Mae dros 1.25 miliwn o ffotograffau yng nghasgliadau’r Comisiwn Brenhinol. Ers iddi gael ei dyfeisio, mae ffotograffiaeth wedi’i hystyried yn ffordd bwysig o gofnodi’r amgylchedd, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â dulliau eraill. Er bod rhywfaint o ddehongli ynghlwm wrth luniadau, gall ffotograffau fod yn gofnod gwrthrychol. O’i chymharu â’r arolwg mesuredig traddodiadol, mae ffotograffiaeth yn defnyddio amser yn hynod effeithlon am y gall hi gynhyrchu lluniau o safon weledol uchel. Mewn llawer achos, hefyd, gall gynrychioli olion pensaernïol neu archaeolegol yn hynod o fanwl ac effeithiol. Fwy a mwy, gellir hefyd drin ffotograffau’n ddigidol fel rhan o brosiectau arolygu neu gyhoeddi – er enghraifft, i gywiro afluniad persbectif ac ychwanegu graddfeydd manwl-gywir, dangos dehongliadau, amlygu manylion allweddol neu gynhyrchu adluniadau dyfaliadol.
Gwneir amrywiaeth mawr o waith arolygu ffotograffig yn y Comisiwn Brenhinol. Cynhelir rhaglenni parhaus sy’n ymdrin â llawer math o nodwedd hanesyddol ac archaeolegol sydd dan fygythiad, boed honno’n gymhlyg diwydiannol mawr, yn olion mwyngloddio tanddaearol neu’n furlun sy’n dirywio. Mae hyn yn gosod y Comisiwn Brenhinol mewn sefyllfa unigryw i ychwanegu lluniau o safon uchel at y cofnod cyhoeddus parhaol. Yn ogystal â chynhyrchu lluniau ar gyfer cyhoeddiadau ar fryngaerau, henebion Cristnogol cynnar, bythynnod a ffermdai, cestyll, pyllau glo, camlesi a rheilffyrdd cynnar ymhlith pynciau eraill, mae ef hefyd wedi darparu’r prif ffotograffau ar gyfer llyfrau diweddar ar hanes siroedd Cymru ac ar gyfer cyfrolau’r gyfres Pevsner Buildings of Wales.
Anaml, os o gwbl, y rhagorwyd ar safon rhai o’r ffotograffau cynnar yn archif y Comisiwn Brenhinol, a hynny am fod angen cymaint o ymrwymiad a medrusrwydd i weithio’r offer trwsgl ac am fod y lluniau y gellid eu tynnu wrth ddefnyddio platiau gwydr mawr yn eithriadol o fanwl. Nid yw hwylustod tynnu lluniau heddiw o reidrwydd yn gwarantu cofnodi da. Yn wreiddiol, dibynnai’r Comisiwn yn llwyr ar gael ei staff ymchwilio i dynnu ffotograffau, a hwy sy’n dal i dynnu’r nifer fwyaf o’r ffotograffau sy’n deillio o’r gwaith arolygu. Ond oherwydd y cydnabod cynyddol ar werth ffotograffau arbenigol fel techneg cofnodi a’r galw cynyddol am luniau i’w cyhoeddi, aeth y Comisiwn ati ym 1963 i benodi ffotograffydd proffesiynol a sefydlu ystafelloedd tywyll i brosesu ac argraffu lluniau ynddynt. Yn ystod y 1960au cynnar, fe drosglwyddwyd y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol i ofal archif y Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth, ac yr oedd hwnnw eisoes yn cynnwys llu o ffotograffau proffesiynol rhagorol.
Daliwyd i ddefnyddio camerâu ffilm fformat-mawr, ynghyd â’r cyfleusterau prosesu ac argraffu angenrheidiol, tan ddechrau 2006, pryd y dechreuodd y Comisiwn ddefnyddio offer digidol yn unig. Mae hynny’n golygu bod modd trefnu i ffotograffau fod ar gael yn gyflym drwy gyfryngau digidol ac i’w gweld ar-lein drwy Coflein. Mae’r angen i sicrhau cofnod o safon uchel yn dal i fod yn hollbwysig, ac er mor ymddangosiadol hwylus yw camerâu modern, mae angen mynd ati’n ddisgybledig i gofnodi adeiladweithiau’n dda. Mae ffotograffau’r Comisiwn Brenhinol yn gydran hollbwysig o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol, ac mewn llawer achos fe all mai hwy yw’r unig gofnod o adeilad neu safle.
Caiff ffotograffau eu prosesu ar gyfrifiadur o ffeiliau crai, a hynny mewn amgylchedd y caiff lliwiau eu rheoli ynddo. Mae’r Comisiwn wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o offer optegol o safon uchel, gan gynnwys lensys symud, i gynhyrchu lluniau sydd cystal â chynnyrch y camerâu fformat-mawr cynharach. Tynnir ffotograffau ar lawr gwlad gan ddefnyddio trybeddau i sicrhau bod y lluniau’n siarp a bod yr ymagwedd yn ystyriol. I sicrhau’r canlyniadau gorau, rhaid goleuo pynciau’n dda drwy ddefnyddio’n ofalus y golau sydd ar gael neu drwy ddefnyddio golau artiffisial dan reolaeth. Mewn rhai achosion, ni chaiff y wybodaeth angenrheidiol mo’i datgelu ond drwy ddefnyddio techneg goleuo arbennig. Drwy wneud hynny - wrth gofnodi henebion Cristnogol cynnar, er enghraifft - cafwyd hyd i fanylion newydd arnynt. Mae modd defnyddio amrywiaeth cynhwysfawr o gyfleusterau fflach-oleuo electronig, gan ddefnyddio generaduron o’r prif gyflenwad ynghyd ag unedau cludadwy, i ateb y mwyafrif o’r gofynion. Caiff y goleuo’i gydamseru drwy reolaeth radio, a bydd hynny’n hanfodol yn achos llawer safle y mae angen trefniant cymhleth i’w oleuo.
Yr oedd ffilm yn gyfrwng rhyfeddol o ddiogel, hyd yn oed pan na châi ei chynhyrchu’n benodol i safonau archifol. Gan fod diogelwch lluniau digidol yn llai sicr, credir bod llai o ffotograffau amatur heddiw yn debyg o oroesi nag a ddigwyddodd yn y gorffennol. Mae’r Comisiwn Brenhinol, felly, wedi buddsoddi mewn gwasanaethwyr a chyfleusterau i ddarparu copïau wrth gefn i warantu diogelwch ei ffeiliau digidol a sicrhau bod modd cyrchu ei luniau yn y dyfodol.
Mae detholiad o’r ffotograffau a dynnwyd yn ddiweddar fel rhan o arolygon ffotograffig proffesiynol i’w weld ledled y wefan hon ac yn yr oriel.