Ein Gwasanaethau

Argae Garreg Ddu, Cynllun D?r Cwm Elan. Adeiladwyd 1900. Diddyddiad. (Image: CD2005_610_004 / NPRN: 752) Dymock’s Mill, Malpas. Llun cyffredinol o ochr ogleddol. 1984. (Image: DI2006_0544 / NPRN: 24904) Castell Treganllo, Merthyr Mawr. Diddyddiad. (Image: DI2006_1058 / NPRN: 93050)

Prosiect sy’n cael ei ariannu gan arian Ewropeaidd yw Atlanterra. Mae’n dod â deg o bartneriaid prosiect ynghyd o Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Portiwgal, Sbaen a Chymru i gydweithio, i gadw ac i hyrwyddo’r dreftadaeth fwyngloddio y maen nhw’n ei rhannu ar hyd Arfordir yr Iwerydd.

Mae pob un o bartneriaid y prosiect yn gweithio mewn ardal y mae camau i gau gweithfeydd mwyngloddio neu chwarela yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi effeithio arnyn nhw. Mae mynd ati i gofnodi’r archeoleg a’r hanes diwylliannol perthnasol cyn iddyn nhw ddiflannu yn ganolog i amcanion y prosiect. Bu’r Comisiwn Brenhinol yn gyfrifol am roi cymorth technegol i bartneriaid eraill y prosiect o ran arolygu, cofnodi ac adlunio, a hynny drwy greu animeiddiad cyfrifiadurol o’r safleoedd mwyngloddio a chwarela gwag a’u seilwaith perthnasol.

Fel rhan o’r prosiect, mae’r Comisiwn Brenhinol eisoes wedi gwneud arolwg o chwarel lechi Maenofferen ger Blaenau Ffestiniog a mwynglawdd manganîs Mynydd Nodol ger y Bala, a bydd yn gwneud arolygon eraill yn ystod 2012. Comisiynwyd adluniadau drwy animeiddiad cyfrifiadurol o’r tri gwahanol fath o chwareli llechi. Ar ôl eu cwblhau, bydd y rhain ar gael i’r cyhoedd.

I ddilyn hynt y prosiect hwn, cewch gipolwg ar wefan y Comisiwn Brenhinol neu cadwch lygad ar flog y Comisiwn Brenhinol.