mae’n anochel y caiff y penderfyniad i gofnodi ei wneud gan sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau’r Comisiwn Brenhinol ei hun a disgwyliadau’r awdurdodau cynllunio lleol, y cyrff treftadaeth a’r unigolion perthnasol. Gan fod rhaid i’r cofnodi fod yn ddetholus, bydd yn dibynnu ar asesiad o faint y bygythiad, natur y cofnod presennol yn CHCC o fathau penodol o adeiladau, pa adnoddau sydd ar gael, a’r canfyddiadau o bwysigrwydd yr adeilad.