Ein Gwasanaethau

Tramffordd Hill, Blaenavon. 1999. (Image: DI2005_1095 / NPRN: 85860) Neuadd y Sir, Hall Square, Dinbych. Lluniad digidol o ochr ogleddol Neuadd Tref Dinbych sy’n dangos cyfnodau ei datblygu. Diddyddiad. (Image: DI2006_1082 / NPRN: 23423)

Arolygu a Chofnodi Digidol

Ers ei sefydlu, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ennill enw da am sicrhau bod ganddo gorff o staff arbenigol i wneud arolygon manwl-gywir o safleoedd a henebion o bob math a dyddiad er mwyn cynhyrchu cofnod parhaol a bwydo gwybodaeth i ddehongliadau a synthesisau manwl. Mae’r safleoedd a’r henebion y byddwn ni’n eu harolygu yn amrywio’n fawr o ran eu math a’u dyddiad - o safleoedd amddiffynnol o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at gymhlygion diwydiannol yr ugeinfed ganrif. Yn eu plith mae safleoedd sydd dan fygythiad oherwydd dirywiad neu ddatblygiad, a safleoedd sy’n enghreifftiau o bwys rhanbarthol neu genedlaethol o’u bath. Caiff pob arolwg a wnawn ni ei wneud yn unol â safonau penodedig y disgrifir y manylebau ar eu cyfer yn ein Lefelau Arolygu.

Er bod dulliau traddodiadol o arolygu â llaw yn dal i gael eu defnyddio’n eang, mae amrywiaeth mawr o dechnegau arolygu digidol modern wedi’u cyflwyno i gasglu data yn y ffordd fwyaf darbodus, effeithlon ac amlbwrpas. Bydd ein hymchwilwyr archaeolegol a phensaernïol yn defnyddio Systemau Lleoli Byd-eang (GPS) a Gweithfannau Cyfan, ynghyd â phecynnau meddalwedd arolygu, i gasglu llawer o’n data’n ddigidol yn y maes. Gan ddefnyddio AutoCAD yn bennaf, caiff pob un o’n lluniadau arolygu gorffenedig ei gynhyrchu’n ddigidol, hyd yn oed os defnyddiwyd dulliau traddodiadol i wneud y gwaith arolygu ar y safle. Fe allwn ni, felly, gynhyrchu cynlluniau, trawsluniau a golygon ynghyd â modelau tri-dimensiwn hynod fanwl a manwl-gywir.

Gan mai swyddogaeth greiddiol ein gwaith yw sicrhau dealltwriaeth helaethach o archaeoleg a phensaernïaeth Cymru, mae pob un o’r lluniadau sy’n deillio o’n harolygon mesuredig yn rhai deongliadol, a chyda hwy fe gyflwynir delweddau ffotograffig, disgrifiadau ysgrifenedig a thrafodaethau. Maent ar gael i bawb, ar ffurf ddigidol neu gopi papur, drwy Coflein, amrywiaeth o gyhoeddiadau traddodiadol ac ar-lein a Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Gan fod technolegau cynhyrchu arolygon manwl-gywir o safon uchel yn esblygu’n gyson, yr ydym wrthi’n ymchwilio i ddefnyddio sganio-â-laserau a ffotograffiaeth ddigidol diffiniad-uchel. Yr ydym hefyd yn ystyried defnyddio meddalwedd uwch-fodelu cyfrifiadurol i ddatblygu’n hamrywiaeth o allbynnau deongliadol a sicrhau bod ffrwyth ein gwaith yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.